CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg


CHWARAEON A DIFYRRWCH

Efallai mai pysgota yw un o'r gweithgareddau chwaraeon hynaf sy'n dal i gael ei gynnal yn yr ardal, yn enwedig ar Afon Dyfrdwy. Yn ddiamau, roedd yn weithgaredd economaidd pwysig yn ystod cyfnodau cynharach. Cofnodwyd bod pysgodfa werthfawr, ar gyfer eog yn ôl pob tebyg, yn Owrtyn [Overton] ar ddiwedd y 13eg ganrif, ac roedd mynachlog Sistersaidd Abaty Glyn y Groes yn berchen ar yr hawliau pysgota ar yr adeg honno. Mae Thomas Pennant yn cofnodi bod cwryglau'n cael eu defnyddio'n helaeth yn yr ardal hon at ddibenion pysgota eog yn ystod diwedd y 18fed ganrif. Hefyd, nododd Pennant fod rasys dwr hefyd yn cael eu cynnal yn y cychod ysgafn hyn, gan gyfeirio at regata odidog a fyddai'n cael ei chynnal uwchlaw Pont Bangor ar Wyl Fihangel a oedd ar ddod (29 Medi). Hefyd, mae'n debygol bod ymelwa ar Lyn Hanmer a Llyn Bedydd o gyfnod cynnar, ac roedd mapiau cynnar yr Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd yn yr 1880au a'r 1890au yn dangos ty cwch ar gyfer pysgota a gweithgareddau hamdden eraill ar lannau Llyn Hanmer. Ceir nifer o weithgareddau eraill nad ymgymerir â hwy bellach, gan gynnwys ymladd ceiliogod, sydd yn anghyfreithlon erbyn hyn. Dywedir bod talwrn y tu ôl i hen dafarn y Buck yn Wrddymbre [Worthenbury] yn cynrychioli hyn, ac mae'n bosibl i hyn fynd rhagddo mewn lleoedd eraill yn yr ardal.

Chwaraeon ysgolion a phentrefi

Mae caeau pêl-droed yn cynrychioli chwaraeon pentrefi modern mewn nifer o ganolfannau, gan gynnwys Bangor Is-coed, Owrtyn [Overton] a Llannerch Banna [Penley], ac mae cae criced pentrefol ychwanegol yn Owrtyn [Overton] a chae criced plas ger ty Parc Iscoyd. Cynhelir amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon pentrefol eraill yn Owrtyn [Overton] ar gyfleusterau fel cyrtiau tenis a grîn bowlio (gan gynnwys hen grîn bowlio y tu ôl i Dy Gwydyr). Mae'r maes boules yn ychwanegiad mwy diweddar, lle cynhelir cystadlaethau ag ymwelwyr o bentref La Murette yn Ffrainc, pentref y mae Owrtyn [Overton] wedi gefeillio ag ef.

Rasio ceffylau

Y gweithgaredd chwaraeon mwyaf enwog a gysylltir â Maelor Saesneg yw rasio ceffylau ar Gae Rasio Bangor Is-Coed, ar lannau afon Dyfrdwy ychydig i'r de o Fangor Is-coed. Cynhelir cyfarfodydd yr Helfa Genedlaethol yno yn rheolaidd yn ystod y tymor rasio.

Cerdded

Oherwydd y diddordeb cymharol ddiweddar mewn cerdded, datblygwyd llwybr 38-cilomedr hamdden â chyfeirbwyntiau sy'n croesi Maelor Saesneg, sef Llwybr Maelor. Mae'n cysylltu llwybrau troed tebyg Swydd Amwythig a Sir Gaer i'r dwyrain â llwybr cenedlaethol Clawdd Offa i'r gorllewin. Mae'r llwybr troed traws-gwlad, sy'n defnyddio llwybrau troed, lonydd a llwybr halio camlas, yn pasio trwy Whitewell, Bronington, Hanmer a Llannerch Banna [Penley]. Cafodd ei agor gyntaf ym 1991 ac mae wedi denu nifer fawr o gerddwyr i'r ardal.