CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy


Tirluniau angladdol, eglwysig a chwedlonol

Mae ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy wedi diogelu etifeddiaeth gyfoethog o dirluniau crefyddol, wedi eu cynrychioli gan adeiladau ac adeiladwaith arall o'r cyfnod cynhanesyddol, y canol oesoedd cynnar a'r cyfnodau ôl-ganol oesol.

Mae grwp pwysig o garneddau hirion cellog yn perthyn i'r cyfnod Neolithig, gan gynnwys y rhai yn Pipton, Penyrwrlodd (Talgarth), Little Lodge, Penyrwrlodd (Llanigon), Cleirwy, a'r pâr o garneddi hirion ger Ffostyll. Roedd o leiaf un beddrod arall yn bod yng Nghroes-llechau, i'r dwyrain o Borthamel, a oedd yn dal yno hyd at o leiaf flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Mae'r beddrodau yn perthyn i grwp arbennig o gofadeiliau yn rhan Sir Frycheiniog o'r Mynydd Du, nad oes ond eu tebyg yn ardal y Cotswolds. Cafodd nifer o safleoedd yn yr ardal eu cloddio ac fe ddangoswyd mai carneddi hirion trapesoidaidd oeddynt, hyd at 50m o hyd mewn rhai achosion, yn amgylchynu un neu fwy o siambrau claddu a ddefnyddid i gladdu nifer o wahanol unigolion. Mae ffurf y cofadeiliau yn cynrychioli 'cartref i'r meirwon' o bosibl, gyda'r siambrau unigol o bosibl yn cynrychioli gwahanol grwpiau teuluol. Mae cryn bellter rhwng y siambrau, ac fe'u gosodwyd ar amrywiaeth fawr dopograffaidd, o ymyl gorlifdir afon Gwy yn achos Cleirwy, hyd at waelod troedfryniau'r Mynydd Du yn achos Penyrwrlodd (Llanigon). Mae graddfa'r cofadeiliau yn awgrymu eu bod yn diffinio tiriogaethau gwahanol grwpiau mewn rhyw ffordd.

Y feddrod gron oedd y math mwyaf cyffredin o gofadail gladdu yn ystod yr Oes Efydd gynnar, a chofnodir nifer o enghreifftiau ar y bryniau is yn Ffostyll, Park Wood, a Choed Meiadd ger Tredomen, yn ogystal ag ar ymyl isaf y Mynydd Du ym Mhen-y-beacon, Wern Frank, Twyn-y-beddau, Y Grib, a Mynydd Bychan ar ymyl tarren y Mynydd Du yn Nhwmpa. Gosodwyd nifer o feddrodau claddu mewn lleoedd amlwg yn y tirlun, ar esgeiriau, cribau neu aeliau'r bryniau, ac er fod llawer o'r beddrodau heb gael eu darganfod hyd yma neu wedi eu difrodi y tu hwnt i bob adnabyddiaeth, mae'r ffaith eu bod yn digwydd bob yn un ac yn weddol bell oddi wrth ei gilydd, yn awgrymu unwaith eto fod rhyw arwyddocâd tiriogaethol iddynt yn ogystal â bod yn fannau claddu. Yn ychwanegol at y tomenni sydd wedi goroesi, cafodd nifer o ffosydd crynion eu darganfod drwy luniau o'r awyr, y rhain hefyd mae'n debyg yn cynrychioli safleoedd claddu o'r Oes Efydd. Cafodd ffos gron unigol ei darganfod ger Applebury ar ochr ogleddol Y Clas ar Wy, a darganfuwyd grwp o chwech ger Spread Eagle, i'r gorllewin o Pipton. Ymddengys fod grwp Spread Eagle yn rhan o domen fynwent, wedi ei lleoli, yn arwyddocaol efallai, ar ymyl y gorlifdir ger cymer afonydd Llynfi a Gwy. Mae tystiolaeth yr olion cnydau yn awgrymu y gallai'r ffosydd crynion fod yn rhan o gasgliad sy'n cynnwys cofadail cwrsws Neolithig a gynrychiolir gan ddwy ffos gyfochrog. Does dim sicrwydd beth oedd pwrpas y cofadeiliau cwrsws, ond ymddengys eu bod yn gysylltiedig â gweithgareddau defodol. Mae carreg unigol yn dal i fod yn weledol amlwg o gylch cerrig Pen-y-beacon neu Blaenau islaw Penybegwn, cofadail o'r Oes Efydd o fath oedd eto â swyddogaeth ddefodol i bob golwg.

Ni wyddys fawr mwy am weithgareddau crefyddol yn yr ardal hyd at gyfnod y canol oesoedd cynnar. Roedd Cristnogaeth eisoes wedi cael ei mabwysiadu erbyn diwedd y 5ed ganrif, ac erbyn y cyfnod hwn roedd cysylltiad agos rhwng yr arweinwyr cynharaf a gofnodwyd ym Mrycheiniog a'r eglwys. Yn ôl y traddodiad yn Nhalgarth y claddwyd Gwenffrewi, merch Brychan Brycheiniog, brenin Brycheiniog, sef ei brif lys, ac mae hyn yn awgrymu bodolaeth tir claddu brenhinol ac eglwys o bosibl yn gysylltiedig â'r llys yn y cyfnod cynnar hwn. Mae'r ffaith fod dwy eglwys Talgarth a Llyswen wedi eu cysegru i Gwenffrewi yn dangos bod cwlt lleol pwysig yn troi o'i chwmpas. Mae'n debyg fod yr eglwys yn Llyswen wedi cael ei sefydlu erbyn canol y 6ed ganrif, mewn cysylltiad â llys cyn-goncwest, ond does dim tystiolaeth bendant o eglwys cyn-goncwest yn gysylltiedig â'r llys tybiedig ym Mronllys.

Roedd Y Clas ar Wy yn ganolfan grefyddol gynnar bwysig arall yn ardal Canol Gwy yn y cyfnod cyn-goncwest, a'i enw Saesneg, sef Glasbury, yn tarddu efallai naill ai o Clas-ar-wy (fersiwn o'r enw a gofnodwyd gyntaf yn yr 16eg ganrif), neu yn cynrychioli cyfuniad o'r gair Cymraeg clas a'r gair Saesneg burh ('caer, lle caeëdig'), yr un ystyr â'r enw Clastbyrig a gofnodwyd gyntaf ym 1056. Ymddengys fod yr eglwys yn sefyll yn union yng nghanol plwyf eang cyn-goncwest a oedd yn cynnwys y dyffryn ar ei hyd, a oedd o bosibl yn rhannu tir i is-eglwysi wrth iddynt gael eu sefydlu yn y cyfnod cyn-goncwest. Cysylltir y clas yn Y Clas ar Wy gyda chwedl Cynidr, mab honedig Brychan, y dywedir iddo gael ei gladdu yn yr eglwys a sefydlodd yno. Roedd yr eglwys gynharach yn Y Clas ar Wy wedi ei lleoli'n strategol ar gymer afonydd Llynfi a Gwy, ac mae lluniau o'r awyr yn awgrymu y gallai'r eglwys fod wedi sefyll o fewn llecyn mawr cromliniol caeëdig. Cafwyd awgrym mai ar Gomin Ffynnon Gynydd i'r gogledd o'r Clas ar Wy yr oedd y sylfeini gwreiddiol, ond mae hyn yn llai tebygol. Ymddengys fod eglwysi cyn-goncwest eraill yn Llowes, Llanfilo a Llanelieu, pob un wedi'i gosod o fewn darn crwn o dir, pob un wedi eu cysegru i seintiau Cymreig, sef Meilig, Eigon, Beilo ac Ellyw yn y drefn yna. Ymddengys fod dwy biler garreg gydag arysgrif, o'r 7fed i'r 9fed ganrif, ar dir eglwys Llanelieu, a chroes o fewn cylch, o'r 11eg ganrif o bosibl, o fath Celtaidd yn Llowes, yn cadarnhau seiliau cyn-goncwest o leiaf dwy o'r eglwysi hyn. Roedd cyfeiriad at Llowes yn ôl pob tebyg yn Llyfr Llandaf o'r 12fed ganrif, yn cyfeirio at rodd a wnaed yn y 7fed ganrif.

Fe wnaed nifer o newidiadau pwysig i drefn yr eglwys yn yr ardal yn dilyn y goncwest Normanaidd yn y 1090au. Fe ailsefydlwyd y clas yn Y Clas ar Wy a'i chyflwyno i St. Peter's yng Nghaerloyw. Cyflwynwyd eglwysi Talgarth a Llanigon i'r priordy Benedictaidd newydd a sefydlwyd gan Bernard de Neufmarché yn y 1090au yn Aberhonddu, a'r enw ar y clastir yn Nhalgarth hyd at y cyfnod modern oedd Tir-y-prior. Fe adeiladwyd eglwys blwyf newydd yn Y Gelli, wedi'i chysegru i'r Santes Fair, ar y dechrau efallai i wasanaethu'r castell cynnar a adeiladwyd gan William Revel yn dilyn concwest Brycheiniog, ac fe grëwyd y plwyf allan o hen blwyf cyn-goncwest Llanigon. I bob golwg roedd yr eglwys wedi cael ei chodi cyn i'r dref ganol oesol gael ei sefydlu ymhellach i'r gogledd, ac o ganlyniad byddai'n aros y tu allan i waliau'r dref. Ymddengys fod yr eglwys ym Mronllys hefyd yn cyfoesi â sefydlu castell Bronllys gan deulu Clifford tua 1090, hon hefyd wedi ei chysegru i'r Santes Fair, ac yn yr achos hwn fe grëwyd y plwyf allan o'r hen blwyf eang oedd yn perthyn i eglwys Y Clas ar Wy.

Cyflwynwyd yr eglwys i briordy Clywinaiddyn Clifford, Swydd Henffordd, ac yn eu daliadaeth hwy yr oedd yr eglwys adeg diddymu'r mynachlogydd. Mae gwreiddiau'r eglwys blwyf a gysegrwyd i San Mihangel a'r Holl Angylion yng Nghleirwy yn ansicr, ond fe allai fod yn sefydliad newydd yn gysylltiedig ag adeiladu Castell Cleirwy. Mae'n bosibl fod nifer o eglwysi a chapeli eraill yn yr ardal wedi cychwyn fel eglwysi perchnogol di-blwyf yn gysylltiedig â chanolfannau maenorol cynnar yn Aberllynfi ac o bosibl Pipton a Llanthomas: mae'n bosibl mai cyfeiriad at hen gapel preifat neu lan yn Llanthomas yw Thomaschurch ym 1340. Mae'n annhebyg fod y capeli bychain hyn erioed yn gyfoethog, ond yn ôl pob golwg roedd nifer o'r eglwysi plwyf wedi casglu cryn gyfoeth yn ystod yr oesoedd canol diweddar er gwaethaf maint ymddangosiadol yr aneddiadau oedd yn gysylltiedig â hwy. Ni ellid fod wedi prynu'r croglenni gwych yn eglwysi unig Llanelieu a Llanfilo heb arian sylweddol, ac eto mae'n edrych yn debyg na fu gan y plwyfi erioed boblogaeth fawr.

Yn dilyn ailsefydlu'r castell a'r dref yn Y Gelli i ffwrdd oddi wrth ganolbwynt gwreiddiol yr anheddiad, fe godwyd capel newydd wedi'i gysegru i Sant Ioan o fewn muriau'r dref, yn y 1250au o bosibl, i wasanaethu fel cymdeithas eglwysig yn ogystal â hwylustod i bobl y dref. Newidiodd afonydd Gwy a Llynfi eu hynt a thorri eu glannau gan lifo drwy hen glas Y Clas ar Wy tua 1660. Arweiniodd hynny at gau'r eglwys a chwalu'r plwyf ymhellach yn y pen draw. Codwyd eglwys newydd San Pedr yn ei lle, a'i chysegru ym 1665. Fe'i hadeiladwyd ar dir uwch ar gerlan yr afon 400m i'r de, gan ddefnyddio rhywfaint o gerrig yr hen eglwys o bosibl. Dadfeiliodd yr eglwys newydd yn y pen draw a chodwyd yr eglwys bresennol yn ei lle, wedi'i chysegru i Sant Cynidr a San Pedr yn y 1830au. Roedd gan gapel San Ioan yn Y Gelli, a elwid ers amser maith yn Eglwys Ifan, hanes yr un mor frith. Fe'i diddymwyd yn Niwygiad canol yr 16eg ganrif ac fe'i defnyddiwyd fel ysgol yn yr 17eg ganrif ond roedd yn adfail erbyn y 1770au. Cafodd ei droi'n ddalfa rhwng 1811-70, yna'n orsaf dân yn ddiweddarach, yn siop, yna yn dy. Cafodd yr adeilad ei ailadeiladu'n sylweddol yn y 1930au ac fe'i defnyddir bellach fel capel a man cyfarfod.

Ceir tair elfen arall yn nhirlun Cristnogol canol oesol ardal Canol Gwy, sef ffynhonnau cysegredig, tiroedd mynachaidd a chroes unigol ar fin y ffordd. Gwyddys am amryw o ffynhonnau cysegredig yn yr ardal, ac er mai ychydig a wyddom amdanynt yn gyffredinol mae chwedlau gwerin neu bwerau iachâu tybiedig yn gysylltiedig â rhai ohonynt. Maent yn cynnwys Ffynnon Eigon yn Llanigon, ar ochr arall Nant Digedi o'r eglwys, Ffynnon Beilo y tu allan i fynwent eglwys Llanfilo, bellach gyda cherrig ar ei phen ond yma'r oedd ffynhonnell ddwr y pentref ar un adeg, Ffynnon Gynydd i'r gogledd o'r Clas ar Wy, a Monk's Well yn Nhir-mynach. Roedd tiroedd Tir-mynach yn rhan o faenor neu fferm yn cael ei rheoli gan frodyr lleyg yn perthyn i abaty Sistersaidd Cwm-hir. Gwelir adeiladau carreg o'r 14eg ganrif, oedd yn rhan o'r faenor yn ôl pob tebyg, yn Fferm Clyro Court. Ymhlith y tiroedd eraill a roddwyd i briordy Benedictaidd Aberhonddu yr oedd tiroedd ger Trefeca Fawr, a gyflwynwyd ar ddiwedd y 12fed ganrif, a thiroedd rhwng Trewalkin a Mynydd Troed a gyflwynwyd ar ddechrau'r 13eg ganrif. Mae'n bosib fod y groes garreg ganol oesol ar fin y ffordd i'r de o Lanigon, a adnabyddir fel y Scottish Pedlar, wedi ei lleoli ar lwybr pererindod canol oesol o'r Gelli i Landdewi drwy Gospel Pass. Fe'i disgrifir gyntaf ym 1690 fel 'Pitch'd in a hedge by ye way side call'd hewl y groes'.

Erbyn diwedd y canol oesoedd roedd ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy wedi'i rhannu rhwng plwyfi eglwysig Y Gelli, Llanigon, Cleirwy, Y Clas ar Wy (ar lannau gogleddol a deheuol yr afon, ond a holltwyd wedi hynny), Llowes, Bochrwyd, Llyswen, Llanelieu, Aberllynfi, Talgarth, Bronllys, a Llanfilo, ynghyd â rhannau bychain o blwyfi Llandefalle a Llangors. Fe ddiddymwyd capel cymdeithas eglwysig Sant Ioan yn Y Gelli adeg y Diwygiad ac roedd yr hen gapeli yn Aberllynfi, Felindre, Cilonw, a'r capel posibl yn Pipton i gyd wedi diflannu erbyn y 18fed ganrif. Roedd y capel yng Nghilonw, wedi'i gysegru i Sant Celin o bosibl, eisoes yn adfail erbyn y 1570au. Doedd gan y capel yn Aberllynfi ddim periglor ar ôl 1660. Fe symudwyd yr hen fedyddfaen o 1635 i eglwys newydd San Pedr, Y Clas ar Wy. Tybir fod y capel yn Felindre wedi dadfeilio erbyn y 18fed ganrif : mae'n bosibl ei fod yn arfer sefyll o dan y neuadd bentref bresennol mewn cae a elwid yn Chapel Field ar un adeg.

Mae llawer o'r gragen allanol ganol oesol wedi goroesi yn Llanigon, Llanelieu, Llanfilo, a Thalgarth, ond yn Y Gelli fe gwympodd yr eglwys tua 1700, gan adael dim ond y twr o'r 15fed ganrif. Fe ailadeiladwyd prif gorff yr eglwys yng Nghleirwy yng nghanol y 19eg ganrif, gan adael dim ond gwaelod y twr canol oesol fel yr oedd, enghraifft brin yng Nghymru o dwr cloch canol oesol yn sefyll ar wahân. Fe ailadeiladwyd yr eglwysi eraill yn Llowes a Llyswen, yr un modd â chorff a changell eglwys Y Gelli, yn llwyr rhwng yr 1830au a'r 1860au, er fod sylfeini'r eglwysi canol oesol, heb amheuaeth, wedi'u claddu o dan y ddaear. Fe agorwyd eglwys newydd ger Cwm-bach i'r gogledd o'r Clas ar Wy ym 1882, gan ffurfio plwyf newydd Yr Holl Saint, Y Clas ar Wy, Sir Faesyfed.

Fe chwaraeodd gororau dwyreiniol Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog ran bwysig yn hanes anghydffurfiaeth Gymreig, a gwelir olion o bwys o fewn y tirlun hyd heddiw. Roedd un anerchiad yn Nhy'r Cyffredin ym 1646 yn sôn gyda chryn bryder fod 'Yr Efengyl wedi rhedeg dros y mynyddoedd rhwng Sir Frycheiniog a Sir Fynwy fel tân mewn to gwellt'. Cysylltir anghydffurfiaeth gynnar yn yr ardal yn arbennig ag arweinydd y Bedyddwyr Vavasor Powell, y credir iddo gychwyn ei bregethu teithiol yn Y Beudy ger capel presennol Maesyronnen ar y bryniau i'r goledd o'r Clas ar Wy yn y 1640au. Cafodd Capel Maesyronnen, a ddisgrifiwyd fel 'yr adeilad pwysicaf sydd wedi goroesi yn gysylltiedig â'r mudiad anghydffurfiol cynnar yng Nghymru', ei drawsnewid o fod yn ffermdy ac ysgubor o'r 16eg ganrif, tua 1696, i fod yn gangen o gymunedau'r Bedyddwyr cynnar a oedd eisoes wedi eu sefydlu yn Y Gelli a Llanigon.

Pasiwyd Deddf Seneddol ym 1649 yn caniatáu sefydlu grwpiau anghydffurfiol dan drwydded. Am gyfnod buont yn cyfarfod mewn tai preifat ac ysguboriau ar hyd a lled yr ardal. Dywedir fod rhan o'r ty newydd a adeiladwyd gan y milwr Seneddol William Watkins ym Mhenyrwrlodd, Llanigon, ym 1650, wedi cael ei neilltuo i'r diben hwn. Wedi hynny, ym 1707, fe adeiladwyd bloc o stablau er mwyn rhoi capel i'r 'Sentars' ar ei lawr uchaf. Sefydlwyd academi o 'sentars' yn hen fferm Llwynllwyd i'r gorllewin o Lanigon ar ddechrau'r 1700au. Roedd Howel Harris a William Williams, Pantycelyn ill dau yn mynychu'r lle, dau a fyddai'n dod yn gymeriadau amlwg yn hanes anghydffurfiaeth Cymru.

Ymddangosodd amryw o enwadau yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, gan gynnwys Bedyddwyr, Methodistiaid Calfinaidd, Methodistiaid Wesleaidd, Methodistiaid Cyntefig, Presbyteriaid, ac Annibynwyr, a lwyddodd ymhen y rhawg i adeiladu eu mannau addoli eu hunain yn yr ardal. Mae llawer o'r capeli sydd wedi goroesi yn dyddio'n ôl i ganol neu ddiwedd y 19eg ganrif, mewn rhai achosion yn disodli adeiladau o ddiwedd yr 17eg neu ddechrau'r 18fed ganrif. Mae'r adeiladau hyn yn aml yn ffurfio elfennau archeolegol a hanesyddol pwysig o fewn trefi a phentrefi'r ardal, ac yn cynnwys pum capel yn Y Gelli, tri chapel yn Nhalgarth, ac un yr un ym Mronllys, Y Clas ar Wy, Cwm-bach, Felindre, Llyswen a Treble Hill. Fe adeiladwyd nifer o gapeli yn y wlad, i wasanaethu'r cymunedau gwledig gwasgaredig, gan gynnwys un yn Felin-newydd, Tredomen, Pwll-mawr ger Tredustan, Pengenffordd, a Chapel Methodistiaid Cyntefig New Zion ger Fferm Moity. Mae nifer o'r capeli i'w cael yng ngolygfeydd syfrdanol yr ucheldiroedd, gan gynnwys Penyrheol a Rhosgwyn, ill dau â tharren ddramatig y Mynydd Du y tu ôl iddynt, a Brechfa, ar ymyl y comin ger Pwll Brechfa.

Rhywbeth arall pwysig a etifeddodd ardal Canol Gwy gan anghydffurfiaeth yw'r casgliad o adeiladau o'r 18fed a'r 19eg ganrif yn Nhrefeca o ganlyniad i weinidogaeth Howel Harris gyda chefnogaeth Selina Hastings, Iarlles Huntingdon. Fe sefydlwyd y gymuned Fethodistaidd yn Nhrefeca gan Howel Harris, sylfaenydd Methodistiaid Calfinaidd Cymru. Yn dilyn profiad crefyddol ysgytwol ym mynwent Talgarth, fe dreuliodd y blynyddoedd ar ôl 1735 yn pregethu ac yn sefydlu cymunedau Methodistaidd yng Nghymru a Lloegr. Fe ysbrydolodd pregethu Harris yr emynydd William Williams, Pantycelyn yntau yn ei dro, i ymuno â'r anghydffurfwyr. Ym 1752 fe gasglodd Harris tua 100 o'i gefnogwyr ynghyd yng Nghymru - a chyfeirio atynt fel ei deulu - mewn cymuned yn Nhrefeca Fach, ei gartref ei hun. Adeiladwyd adeilad newydd i'r gymuned, drws nesaf i'r ffermdy ym 1772, mewn arddull 'Gothig fodern', a chafodd ei ddisgrifio gan William Williams fel 'y fynachlog gastellog' a chan John Wesley fel 'paradwys fechan'. Roedd y gymuned, y cyfeirid ati weithiau fel 'math o fynachlog Brotestannaidd' yn brysur yn ffermio ac yn cynhyrchu nwyddau ac yn anelu at fod yn hunangynhaliol. Fe chwaraeodd Howel Harris ran amlwg yn y gwaith o sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog ym 1754, y gymdeithas gyntaf o'i bath drwy Gymru. Codwyd rhagor o adeiladau er mwyn y gymuned, gan gynnwys capel, ysbyty, baddondy, colomendy a llyn pysgod. Fe sefydlwyd gwasg argraffu ym 1758 a barhaodd i fynd hyd at 1806, ac ysgol i gynhyrchu gwlanenni gydag 8 gwydd yn cael eu gosod ynghyd ym 1756. Ar un adeg dywedir fod y trigolion yn ymwneud â thrigain o wahanol grefftau. Fe ddirywiodd bywiogrwydd y gymuned ar ôl marwolaeth Harris ym 1773. Daeth yr adeilad yn Goleg Diwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd (Coleg Trefeca) ym 1842, ac fe ychwanegwyd rhes o dai llety i fyfyrwyr ym 1876. Fe gaeodd y coleg ym 1906 a bellach defnyddir yr adeiladau fel canolfan hyfforddi i'r Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru.

Oherwydd y cynnydd sydyn yn y boblogaeth a'r defnydd helaethach o gerrig coffa yn hwyrach yn y 19eg ganrif, aeth llecynnau claddu yn brin, yn enwedig mewn aneddiadau cnewyllol. Dyma a arweiniodd at greu mynwent fawr newydd yn Y Gelli, a agorwyd ym 1870, ac o fewn ardal y tirlun hanesyddol hon yw'r unig fynwent ddinesig hyd heddiw. Mae'r fynwent, ar hyd Common Lane i'r gorllewin o'r dref, wedi'i gosod o fewn un o'r caeau stribed a ddaeth i fod pan gaewyd hen gaeau agored canol oesol y dref.

Y tirluniau crefyddol mwyaf diweddar o fewn ardal Canol Gwy yw'r rhai sy'n cael eu creu gan bresenoldeb capeli'r ysbytai yn Nhalgarth a Bronllys, o'r ugeinfed ganrif. Fe adeiladwyd y capel yn Nhalgarth mewn arddull gothig ym 1900, ac fe adeiladwyd capel Bronllys ym 1920 mewn 'arddull Celf a Chrefft gyda dylanwadau'r Mudiad Modern'.

Mae ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy yn cynnwys etifeddiaeth amrywiol a chyfoethog o'r hyn y gellid yn fras ei alw yn gysylltiadau crefyddol, o'r gorffennol cynhanesyddol hyd at y cyfnod modern, ac maent yn bwysig oherwydd sawl agwedd - oherwydd eu harwyddocâd yn nhermau hanes archeolegol, oherwydd eu harwyddocâd gweledol o fewn y tirlun, oherwydd eu cysylltiad â chymeriadau neu fudiadau hanesyddol pwysig, ac oherwydd y dystiolaeth archeolegol a gedwir ganddynt o dan ac uwchlaw'r ddaear. Mae'r cofadeiliau yn cynnig amrywiaeth yr un mor eang o gwestiynau cadwraeth a rheolaeth, ond gellir amlinellu nifer o flaenoriaethau. Mae rheolaeth ar dystiolaeth archeolegol o dan ac uwchlaw'r ddaear yn arbennig o bwysig yn achos safleoedd gydag olion cnydau, tomenni claddu cynhanesyddol a safleoedd eglwysi a chapeli canol oesol sydd wedi cau. Mae cadwraeth adeiladau yn amlwg yn hynod o bwysig gyda golwg ar eglwysi a chapeli canol oesol a hwyrach. Mae mynwentydd eglwysi a chofadeiliau mynwentydd yr un mor bwysig yn nhermau hanes y tirlun. Mae cerrig coffa o fewn ardal y tirlun hanesyddol yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen gan fwyaf ac yn bwysig yn nhermau hanes cymdeithasol, diwylliannol a hanes teulu. Oherwydd natur y dywodfaen leol mae'n drist nodi bod llawer o'r cofadeiliau hyn dan fygythiad bellach. Mae lleoliad gweledol adeiladau a chofadeiliau crefyddol yn eithaf pwysig, yn enwedig efallai gyda golwg ar eglwysi canol oesol a chapeli anghydffurfiol yr ucheldir.