CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy


Tirluniau Diwydiannol

Yr unig dystiolaeth o weithgarwch diwydiannol cynnar o fewn ardal y tirlun hanesyddol yw tystiolaeth o waith haearn blwm Brythonaidd-Rufeinig yng Nghaer Gwernyfed, a ddarganfuwyd o ganlyniad i gloddio archeolegol yn yr 1950au.

Roedd diwydiannau diweddarach yn ymwneud â phrosesu cynnyrch amaethyddol gan fwyaf, drwy ddefnyddio ynni o ddwr fel arfer. Cofnodir dwy felin ddwr i falu yd yn Y Gelli yn y 1330au, a chrybwyllir un yn y 1340au yn gweithio o gafn wedi ei ddargyfeirio o Nant Dulas. Cofnodir amryw o felinau eraill, llawer am y tro cyntaf ar ddiwedd y 18fed neu ddechrau'r 19eg ganrif, gan gynnwys y canlynol: un ar afon Cilonw yn Llanigon; un yn Llowes, yn defnyddio nant Glyn Garth; tair melin ar Nant Cleirwy, Melin Pentwyn, Melin Paradise a Melin Cleirwy ei hun, i'r de o'r pentref, a ddaeth i ben tua'r 1920au; Little Mill, i'r dwyrain o Faesllwch, yn gweithio ar nant oedd yn rhedeg drwy Glyn Cilcenni, a grybwyllwyd gyntaf ar ddechrau'r 17eg ganrif; o leiaf pedair melin ar afon Llynfi yng Nglandwr, melin Pont Nichol, Porthamel a Three Cocks; Melin Trebarried ar afon Dulas ac yn Felin-newydd ar afon Triffrwd, is-afon o'r Dulas i'r gorllewin o Fronllys. Mae hanes rhai o'r melinau wedi ei gofnodi'n eithaf da, er mai ychydig iawn a wyddys am rai o'r lleill, megis yr hen felin yn Felin Cwm ar Nant yr Eiddil i'r de o Dalgarth. Dim ond un melin yd o fewn ardal y tirlun hanesyddol oedd ar afon Gwy ei hun, sef melin ger y bont ym Mochrwyd, er fod melin lifio yn cael ei gyrru â dwr wedi cael ei hadeiladu ar lan ogleddol afon Gwy yn Y Clas ar Wy. Newidiodd swyddogaeth rhai o'r melinau â threigl amser. Credir fod Melin Talgarth, er enghraifft, wedi cychwyn fel melin wehyddu, ond yn ddiweddarach ar gyfer malu yd ac yna ar gyfer bwyd anifeiliaid y'i defnyddiwyd. Daeth ei gwaith i ben yn y 1970au. Yn debyg iawn, cychwynnodd Melin Tregoed fel melin malu yd ond fe'i haddaswyd yn felin lifio a bu'n gweithio rhwng tua 1920-60. Digon gwael oedd y cyflenwad dwr i lawer o'r melinau, yn dibynnu ar y tymhorau, a daeth llawer ohonynt i ddiwedd eu hoes rhwng diwedd y 18fed a dechrau'r 20fed ganrif oherwydd cystadleuaeth â melinau eraill unwaith yr oedd dulliau gwell o drafnidiaeth ar gael. Erbyn 1900 dim ond tua chwech neu saith melin ddwr i falu yd oedd yn dal i weithio yn yr ardal, yng Nghleirwy Talgarth, Three Cocks/Aberllynfi, Y Gelli, Llanigon, Trebarried, a daeth y gwaith o falu yd i ben ymhob un ohonynt yn ystod degawdau cyntaf yr 20fed ganrif.

Roedd ynni dwr hefyd yn cael ei harneisio o gyfnod cynnar i redeg melinau pannu, oedd â morthwylion i guro'r defnydd ar ôl cael ei wehyddu er mwyn glanhau a chadarnhau'r defnydd. Cofnodwyd llond dwrn o'r melinau hyn yn yr ardal yn y 14eg ganrif gan gynnwys un ym mhlwyf Y Clas ar Wy, un ym Mronllys, un mae'n debyg ar afon Dulas, un yn Y Gelli, ar Nant Dulas mae'n debyg, ac un yn Nhalgarth, ar afon Ennig mae'n debyg. Roedd rhai o'r melinau pannu eisoes wedi diflannu yn ôl pob tebyg erbyn diwedd y canol oesoedd, er fod melin ym Mronllys wedi dal ati hyd at y 1760au. Adeiladwyd amryw o felinau papur ar Nant Dulas, un ger Llangwathan ac un ger Cusop, ond oes fer a gawsant mae'n debyg ac roedd eu hoes wedi dod i ben cyn diwedd y 19eg ganrif. Byddai ynni dwr yn cael ei harneisio o bryd i'w gilydd ar ffermydd. Roedd Fferm Old Gwernyfed yn cynnwys ysgubor ddyrnu, a osodwyd yn ei lle yn y 1890au, yn rhedeg ar ynni dwr ac yn cael ei bwydo o gafn. Mae nifer o adeiladau melin carreg o'r 18fed a'r 19eg ganrif wedi goroesi, fel yn achos Melin Talgarth, rhai ohonynt bellach wedi eu trosi ar gyfer defnydd arall, fel yn achos Melin Llangwathan. Melin Tregoed yw un o'r ychydig felinau o fewn ardal y tirlun hanesyddol sydd wedi cadw'i hen beirianwaith. Mae olion y strwythurau cysylltiedig megis coredau, cafnau a llynnoedd wedi goroesi mewn llawer achos, hyd yn oed lle mae'r adeiladau eu hunain wedi adfeilio neu wedi cael eu dymchwel.

Ychydig iawn o olion archeolegol gweledol, neu ddim o gwbl, a adawyd gan hen ddiwydiannau prosesu eraill oedd yn gweithredu o fewn yr ardal, rhai am ychydig o flynyddoedd yn unig. Roedd llin yn cael ei dyfu a'i brosesu yn arbrofol yn yr 1780au a'r 1790au ym mhlwyfi'r Gelli, Y Clas ar Wy a Llanelieu. Roedd pwll llifio, yn perthyn i iard lifio, yn cael ei ddefnyddio ger Genffordd yng nghanol y 19eg ganrif. Awgrymir diwydiant hopys gan enw cae Upper Hop Yard ger Lower Porthamel, a geir yn Rhaniad y Degwm o ganol y 19eg ganrif, a cheir cofnod am fusnes bragu ym Mronllys tua'r un cyfnod. Mae hen fragdy wedi goroesi yng nghefn yr hen Radnor Arms yn Nhalgarth. Mae llwyfannau yn Park Wood ac mewn caeau cyfagos ger Talgarth yn awgrymu bod golosg yn cael ei losgi yma. Roedd amryw o fusnesau yn Y Gelli yn trin crwyn hyd at ddechrau'r 20fed ganrif, ac yn cynnal gweithdy sadler. Roedd busnes didoli gwlân mewn warws fawr yn Y Clas ar Wy ar ddechrau'r 20fed ganrif. Mae'r hen ffatri wlanen wedi goroesi yn Y Gelli. Cafodd ei sefydlu yn niwedd y 18fed ganrif ond roedd wedi cau erbyn tua diwedd y 19eg ganrif. Ychydig iawn a wyddys am yr hen ffatri wlanen yn Nhrefeca, y dywedir iddi gynhyrchu 'peth o'r gwlanen gorau drwy'r dywysogaeth'. Fe sefydlwyd melin Trefeca gan y gymuned Fethodistaidd ym 1752 - ymdrech i gefnogi diwydiant a oedd eisoes yn dirywio, ond dirywio wnaeth hon hefyd ar ôl marwolaeth Howel Harris, arweinydd y gymuned, ym 1773.

Roedd efail y gof ymhlith y diwydiannau crefft gwledig hynny oedd ar un adeg yn gyffredin iawn, a gellir eu darganfod hyd heddiw mewn un neu ddau achos. O safbwynt lleoliad hwylus i alw ynddo, roedd y gefeiliau wedi'u lleoli o fewn trefi a phentrefi neu ar gyffyrdd pwysig. Cofnodwyd busnesau unigol yn Nhrefeca, Felindre, Pontybat, Cleirwy, Y Clas ar Wy, Llanfilo, Llanigon a Bronllys, dwy yn Y Gelli, dwy yn Nhalgarth, a thair yn Three Cocks/Aberllynfi ar ryw adeg neu'i gilydd yn ystod y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif, ac roedd y busnes yn Felindre ac un o'r busnesau yn Y Gelli yn gysylltiedig â gweithdai seiri olwynion. Byddai cynnyrch y gof yn cael eu dosbarthu'n lleol yn aml, ac un enghraifft o hyn yw gwaith haearn J. Jones, gof Pontybat, y gellir gweld ei golfachau hyd heddiw ar ddrysau ysgubor Fferm Trephilip, dim ond tua 1 cilomedr i ffwrdd o'i hen efail.

Roedd cynhyrchu calch yn ddiwydiant arall pwysig oedd yn digwydd ar raddfa go fawr er mwyn cynnal yr economi amaethyddol lleol ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, fel arfer yn agos at chwareli bychain oedd yn ecsploetio'r haenau tenau o galchfaen, ac yn aml wedi'u lleoli mewn lleoedd anghysbell. Cofnodir hen odynau calch yn y lleoliadau hyn: New Forest yn Cusop Dingle; Park Wood i'r gorllewin o Dalgarth; yng Nghwm Rhyd-Ellywe, i'r gorllewin o Lanelieu; odyn Dairy Farm, i'r de o Ffordd-las; ger Coedwig Blaenycwm ac yn Cefn, i'r de o Dregoed; ger Blaenau-uchaf ym mhen uchaf Nant Felindre; ger Bwlch ar ben uchaf Glyn Digedi; yn Chwarel-ddu i'r dwyrain o Dwmpa; ger Tredomen; ger Fferm Hillis; ger Draen; a ger Cwrt Llwyfen. Mae gweddillion strwythur yr hen odynau wedi goroesi mewn llawer achos, yn arbennig felly yn New Forest a Chwarel-ddu. Mae'n ymddangos bod dyddodion twffa ar Gomin Hen Allt wedi cael eu cloddio ar gyfer cerrig adeiladu ac er mwyn llosgi calch. Dim ond enwau lleoedd sy'n dyst i rai odynau, enwau caeau Cymraeg megis Cae'r odyn ac amrywiadau megis Cae rodin a Chae y roden, gan gynnwys amryw yng nghyffiniau Troed-yr-harn, ar fryniau deheuol Talgarth. Cofnodir odyn arall yn seiliedig ar chwarel leol yn Chancefield, yn gweithio yn ôl pob golwg ar ddiwedd y 18fed ganrif. Mae lleoliadau'r enwau caeau yn gyffredinol yn cyfateb yn ôl pob golwg i gerrig brig calchfaen y gwyddys amdanynt, ac mae'n edrych yn annhebygol mai odynau sychu yd neu odynau crochenwaith neu frics y cyfeirir atynt. Dangosir amryw o odynau gan enwau caeau Saesneg, gan gynnwys Limekiln Field i'r de o Felindre a Kiln Piece ger Pant Barn i'r de o'r Gelli. Fe nododd Theophilus Jones ar ddechrau'r 19eg ganrif fod y gost o gynhyrchu calch yn lleol yn ddrud oherwydd eu bod yn bell o'r pyllau glo. Fe ddirywiodd y diwydiant yn ystod y 19eg ganrif oherwydd cystadleuaeth gan y cynhyrchwyr mwy mewn lleoedd eraill, yn enwedig ar ôl adeiladu Tramffordd Y Gelli-Aberhonddu ar ddechrau'r 19eg ganrif.

Gellir gweld amryw o chwareli cerrig eraill yn ardal y tirlun hanesyddol. Rhai bychain yw'r rhain gan fwyaf, yn cael eu defnyddio fwyaf yn ôl pob tebyg o'r canol oesoedd diweddar ymlaen ar gyfer cerrig adeiladu ac mewn rhai achosion ar gyfer waliau caeau. Roedd nifer fach o chwareli yn gweithio ar raddfa mwy masnachol. Roedd chwareli cerrig Llanigon, nepell o dramffordd Y Gelli ac Aberhonddu, yn cael ei gweithio yn y 1840au, yn ôl pob golwg am galchfaen, cerrig adeiladu a theiliau toi. Cofnodir chwareli graean bychain oedd yn ecsploetio dyddodion rhewlifol yr afonydd i'r de o Lowes, ger Tregunter, ger Gwernllwyd i'r dwyrain o Dalgarth, i'r gorllewin o Three Cocks/Aberllynfi, i'r gorllewin o Fronllys, ac i'r de o Ysbyty Talgarth. Roedd dyddodion clai ar ochr cwm serth i'r gorllewin o fferm Whole House, ar y ffin rhwng plwyfi Talgarth a Llangors, yn sail i odyn grochenwaith leol yn cynhyrchu tygiau, jygiau, jariau a chrochenwaith slip a llestri yn y cyfnod rhwng tua chanol yr 17eg ganrif a dechrau'r 18fed ganrif. Mae'r gweddillion yn awgrymu bod teiliau brig to wedi eu sgleinio yn cael eu cynhyrchu hefyd yn y cyfnod hwn. Mae darganfyddiadau ar wyneb y tir a phyllau clai yn ardal Fferm Boatside, Tir-mynach a Wyecliff i'r dwyrain o Gleirwy yn awgrymu bod odynau tebyg hefyd yn gweithredu yma tua'r un cyfnod. Er nad oeddynt yn cynrychioli diwydiant lleol o bwys mawr, roedd brics yn cael eu cynhyrchu'n helaeth ar gyfer prosiectau adeiladu arbennig, fel yn achos y rhai a grybwyllir gan y Parch Kilvert yn y 1870au, yn ardal Nant Cleirwy mae'n debyg. Dywedir bod tair miliwn o frics wedi cael eu cynhyrchu o glai lleol, ar gyfer leinio'r ysbyty yn Nhalgarth, a adeiladwyd ar ddechrau'r 20fed ganrif ac a oedd fel arall yn garreg i gyd.

Ymhlith y diwydiannau byrhoedlog eraill sydd wedi gadael ychydig iawn o'u hôl ond a oedd yn dibynnu ar fewnforio deunydd crai, y mae'r hen waith nwy yn Y Gelli, oedd yn cynhyrchu golau stryd o ganol y 19eg ganrif hyd at ddechrau'r 20fed ganrif. Mwy rhyfeddol fyth yw fod gan Gastell Maesllwch ei olau nwy ei hun yn y 1840au, drwy ddefnyddio glo wedi'i fewnforio, ac mae gweddillion y burfa a'r taclau dal nwy i'w gweld hyd heddiw yn y rhan o'r tir i'r dwyrain o'r ty. Roedd gwaith cemegol bychan yn cynhyrchu Naphthalene drwy ddistyllu col-tar yn weithredol o ganol neu ddiwedd y 19eg ganrif hyd at yr 1920au ar safle gerllaw'r rheilffordd y tu ôl i Dy Pontithel. Hwn oedd cartref rheolwr y gwaith ar un adeg.

Ceid perllannau seidr ar hyd a lled ardal y tirlun hanesyddol ar un adeg, ac roedd llawer o'r ffermydd a'r tai tafarnau yn berchen ar eu tai seidr a'u gweisg eu hunain. Mae'r New Inn yn Nhalgarth yn hawlio mai dyma'r dafarn olaf yng Nghymru lle'r oedd seidr yn cael ei wneud. Ychydig iawn o ôl y diwydiant crefft hwn sydd ar ôl ar wahân i berllannau gwasgaredig wedi eu disbyddu a oedd ar un adeg yn cynhyrchu mathau o afal megis Golden Pippin, Redstreak, Kingston Black, Old Foxwhelp, Perthyre a Frederick fesul llwythi. Un o'r ychydig enghreifftiau yn yr ardal yw'r hen wasg seidr y tu allan i fferm Penmaes, Llanfilo. Mae enghraifft arall o Lanigon, a wnaed o raean maen melin Fforest y Ddena, bellach yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Am beth amser ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif roedd gwaith seidr hefyd ar fynd yn nhref Y Gelli.

Nentydd, afonydd a ffynhonnau oedd prif gyflenwad dwr y trefi a'r pentrefi yn parhau i fod hyd at yn hwyr yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Dyna pryd yr adeiladwyd llawer o danciau dwr preifat ar gyfer llawer o'r ffermydd a'r tai mwyaf yn yr ardal. Roedd twf y canolfannau cnewyllol mwyaf yn golygu buddsoddi rhagor er mwyn sicrhau ffynhonnell mwy dibynadwy. Adeiladwyd Gwaith Dwr Y Gelli ar Gomin Y Gelli uwchlaw'r dref gan gwmni preifat ym 1863 i gyflenwi tref Y Gelli, a chymerwyd cyfrifoldeb am yr argae, a'i hymestyn, gan gyngor y dref ym 1895. Ni chafodd problemau cyflenwad dwr Talgarth eu datrys tan flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, gydag argae newydd yn cyflenwi'r dref yn ogystal â gwallgofdy Talgarth.

Cynrychiolir yr amrywiaeth mawr o ddiwydiannau crefft a phrosesu o fewn ardal y tirlun hanesyddol yn archeolegol gan amryw o adeiladau ac adeiladwaith, gan gynnwys adeiladau melin, cyrsiau dwr a phyllau, chwareli ac odynau, gwaith llaw a pheirianwaith, adfeilion a gweddillion archeolegol wedi'u claddu, pob un ohonynt yn codi pob math o gwestiynau ynglyn â rheolaeth a chadwraeth. Efallai mai'r gweddillion mwyaf cyffredinol a bregus sydd o bwys hanesyddol i'r ardal yw'r dystiolaeth o'r defnydd a wnaed o ynni dwr o'r canol oesoedd hyd at y gorffennol diweddar.