CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy


Tirluniau Addurniadol A Phrydferth

Fe wnaed llawer o sylwadau ynglyn ag ansawdd addurniadol a phrydferth ardal y tirlun hanesyddol, fel yn y cyfieithiad o'r disgrifiad canlynol o lyfr History of Brecknockshire gan Theophilus Jones.

Does dim gwell system o amaethu yn unlle o fewn y sir na'r ardaloedd cyfagos ag a geir ar y tiroedd isel; mae'r olygfa o'r naill ochr i afon Gwy a'r llall, yn enwedig o Ben y lan…..ac o Faesllwch cyn hardded ag y gall dychymyg ei baentio; waeth i ba gyfeiriad y trowch eich llygad, i fyny neu i lawr yr afon, daw pethau prydferth i'r golwg, er eu bod yn wahanol iawn o ran natur. Islaw, wrth edrych o Ben y lan gwelir pont bren Y Clas ar Wy, porfeydd bendigedig a glannau ffrwythlon afon Gwy, ychydig ymhellach i'r gogledd-ddwyrain gwelir llechwedd yn codi'n raddol gyda choed trwchus yma ac acw, yn eu plith coed afalau, gellyg a cheirios, sydd, pan fônt yn eu blodau, yn gwella'r olygfa ac yn creu darlun cyflawn o wlad sy'n cael ei thrin yn dda. Mae'r olygfa ar i fyny yn cynnwys afon Gwy yn ymestyn i'r pellter, pentref Llyswen, a'r ddringfa sydyn i Graig lai, gyda bannau brycheiniog i'w gweld yn y pellter, i gyd yn creu darlun gwahanol iawn o ran nodweddion cyffredinol i'r un blaenorol, ac eto yn cynnwys harddwch eithriadol sy'n well fyth oherwydd y cyferbyniad; wrth ddod i lawr, fodd bynnag, o unrhyw un o'r uchelderau hyfryd hyn tua'r tollborth, gwelwn afon Llynfi yn ymarllwys i mewn i afon Gwy.

Mae Samuel Lewis yn ei Topographical Dictionary of Wales a gyhoeddwyd ym 1833 yn mynegi teimladau diamheuol teithwyr eraill o ddechrau'r 19eg ganrif wrth sôn am y wlad o gwmpas Talgarth: 'it is characterized more by features of rugged boldness than of picturesque beauty, even in some parts bordering on the romantic'. Roedd llygad yr arlunydd o'r 18fed a'r 19eg ganrif, fodd bynnag, yn cael ei thynnu at olygfeydd a henebion dyffrynnoedd Gwy a Wysg yn hytrach na'r bryniau oddi amgylch, a chyhoeddwyd golygfeydd o Sir Frycheiniog mewn llyfrau lluniau yn ogystal ag mewn gweithiau hanesyddol a thopograffaidd. Y golygfeydd cyntaf i gael eu cyhoeddi oedd y rhai o Gastell Y Gelli a Chastell Bronllys gan y brodyr Buck yn y 1740au, golygfeydd y gwnaed brasluniau ohonynt eto gan Sir Richard Colt Hoare, yr hynafiaethwr, yn ystod ei daith gyda Richard Fenton ym 1804. Ymddangosodd Castell Bronllys eto yn Beauties of Cambria, a gyhoeddwyd ym 1823. Adeilad arall o ddiddordeb yn yr ardal, y cyhoeddwyd lluniau ohono oedd Coleg y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhrefeca, a ymddangosodd o 1786 ymlaen.

Mae parciau a gerddi yn elfen arbennig o bwysig yn nhirlun ardal y tirlun hanesyddol, ac mae nifer ohonynt yn ymddangos yn y Register of Landscapes, Parks and Gardens of Special Historic interest in Wales. Cynrychiolir cryn amrywiaeth o dirluniau addurniadol a hamddenol yn yr ardal, gan gynnwys parc ceirw o gyfnod yr oesoedd canol hwyr neu'r Dadeni, gweddillion gerddi ffurfiol Jacobeaidd ac Elisabethaidd, parciau tirlun a thiroedd pleser o'r 18fed a'r 19eg ganrif, a rhai gerddi modern nodedig.

Ymddengys fod y parc ceirw yng Ngwernyfed yn dyddio'n ôl i'r oesoedd canol diweddar. Roedd y darn helaeth hwn o dir, tir agored ar yr iseldir ar un adeg, yn ymestyn o droedfryniau'r Mynydd Du ger Felindre hyd at lannau afon Llynfi yn Aberllynfi, ac ymddengys iddo oroesi heb fawr ddim newidiadau hyd at ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd y parc ceirw yn rhan o faenor, a gellir olrhain ei berchnogaeth gan un o'r prif deuluoedd bonheddig yn y wlad, i ddechrau'r 16eg ganrif o leiaf, a chyn hynny o bosibl. Roedd y maenordy gwreiddiol yn Old Gwernyfed wedi'i leoli ar yr hen ffordd fawr rhwng Talgarth a'r Gelli, gan fynd drwy Felindre a Llanigon. Fe ailadeiladwyd y ty yn helaeth ar ddechrau'r 17eg ganrif, ac mae'n debyg fod gweddillion gardd ffurfiol ryfeddol gyda therasau a osodwyd y tu ôl i'r ty, ynghlwm wrth berllannau a llynnoedd pysgod cynharach o bosibl, hefyd yn perthyn i'r cyfnod hwn. Roedd y parc ceirw yn rhan o faenor yn perthyn i un o'r gwyr bonheddig pwysig. Fe symudodd y perchnogion eu prif gartref i Neuadd Llangoed ger Llyswen tua'r 1730au, er fod gwahanol elfennau addurniadol wedi eu hychwanegu at y parc ceirw yn ystod hanner olaf y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, gan gynnwys cyfres o rodfeydd gyda choed o boptu, i bob cyfeiriad, pistyll dwr a drysfa. Fe adeiladwyd plasty newydd ar arddull Jacobeaidd ym Mharc Gwernyfed, ym mhen gogleddol y parc yn y 1870au a'r 1880au gyda gerddi llysiau wedi'u hamgylchynu gan wal, rhodfa hir, bwthyn ciper a giatiau haearn gyr anferth yn agor mynediad i'r llinellau cysywllt newydd rhwng Talgarth a'r Gelli, yn mynd drwy Three Cocks a Treble Hill i'r gogledd. Fe blannwyd bedw a phinwydd addurnol drwy'r parc yn hanner olaf y 19eg ganrif ac maent yn parhau yn amlwg heddiw, er fod llawer o dir y parc bellach wedi'i rannu'n gaeau llafur ers i'r stad gael ei chwalu yn y 1950au.

Mae'r gwahanol elfennau tirlun addurniadol a gynrychiolir un ar ôl y llall yng Ngwernyfed yn cael eu hailadrodd ar raddfa lai mewn lleoedd eraill o fewn y tirlun hanesyddol. Mae Castell Y Gelli yn cynnwys gweddillion gardd ffurfiol gyda therasau o'r 17eg ganrif a thiroedd pleser o'r 17eg a'r 18fed ganrif o fewn gweddillion y castell canol oesol, gyda phlasty Jacobeaidd yn gysylltiedig. Ceir olion o erddi o'r oesoedd canol diweddar hefyd o bosibl o fewn gardd ffurfiol o'r 20fed ganrif yn Nhrefeca Fawr. Mae'r cloddwaith isel sy'n gysylltiedig â Threbarried yn awgrymu gweddillion gardd arall o gyfnod y gerddi ffurfiol. Mae nifer o dwmpathau yn Y Dderw a mannau eraill o bosibl yn cynrychioli twmpathau i edrych dros y gerddi.

Mae map o Sir Faesyfed gan Saxton o ddechrau'r 17eg ganrif yn dangos parc tirlun cynnar neu barc ceirw o amgylch Great Porthamel. Ymddengys fod parc tirlun prydferth wedi cael ei greu ar hyd y nant i'r gorllewin o'r hen blasty yn Nhregunter yn ail hanner y 18fed ganrif, yn rhannol drwy greu argae ar draws y nant sy'n rhedeg i afon Dulas. Roedd hyn yn un o blith aml i dasg a gyflawnwyd gyda'r ffortiwn a wnaed yn Llundain gan Thomas Harris, brawd hynaf Howel Harris, Trefeca. Cafodd y tir parc o ddiwedd y 18fed ganrif a'r 19eg, lle mae hen Ysbyty Bronllys yn sefyll bellach, ei greu er mwyn cynnwys plasty o'r 1750au ac mae'n cynnwys nifer o goed tir parc sylweddol hyd at 200 oed. Fe godwyd y Plasty Pont-y-wal presennol yn ei le yn ail hanner y 19eg ganrif, gyda gardd a waliau o'i amgylch i'r gogledd-ddwyrain o'r ty. Mae tir y parc sy'n perthyn i Gastell Maesllwch, a gafodd ei greu mae'n debyg yn hanner cyntaf y 18fed ganrif, yn sefyll mewn ardal oedd ar un adeg yn gaeau comin agored ond a gaewyd yn ddiweddarach. Roedd tir y parc eisoes yn bod erbyn y 1770au, ac mae'n fwy na thebyg fod y ffos i'r gogledd o'r ty hefyd yn perthyn i'r cyfnod hwn. Mae ffurf bresennol y parc yn dyddio o'r 1840au pan gafodd parc tirlun mawr, gyda gerddi ffurfiol, gerddi llysiau gyda waliau o'u hamgylch tua'r gorllewin, a thiroedd pleser coediog tua'r gogledd, eu creu fel cefndir i'r plasty castellog, sy'n sefyll mewn lle amlwg uwchlaw dyffryn Gwy. Roedd hyn yn golygu unioni'r ffordd gyhoeddus o'r Clas ar Wy i fyny i Gomin Ffynnon Gynydd ar y bryniau uwchlaw. Llwyddwyd i greu effaith parc tirlun yn y 19eg ganrif drwy blannu coed o gwmpas amryw o dai mawr eraill yn yr ardal, gan gynnwys Trephilip, Felin-newydd, Ty Tregoyd, Fferm Boatside a Clyro Court.

Roedd y perllannau afalau, gellyg a cheirios a oedd ynghlwm wrth dai a ffermydd yn elfen bwysig o'r tirlun yn ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy ar un adeg, ac mae'n drist fod llawer ohonynt wedi edwino erbyn heddiw. Mae rhai o'r perllannau'n dyddio'n ôl i'r canol oesoedd o bosibl, tra bo eraill mae'n debyg yn dyddio o ail hanner yr 17eg ganrif ymlaen. Mae'r Parchedig Francis Kilvert, curad Cleirwy rhwng 1865-72, yn rhoi disgrifiad cyfoes yn ei ddyddiadur yng ngwanwyn 1870:

Mae'r holl wlad wedi ei goleuo yn awr gyda blodau'r gellyg, fel eira yng nghanol eu dail bychain gwyrdd golau. Saif y coed gellyg fel goleuadau o gwmpas y gerddi a'r perllannau ac yn y caeau. Mae'r hen goeden gellyg fawr wych gyferbyn â'r Ficerdy yn ei blodau.

Mae effaith y ffrwythau ar y coed yn hydref yr un flwyddyn yr un mor atgofus:

Rhyw fymryn islaw ar foncyn y berllan yr oedd coeden afalau yn tyfu. Roedd ei changhennau coch llachar a'i brigau ifanc yn sefyll i fyny mewn cyferbyniad hyfryd i'r mynyddoedd glas golau a'r dref lwyd a'r dyffryn glas. Ac roedd twr llwyd Eglwys Cleirwy yn pipian drwy'r canghennau coch llachar.

Gwyddys am amryw o lynnoedd pysgod yn yr ardal yn ychwanegol at y rhai a nodwyd yn Old Gwernyfed, gan gynnwys y llynnoedd pysgod ger Tregunter, cloddwaith ger Fishpond Wood yng Nghwm-bach, sy'n cynrychioli hen lynnoedd pysgod i bob golwg, a'r llynnoedd pysgod yn Nhrefeca Fawr. Ymddengys fod y llynnoedd yn Nhregunter wedi cael eu creu yn y 1760au neu'r 1770au, ond mae eraill yn mynd yn ôl i'r canol oesoedd o bosibl. Ymddengys mai'r llynnoedd i'r gogledd o Drefeca Fawr yw'r rhai a grybwyllir mewn siarter o'r 1170au oedd yn cyflwyno tir i Briordy Aberhonddu gan Roger de Baskerville.

Mae ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy yn cynnwys casgliad nodedig o barciau a gerddi pwysig sy'n bwysig o ran mynegiant o gyfoeth a dylanwad y stadau tir a ddaeth i fod ar sail y maenorau canol oesol yn y tiroedd isel cyfoethog ar hyd afon Llynfi a Gwy. Mae'r gweddillion ffisegol yn cynnwys cloddwaith, twmpathau golygfa, adeiladwaith gerddi, llynnoedd pysgod, gweddillion perllannau, terfynau, gerddi gyda wal o'u hamgylch, a choed wedi eu plannu. Mae pwysigrwydd arbennig yn perthyn i'r llynnoedd canol oesol, gweddillion gerddi ffurfiol o'r canol oesoedd a chyfnod y Dadeni, gweddillion perllannau hynafol, gerddi gyda wal o'u cwmpas neu erddi llysiau o'r 18fed a'r 19eg ganrif, a pharciau tirlun, sydd yn amlwg yn codi amryw byd o gwestiynau ynglyn â rheolaeth a chadwraeth.