CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Trefaldwyn
Trefaldwyn, Powys
(HLCA 1070)


CPAT PHOTO 923.10

Tref a chastell canoloesol ar y gororau a'i caeau trefol agored cysylltiedig, a osodwyd ar anheddiad a system gaeau cyn-Normanaidd a Normanaidd.

Cefndir hanesyddol

Saif yr ardal yn gyfan gwbl o fewn plwyf eglwysig Trefaldwyn o'r 19eg ganrif. Mae'n bosibl bod caeadle olion cnydau tua 40m ar draws yn arwydd o anheddu cynnar. Saif ychydig i'r gogledd o Little Lymore, ac fe allai fod yn perthyn i'r Oes Haearn neu i gyfnod y Rhufeiniaid.

Cododd yr Iarll Rogery castell mwnt a beili pridd a phren a elwir bellach yn Hen Domen ryw 1.5km i'r gogledd-ddwyrain o'r dref yn fuan ar ôl cwymp Mersia yn 1071, a'i enwi Muntgumeri ar ôl ei gartref yn Normandi. Ystyr Trefaldwyn yw 'tref Baldwin'. Cofnodir enw'r lle yn gyntaf fel 'Baldwin's castle' (Castell Baldwyn), ar ôl Baldwin de Boulers mae'n debyg, y gwr y rhoddodd Harri I arglwyddiaeth Trefaldwyn iddo ar ôl 1086, a throsglwyddwyd yr enw Cymraeg a'r enw Saaesneg yn ddiweddarach i'r dref newydd a grewyd yn ystod y 13eg ganrif gynnar. Daeth y castell yn Hen Domen yn bwysig oherwydd bod modd fwylio'r rhyd ar draws yr afon Hafren yn Rhydwhiman (gwelerardal cymeriad Trehelig-gro), drwy fod yn fodd rheoli'r ardal a adawyd oherwydd ymosodiadau gan y Cymry cyn y Goresgybiad Normanaidd, a thrwy weithreu fel man cychwyn ar gyfer ymosodiadau gan y Normaniaid ar GYmru. Bu masnachu yn yr anheddiad newydd hwn, un aio fewn beili'r castell neu ar safle gerllaw sydd heb ei leoli, fel lleoliad pentrefan bresennol Hen Domen.

Dangosodd gwaith cloddio a gwaith maes yn Hen Domen dystiolaeth o weithgarwch cyn-Normanaidd, gan gynnwys adeilad pren â thyllau pyst dan amddiffynfeydd y castell, yn ogystal agelfennau o system gaeau rhych a chefnen gynharach, a oedd y Eingl-Sacsonaidd mae'n debyg, ychydig i'r gorllewin o'r castell. Nid oes hanes cofnodedig i'r hanes ond fel nifer o rai eraill ym Mro Trefaldwyn a grybwyllir yn Llyfr Domesday yn 1086, mae'n bosibl ei fod yn un o nifer o aneddiadau Mersaidd a sefydlwyd i'r gorllewin o Glawdd Offa yn ystod y 9fed ganrif ond a adawyd oherwydd brwydro rhwng Mersia a'r brenhinoedd Cymreig ddechrau'r 11eg ganrif.

Parhaodd gwrthdaro rhwng y teyrnasoedd Cymreig a'r tiroedd oedd yn nwylo'r Normaniaid gydol y 11eg ganrif hwyr a'r 12fed ganrif. Ar un ahclysur, yn 1095, ymosodwyd ar y castell yn Nhrefaldwyn a lladdwyd y garsiwn. Yn y diwedd, yn 1223, yn ystod teyrnasiad Harri III, pan adnewyddwyd yr ymladd rhwng Llywelyn ap Iorwerth o Wynedd a'r arglwyddi Seisnig cyfagos, dechreuwyd codi castell cerrif brenhinol newydd ar y bryn i'r de-ddwyrain, ac yna codwyd tref newydd a dderbyniodd ei siarter gyntaf yn 1227.

Dechreuwyd adeiladu eglwys Trefaldwyn yn y 1220au mae'n debyg, a chrewyd plwyf newydd Trefladwynar yr un pryd mae'n debyg o blwyf ehangach Chirbury, yr ildiodd ei briordy dir yn perthyn i hen feudwyfa ar safle ger y castell newydd. Mae cynllun llawer o'r ffordd ganoloesol wreiddiol yn dal i fodoli heddiw ar y cyd â'r amddiffyniadau, yn enwedig yn y dwyrain a'r gorllewin, ond dim ond ychydig o olion gweladwy sydd o furiau'r dref, ar yr ochr ogleddol. Cymharol ychydig o waith cloddio archeolegol a wnaed yn y dref, ond gwelwyd ypotensial archeolegol ar un safle yn Pool Road, lle cafwyd hyd i gyfres o dechnegau adeiladu â phren o'r 13/14eg ganrif. mae'n ymddangos ei bod yn dref farchnad a bwrdeisdref ffyniannus yn ystod y canoloesoedd, ond fel trefi eraill ar y gororau aeth arei waered yn hwyr yn y canoloesoedd pan beidiodd ei swyddogaeth filwrol. Mae map Speed o'r dref yn 1610 yn dangos llawer man wag yng ngogledd a dwyrain y dref. Yn wahanol i nifer o drefi eraill ar y gororau, methodd â datblygu fel canolfan ddiwydiannol ar ôl y canoloesoedd.

Roedd y castell eisoes yn dadfeilio erbyndechrau'r 14eg ganrif, ond gofalwyd amdano a'i gynnal a daeth yn strategolbwysig unwaith eto pan oedd brwydrau Owain Glwyndwr yn eu hanterth, ddechrau'r 15fed ganrif, a thyfodd y garsiwn i gynifer â 50 o wyr arfog a 150 o saethwyr bwa. Yn ystod y 1620au cododd yr Arglwydd Herbert o Chirbury y plasty briciau newydd yn y ward fewnol.

Yn ystod y Rhyfel Cartref, ildiwyd y castell i fyddin y Senedd ar 4 Medi 1644 a bu dan warchae gan luoedd Brenhinol rhwng 7-18 Medi, a oedd yn ad-drefnu eu hunain ar ôl colli brwydr Marston Moor ym mis Gorffennaf, ac roedd lluoedd y Brenin wedi cynyddu i fod yn llu cyfun o rhwng 4,000-5,000 o filwyr traed a marchfilwyr. Ar 18 Medi bu brwydr rhwng llu'r Breni a byddin y Senedd yn cynnwys tua 3,000 o filwyr yn un o'r brwydrau mwyaf yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Cartref, a bu farw hyd at 500 o filwyr. Mae'r debyg bod maes y gad yn cynnwys y rhan fwyaf o'r tir i'r gogledd-ddwyrain o'r ardal cymeriad, rhwng Lymore Park a Clawdd Offa yn y dwyrain a Hen Domen yn y gorllewin. Mae arolygon systematig â chanfyddwyr metel mewn rhannau o'r ardal wedi dangos gwrthrychau milwrol gan gynnwys bwledi o fysgedau, carbinau a phistolau, ac maent yn dystiolaeth graffig o leoliad y milwyr yn ystod y frwydr, a enillwyd gan fyddin y Senedd. Dangosodd lluniau o'r awyr olion posibl adeiladwaith gwarchaeol neu wersyll yn ymyl cyffordd Sarkley Lane a'r ffordd sy'n arwain tua Ffordun (A4388). Dymchwelwyd darnau mawr o'r castell a phlasty newydd Herbert o'r 1620au yn y man ym 1649-50.

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Mae'r tir yn yr ardal cymeriad yn disgyn o'r clogwyni serth ger y castell i tua 210m uwchben lefel y môr, i lawr i gaeau llawer llai serth i'r gogledd o'r Gamlad, tua 80m uwchben lefel y môr, ac maen wynebu tua'r gogledd-ddwyrain gan mwyaf. Mae'r ddaeareg solet yn cynnwys sialiau Silwraidd, a throstynt mae cefnenni o glai clogfaen. Mae'r priddoedd ar y tir is yn cynnwys yn bennaf stagnoglaw siltiog mân gyda chlai a lôm, ac mae'n llawn dwr yn dymhorol.

Codwyd tref ganoloesol Trefaldwyn ar y tir is dan y castell a phennwyd ei lleoliad gan safle amddiffynnol y castell, ac er nad oedd cynllun rheolaidd yn addas i lawer ohoni bu'n bosibl, er hynny, sefydlu bwrdeistref sylweddol ar y tir llethrog ger y castell, a hi yw'r dref ganoloesol orau ei chyflwr yng Nghymru. Pennwyd patrwm y ffyrdd canoloesol gan bant dan Castle Rock a'r esgair y tu hwnt, dan yr eglwys. Amddiffynwyd y dref gan ffosyss sylweddol ac mae'n bosibl bod yno hefyd amddiffynfeydd o bren a ddisodlwyd gan amddiffynfeydd o gerrig gyda thyrau bob hyn a hyn yn nes ymlaen yn ystod y 13eg ganrif, gyda phedair giât, sef Giât Cedewain yn y gorllewin, Giât Arthur yn y gogledd, Giât Chirbury yn y dwyrain a Giât Kerry Gate yn y de. Ychydig o'r amddiffynfeydd gwreiddiol a welir heddiw ond disgrifiwyd hwy gan Leland yn yr 1530au fel 'great ruines of the waulle' with 'broken towrets, of wiche the whit toure is now the most notable'.

Byddai nant o'r enw Shitebrookyn rhedeg drwy'r dref o safle rhwng Neuadd y DRef a'r Eglwys a thrwy amddiffynfeydd y dref ganoloesol i'r gogledd o Giât Chirbury, a pharodd hyn drwch o ddyddodion llawn dwr sydd o bwysigrwydd palaeoamgylchedol posibl.

Yr adeiladau hynaf yn y dref i oroesi yw'r castell ac Eglwys St Nicholas, ac mae gwaith cerrig o'r 13eg ganrif ar y naill a'r llall, a daethpwyd â'r seddau o'r hen briordy Awgwstaidd yn Chirbury adeg y Diddymiad. Gwnae yr adeiladau masnachol a domestig hynaf o bren mae'n debyg, a phan gloddiwyd plot byngalo yn Pool Road gwelwyd newid o ddull codi â physt i ddefnyddio trawstiau, adeiladwaith ffrâm nenfforch mae'n debyg o'r 13/14eg ganrif. Yr adeiladau pren hynaf sydd wedi goroesi yw nifer o dai ffrâm bren o'r 16eg ganrif, a nifer o dai ffrâm bren o'r 17/18fed ganrif gynnar, syd â mewnlenwad briciau bellach. Defnyddid cerrig a briciau'n fwy cyffredinol yn ystod y 17/18fed ganrif, ac ymhlith yr adeiladau briciau cymharol gynnar yn y dref ceir Clawdd-y-dre lle mae carreg â'r dyddiad 1726. Ymhlith yr adeiladau briciau Georgaidd eraill ceir yn hen Ysgol Elusen o 1747 ar Pool Road a Neuadd y Dref o 1748. Erbyn yr 1830au, ym marn Lewis roedd i'r dref 'a prepossessing aspect, well adapted to render it the residence of genteel families'. Ymhlith yr adeiladau trawiadol eraill ceir Carchar y Sir o'r 1830au a wnaed o friciau â wyneb carreg, a bwa carreg o 1866, yr Eglwys Bresbyteraidd garreg gyda thriniaeth dywodfaen o 1885 a'r Capel Wesleaidd a'r Ysgol ar Pool Road mewn briciau gyda thriniaeth garreg, o 1903. Mae yn y dre nifer o bympiau dwr cyhoeddus, a wnaed o haearn bwrw, yn yr 1870au. Codwyd tai odern yn ymyl y pedair giât ganoloesol ac at ddiwedd y 19eg ganrif a gydol yr 20fed ganrif ehangodd y dref y tu hwnt i'r amddiffynfeydd canoloesol i'r gogledd-ddwyrain, rhwng Giât Arthur a Giât Chirbury.

Ar gyrion y dref cyn belled â Hen Domen mae nifer o ffermydd a manddaliadaethau bychain ar wasgar, gyda nifer fechan o ffermydd canolig y tu hwnt i hynny, ac mae'n debyg bod y rhan fwyaf ohonynt yn deillio o'r canoloesoedd cynnr ac ers hynny, a'u bod wed ymsefydlu ar y caeau agored a arberai berthyn i'r dref ganoloesol. Yr adeiladau hynaf i oroesi yn yr aradloedd hyn yw tai ffrâm bren o'r 17/18fed ganrif gynnar gyda thoeau llechi yn Siglen a bythynnod ffrâm bren yn Stalloe Cottages a Clift Cottage i'r gorllewin o Sarkley. Cynharol ychydig o adeiladau briciau cynnar a geir y tu allan i'r dref, ac un o'r eithriadau yw Castle Farm, ffermdy o'r 18fed ganrif gyda thalcen anghymesur, anarferol. Ymhlith y ffermdai briciau o'r 18/19fed ganrif ceir Rhydwhiman, Pwll, Stalloe, Burnt House, a Sarkley. Ychwanegwyd yr olaf at adeilad ffrâm bren o'r ?18fed ganrif, a cheir ffermdai briciau o'r 18/19fed ganrif a rendrwyd yn Little Lymore a Hen Domen. TCeir bythynnod briciau a thai bychan o'r 19/20fed ganrif ar ymyl y ffordd yn Hen Domen, tho llechi, a nifer o fyngalos modern yn Hen Domen. Ysgubor gerrig yn fferm Rhydwhiman yw un o'r nifre gymharol fechan o adeiladau allanol o gerrig sydd wedi goroesi. Ymhlith yr adeiladau eraill ceir ysgubor ag estyll tywydd yn Siglen, adeiladau allanol o friciau o'r 19/20fed ganrif yn 1 Stalloe, ac adeiladau ffrâm bren a ffrâm ddur o'r 19/20fed ganrif, gyda haearn gwrymiog arnynt yn aml, a welir ymhob man bron, ac ysguborau bach gyda fframiau pren. Mewn nifer o gaeau gwelir wagenni rheilffordd a ailddefnyddiwyd. Ymhlith yr adeiladau eraill yn y wlad ceir bwthyn briciau signalwr o'r 19eg ganrif yn Hen Domen, ac adeiladau diwydiannau ysgafn o'r 20fed ganrif yn Hen Domen ac ar gyrion gogleddol Trefaldwyn.

Ar gyfer pori y defnyddir y caeau y tu allan y dref yn bennaf ond mae tir âr hefyd mewn mannau. Ychydig y mae patrwm y caeau wedi newid ers canol y 19eg ganrif, ar wahân i golli rhai terfynau, ac mae'n debyg ei fod yn cynrychioli'r modd y caewyd y caeau agored gwreiddiol a oedd yn perthyn i dref ganoloesol Trefaldwyn, a hynny yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Ceir caeau stribed petryal hir sy'n dilyn y gyfuchlin, gyda lonydd mewn ceuffyrdd a lonydd gwyrddion, yn rhedeg rhwng caeau âr agored o'r canoloesoedd. Ceir nifer o linsiedi isel ar dir llethrog, ac olion tirwedd cefnen a rhych mewn mannau. Yn gyffredinol, ceir gwrychoedd amlrywogaeth a dorrwyd yn isel gyda chollen a draenen wen yn benaf, rhywfaint o'r ddraenen ddu, celynnen ac ysgawen, a gwrychoedd a osodwyd yn y gorffennol pell ac yn fwy diweddar, a nifer o bonciau isel yn y gwrychoedd. Gwelir llwyni eithin ar y llethrau serthaf.

Yn dilyn Concwest Edward yn hwyr yn y 13eg ganrif, peidiodd arwyddocâd gwleidyddol y rhyd ger Rhydwhiman, ac er bod arwyddocâd milwrol i'r castell o hyd i bob golwg - a hynny tanganol y 17eg ganrif - newidiodd y prif lwybr cyfathrebu rhwng canolbarth Lloegr a Chanolbarth Cymru o blaid ffordd Trallwng-Y Drenewydd, gyda dyfodiad y gamlas yn hwyr yn y 18fed ganrif a'r rheilffordd yn hwyr yn y 19eg ganrif. Trawsffurfiwyd y system ffyrdd o gwmpas Trefaldwyn yn gyfan gwbl yn sgîl Deddfau Tyrpeg 18fed/19eg ganrif, pan adeiladwyd ffyrdd a dorrai ar draws terfynau caeau blaenorol i'r gogledd tua Ffordun (A4388), gan ddisodli lôn droellog gynharach mae'n debyg heibio Thornbury, ac i'r dwyrain i Chirbury (B4386) heibio Winsbury, a dangosir rhan ohoni gan geuffordd ger Little Lymore. Mae cerrig milltir gyda phlatiau haearn bwrw wedi goroesi ar hyd y ddwy ffordd. Mae nifer o'r ffyrdd a'r lonydd cynharach yn rhedeg mewn ceuffyrdd dwfn fel y lôn sy'n arwain at y rhyd ger Rhydwhiman, sydd hyd at 4-5m mewn dyfnder mewn mannau. Cynrychiolir rhan o gwrs cynharach y ffordd tua Sarn, ychydig i'r de o Drefaldwyn, gan geuffordd ddofn ychydig i'r gorlewin o'r ffordd bresennol. Crewyd ffordd newydd o gyfeiriad pont Caerhowel (B4385), ym 1845, gan fod y ffordd cyn hynny yn dilyn llwybr mwy troellog heibio fferm Sarkley. Croesir ochr orllewinol yr ardal gan reilffordd y Cambrian Railway sy'n dyddio o 1860, ac mae'n rhedeg rhwng yr hen orsaf y Ffordun a'r bont dros Hafren yng Nghilcewydd, gan dorri ar draws nifer o derfynau caeau a lonydd a fodolai gynt. Roedd he orsafTrefaldwyn ar ymyl gorllewinol yr ardal cymeriad. Ar y cyfan, mae pontydd ffordd fel Salt Bridge wedi disodli adeiledaua oedd yno o'u blaenau.

Ychydig o olion sydd o'r hen ddiwydiannau prosesu a fu yn yr ardal, gan gynnwys y 'Stanlawes Mill' a gofnodwyd am y tro cyntaf yng ngahnol y 13eg ganrif, i'r gogledd o fferm Stalloe. Mae'n debyg mai dim ond pan oed digon o ddwr yn y gaeaf y defnyddidy felin, a oedd yn dal i gael ei defnddio tan y 19eg ganrif o bosibl, a dangosir lle bu gan bwll sydd wedi sychu'n rhannol. Ceid gweithgarwch diwydiannol arall yn y gweithdy nwy ar y safle lle mae gorsaf dân ffordd Chirbury yn awr. Mae nifer o hen chwareli cerrig, gan gynnwys chwarel y Castell dan Gastell Trefaldwyn.

Ffynonellau cyhoeddedig

Anon 1887; 1888b
Ashton, & Garwood 1985
Barker & Higham 1982; 1992
Barker & Lawson 1991
Baughan
Beresford 1967
Britnell & Jones 1989
Brown, Colvin & Taylor 1963
Charles 1938
Clark 1877a
Davies 1995
Drinkwater 1906
Earp & Hains 1971
Gibson 1991b
Haslam 1979
Howells 1875
Jones & Britnell 1998
Hogg & King 1967
Knight 1992; 1993; 1994
Lavender 1951-52
Lewis 1968
Lewis 1833
LUAU 2000
Lloyd 1948; 1955; 1963-64; 1965; 1971-72
O'Neil & Foster-Smith 1940
O'Neil 1942
Pennant 1783
Sandford 1877
Silvester 1992
Soil Survey 1983
Soulsby 1983
Taylor 1947
Tucker 1958

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.