CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Chirbury
Chirbury, a Brompton a Rhiston, Sir Amwythig a Threfaldwyn, Powys
(HLCA 1074)


CPAT PHOTO 00-C-030

Pentref cnewyllol a ffermydd gwasgarog gyda chloddwaith amddiffynnol o'r canoloesoedd cynnar a'r canloesoedd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gan gynnwys clawdd terfyn a 'burh' Mersaidd, myntau Normanaidd a safle canoloesol â ffos.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal cymeriad yn cynnwys rhannau o drefgorddau Winsbury, Chirbury, Dudston, Timberth, Marrington, Walcot, a Hockleton o'r 19eg ganrif sydd ym mhlwyfi eglwysig Chirbury, Sir Amwythig, yn esgobaeth Henffordd, rhan o blwyf Trefaldwyn, yn esgobaeth Llanelwy, a rhannau o drefgorddau Rhiston, Brompton a'r Ystog yn y rhan Seisnig o blwyf yr Ystog, ydd unwaith eto ym mhlwyf Henffordd.

Cynrychiolir gweithgarwch cynhanesyddol cynnar yn yr ardal gan fwyell Neolithig a ddarganfuwyd ger The Ditches a chan ffosydd crwn olion cnydau lle bu twmpathau crwn or Oes Efydd i'r de o Rownal, i'r gogledd o Chirbury, ac i'r gogledd o Whitley. Dangosir anheddiad Rhufeinig gan ffos ac ynddi grochenwaith Rhufeinig dan fwnt canoloesol Winsbury, ac mae'n debygol bod yr ardal gymharol isel hon yn gymharol ddwys ei phoblogaeth ar y pryd ac yn ystod yr Oes Haearn, a heir aneddiadau mewn caeadleoedd â ffos y gwyddys amdanynt oherwyddawyrluniau yn Brompton, ger Blackford Farm, Great Moat Farm, Poundbank, Rockley Wood, Timberth, Walcot, Whitley, Winsbury, i'r gorllewin o Hollybush Cottages, a rhwng Great Moat Farm a Homeleigh. Ychydig a wyddys am anhedduyn yr ardal hon yn ystod y cyfnod Rhufeinig hwyr, ond mae'n debyg bod aneddiadau Eingl-Sacsonaidd o'r 8/fed ganrif wedi dechrau wrth i deyrnas Mersia ymestyn tua'r gorllewin gan feddianu tiroedd a berthynai gynt i'r Celtiaid. Ceir enwau lleoedd yn cynnwys yr elfen 'tun' sef cartref neu bentref, fel yn Hockleton, Stockton, Dudston, Marrington, a Rhiston. Mae'n bosibl bod Brythoniaid rhydd neu gaeth yn byw yn rhai o'r aneddiadau o'r cyfnod hwn neu'n ddiweddarach, fel a awgrymir gan y Walcot, i'r gogledd o Chirbury, y mae ei enw'n cynnwys yr elfennau walh 'Cymro' a cot/cote 'bwthyn' neu 'lloches'. Roedd y clawdd a ddiffiniai ymyl gorllewinol yr ardal cymeriad, ac a godwyd gan y Brenin Offa cyn iddo farw yn 796, yn dangos pa mor bell roedd pobl Mersia wedi ehangu eu teyrnas erbyn y dyddiad hwnnw, ac mae ei aliniad yn awgrymu iddo gael ei osod ar draws ffermdir agliriwyd, ac mae ei gwrs yn awgrymu gradd o gytundeb rhwng y Brythoniaid er mwyn cadw peth o'r tir amaeth cyfoethog a Rhydwhiman, y rhyd bwysig ar draws Hafren i'r gogledd-orllewin o Drefaldwyn (gweler ardal cymeriad Trehelig-gro).

Mae'r Anglo-Saxon Chronicle yn cofnodi bod burh neu gaer wedi ei chodi gan Aethelflaeda yn Chirbury (Cyricbyrig) yn 915 ac mae'n debyg ei bod eisoes yn ganolfan grefyddol, ac ystyr ei henw yw 'y gaer sydd ag eglwys'. Yn hytrach nag amddiffyn yn erbyn ymosodiadau gan y Cymry, fodd bynnag, roedd ffin orllewinol Mersia yn cael ei hatgyfnerthu yn erbyn y posibilrwydd o ymosodiadau gan y Llychlynwyr yn ystod y rhyfeloedd Danaidd. Dangosodd gwaith cloddio ar safle'r cloddwaith yn y pentref yn y 1950au mai gwan oedd yr amddiffyniad ac ni chafwyd tystiolaeth i'w ddyddio. Mae arsylwadau diweddarach yn awgrymu bod y burh yn gaeadle ehangach o lawer, a godwyd o gwmpas y pentref ar echelin sy'n baralel i'w ffyrdd.

Adeg Llyfr Domesday yn 1086 roedd yr ardal yng nghantref Witentreu, y cedwir ei enw yn yr enw Whittery, ychydig i'r dwyrain o Chirbury, ac mae'n bosibl mai dyma safle man cyfarfod a nodwyd gan goeden drawiadol, ac roedd yn ymestyn o Long Mountain yn y gogledd i Gefnen Ceri i'r de, ac o'r Hafren yn y gorllewin hyd at y tu hwnt i Corndon yn y dwyrain. Rhestrir chwe anheddiad yn yr ardal yn Llyfr Domesday mae modd eu hadnabod - Hockleton (Elchitun), Walcot (Walecote), Chirbury (Cireberie), Dudston (Dudestune), Marrington (Meritune), Rhiston (Ristune). Yn ogystal â'r tir fferm ym mhob anheddiad, roedd gan Marrington a Rhiston goetir i besgi 15 a 30 o foch, yn y drefn hon. Chirbury oedd orif faenor y cantref, gan gadw ei statws blaenorol, pan fuasai yn arglwyddiaeth y Brenin Edward y Cyffeswr adeg y Goresgyniad, ac roedd yno eglwys ac offeiriad. Fodd bynnag, buasai pedwar o'r aneddiadau yn yr ardal cymeriad - Hockleton, Walcot, Chirbury yn rhan ogleddol yr ardal cymeriad - yn 'ddiffaith' adeg y Goresgyniad yn 1066. Mae'n debyg bod yr ardal wedo dioddef ynystod cyrchoedd Gruffudd ap Llywelyn yn erbyn y Saeson yn ystod y 1040au, ac roeddent yn cael eu defnyddio fel tir hela gan dri uchelwr o Fersia, sef Siward, Oslac ac Azor adeg y Goresgyniad. Dim ond Chirbury a Lack oedd wedi adfywio erbyn 1086.

Dechreuwyd adfer yr ardal pan ddaeth dan reolaeth y Normaniaid, yn dilyn cwymp teyrnas Mersia ym 1071 a rhoi Irllaeth Sir Amwythig i Roger o Drefaldwyn. Fel rhan o'r cynllun adfer adeiladwyd castell Trefaldwyn yn Hen Domen yn gynar yn y 1070au i reoli'r ymosodiadau gan y Cymry dros y rhyd yn Rhydwhiman. Roedd anediadau'r ardal cymeriad o fewn ardal castell Trefaldwyn a oedd yn cynnig amddifyniad i'r ardal ac a oedd hefyd yn cynnig cefnogaeth o ran deunyddiau a garsiynu. Erbyn dechrau'r 12fed ganrif roedd cantref Domesday Witentreu yn llawer llai mewn maint ac roedd yn rhan o gantref Chirbury, a oedd bellach yn sir frenhinol Sir Amwythig, ac yn 1233 pennwyd Clawdd Offa fel y ffin rhwng cantref Chirbury ac arglwyddiaeth Trefaldwyn.

Rhoddodd siarter o tua 1190 felin yn Walcot i gymuned fechan o ganoniaid Awgwstaidd yn Snead (gweler ardal cymeriadWernddu). Cyn 1194 mudodd y gymuned i Eglwys St Michael, Chirbury, y fam eglwys wreiddiol mwn plwyf eglwysig mawr a oed mae'n debyg yn cynnwys yn cyfan o gantref Domesday Witentreu, gyda chapeli dibynnol yn Nhrefaldwyn(Hen Domen), Snead, Fforun a Hyssington. Rhoddwyd caniatâd i sefydlu priordy yn Chirbury gan esgob Henffordd yn 1201. Daethpwyd â'r seti cerfiedig i Eglwys St Nicholas o Chirbury adeg y ddiddymiad.

Un o nodweddion hanesyddol mwyaf trawiadol y tirwedd yw'r mwntau cloddwaith canoloesol agos i'w gilydd a chymharol fach y ceir dim llai na phump ohonynt o fewn yr ardal, yn Hockleton, Winsbury, Dudston, Gwarthlow, a Brompton, ganffurfio rhan o'r hyn a alwyd 'perhaps the most remarkable concentration of mediaeval defences on the whole of the Welsh March' - ac mae nifer o fwntau'n gymharol uchel ond bach eu diamedr yn y top, ac yn dyddio yn ôl pob tebyg rhwng diwedd y 11eg ganrif a dechrau'r 12fed ganrif. Codwyd y cestyll cloddwaith bach hyngan dirfeddianwyr lleol pwysig, a rhoddent fesur o ddiogelwch ac amddiffyniad i'w perchnogion a'r ardal o'u cwmpas yn eerbyn ymosodiadau parhaol ar hyd y ffin. Roeddent yn bodoli erbyn 1225 fan hwyraf pan orchmynnwyd i'w perchnogion atgyfnerthu eu hamddiffynfeydd pren yn ysod gyfnod o wrthdaro rhwng Harri III a Llywelyn ap Iorwerth, tywysog Gwynedd. Roedd mwntau'n rheoli'r holl ffyrdd pwysig i Loegr a arweiniai o'r rhyd yn Rhydwhiman, ac mae'n rhaid bod gan rai oghonynt, fel Gwarthlow, olygfaeang dros y wlad o gwmpas.

Erbyn y 1240au roedd nifer o denantiaid o fewn cantref Chirbury yn dal tir ar y sail eu bod yn darparu milwyr yng Nghastell Trefaldwyn ar adeg o ryfel, gan adlewyrchu o bosibl y trefniadau a ddyddiai yn ôl i gyfnod sefydlu castell Trefaldwyn yn y 1070au. Roedd yr eiddo yn cynnwys y rhai â mwnt, fel yn Hockleton, Winsbury, Brompton a Rhiston, a hefyd tenantiaid yn Timberth, Stockton a Chirbury. Erbyn hyn roedd y castell cerrig newydd wdi'i godi uwchben tref bresennol Trefaldwynyn lle'r castell pridd yn Hen Domen (gweler ardal cymeriad Trefaldwyn), ac roedd dyletswyddau'r tenantiaid unigol bryd hynny yn amrywio o ddarparu saethwr am ddiwrnod a noson i ddarparu dyn gyda cheffyl am dair wythnos. Ymhen amser trowyd y dyletswyddau hyn yn amddiffyn y castell yn rhenti.

Daeth y ffin yn fwy sefydlog yn gyffredinol wedi i Edward oresgyn Cymru yn nes ymlaen yn y 13eg ganrif, ac eithrio'r cyfnod byr o anghydfod adeg gwrthryfel Glyndwr. Mae'n debyg mai i'r cyfnod rhwng diwedd y 13eg a'r 14eg ganrif y mae safle mwntog Great Moat Farm yn perthyn, ac mae'n bosibl mai i greu argraff y'i creywd lawn cymaint ag i amddiffyn. Roedd lladrata'n dal yn broblem, fodd bynnag, yn enwedig gan ladron gwartheg a oedd yn elwa ar y fasnach gynyddol mewn gwartheg, fel yn 1410 pan ladratwyd gyrr o 47 anifail yn Winsbury a'u gyrru i Gymru.

Yn ystod y canoloesoedd hwyr mae'n debyg bod daliadaethau cynharach wedi eu hatgyfnerthu ac erbyn diwedd y canoloesoedd newidiodd y trefgorddau cynharach, a fu unwaith yn cynnwys anediadau bach lle roedd nifer o bentrefwyr yn rhannu hawliau ar dir aredig agored, a thir pori comin a choetir, yn batrwm o ffermydd a weithiwyd gan dirfeddianwyr neu denantiaid unigol. Parhaodd y priordy Awgwstaidd yn Chirbury i gaffael tir dwy grant a chyfnewid drwy gydol y canoloesoedd, a daeth yn dirfeddiannwr o bwys o fewn y plwyf a'r tu hwnt, gan gynnwys tiroedd yn Caeprior, rhwng Chirbury a'r Ystog. Gostyngodd ei incwm wrth i amaethu leihau, oherwydd methiannau mawr y cnydau a phlâu ddechrau'e 14eg ganrif ac erbyn 1423 dywedir ei fod 'in a state of spiritual and material collapse'.

Yn 1553, yn dilyn diddymu'r mynachlogydd, daeth daliadaethau'r priordy i ddwylo'r teulu Herbert, un o'r teuluoedd o uchelwyr lleol, a oedd drwy briodas a phrynu yn parhau i ymestyn ei ystad o fewn yr ardal tan y 18fed ganrif. Parhaodd grawn, magu gwartheg a chynhyrchion llaeth i fod yn brif elfennau'r diwydiant amaethyddol, ond tyfid hopys yn y plwyf yn gynar yn y 17eg ganrif. At ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif roedd magu ceffylau amaethyddol yn bwysig.

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Mae'r ardal yn gyfran fawr o wastatir ychydig yn donnog Bro Trefaldwyn, sydd â dyffryn y Gamlad i'r gogledd, Marrington Dingle i'r dwyrain, dyffryn Caebitra i'r de a Chlawdd Offa i'r gorllewin. Mae'r ardal yn amrywio mewn uchder rhwng tua 80m uwch lefel y môr yn y gogledd lle mae'n ymylu ar rannauisaf dyffryn yr afon Camlad, i tua 165m uwch lefel y môr a'r man uchaf yw safle mwnt Gwarthlow. Fe'i croesir gan amryw nentydd sydd yn ymuno â'r Gaebitra i'r de neu i'r Gamlad i'r gogledd. Ceir pyllau a ffynhonnau gwasgaredig, yn ymyl ffermydd yn aml. Mae'r ddaeareg oddi tani'n cynnwys sialiau Ordofigaidd yn y dwyrain a sualiau Silwraidd yn y gorllewin, a phriddoedd siltiog, mân a geir gyda chlai, ac maent yn llawn dwr yn dymhorol. Ceir darnau o goetir collddaill a chonifferaidd hwnt ac yma hefyd.

Mae'r aneddiadau heddiw yn cynnwys pentref Chirbury, nifer o fythynnod ar ochr y ffordd a môn-ddaliadaethau, gyda ffermydd mawr ar y cyfan gyda hyd at 1km rhyngddynt, a'r rheini yn eu caeau eu hunain yn aml yn hytrach nag ar hyd y ffyrdd cyhoeddus, ac mae rhai ohonynt mewn linell fras 500-1500m y tu ôl i Glawdd Offa ac wedi eu lleoli ar godiad tir neu gefnen. Mae cyfran o'r ffermydd hyn yn ganolbwynt i'r trefgorddau y maent yn rhan ohonynt ac mae'n ymddangos eu bod mewn bodolaeh fel aneddiadau erbyn canol yr 11eg ganrif.

Mae pentref Chirbury wedi ei godi o gwmpas Eglwys St Michael, eglwys ganoloesol fawr, corff eglwys hen briordy y canoniaid Awgwstaidd a ddaeth yn eglwys y plwydf ar ôl y Diwygiad. Mae'r transeptau a'r gangell wreiddiol wedi diflannu bellach ond ceir colofn unigol o'r 13eg ganrif yn y fynwent sef y cyfan sydd i'w weld o weddill y cyfadail mynachaidd, er bod cerrrig nadd eraill o'r hen briordy i'w gweld ar dir Chirbury Hall. Ychwanegwyd cangell briciau at yr eglwys yn 1733. Ymhlith yr adeiladau eraill yn y pentref ceir ysgoldy ffrâm bren o'r 17eg ganrif a hen ysgol ac adeiladau allanol i'r de-ddwyrain o'r eglwys, Chirbury Hall, ty cerrig o ddechrau'r 18fed ganrif gyda thriniaethau mewn briciau, gan ailfodelu adeilad hynach, a cholomendy briciau wythochrog, bythynnod ffrâm bren o'r 17/18fed ganrif, tai a bythynnod cerrig o'r 18fed ganrif, adeiladau briciau o'r 18/19eg ganrif gan gynnwys School House a hen dy a rowyd bellach yn westy sef y Herbert Arms Hotel, yn ogystal â nifer o dai modern. Ceir nifer o ffermydd gweithredol o fewn y pentref gydag ysguboriau ag estyll tywydd ar gerrig sylfaen ac ysguboriau o'r 18/19eg ganrif o gerig a chwarelwyd, ac ambell adeilad ffrâm ddur ac ysguboriau pyst pren. Mae cyfadail diddorol i'r gogledd o Chirbury Hall yn cynnwys ysgubor ffrâm bren ag estyll tywydd o'r 17eg ganrif a thy injan briciau. Ymhlith yr adeiladau eraill ceir neuadd bentref friciau o ddechrau'r 20fed ganrif. Mae siop ffrâm bren ag estyll tywydd yr hen efail hefyd wedi goroesi.

Mae nifer sylweddol o'r adeiladau ffrâm bren wedi goroesi yn y wlad, gyda ffermdai ffrâm bren o ddiwedd y 16eg i'r 17eg ganrif yn Sidnal, Rhiston, Rockley gydag estyniadau o'r 18fed i'r 20fed ganrif, mewn briciau'n aml, a bythynnod ffrâm bren Lower Lane Cottage a'r Old House, yn ymyl Homeleigh, ac i'r de-orllewin o West Duston. Mae nifer o ffermdai ffrâm bren o ddiwedd y 16eg i'r 17eg ganrif bellach wedi eu cau mewn cerrig neu friciau, fel yn achos Great Moat Farm, Upper Gwarthlow, a Timberth. Ar ôl y rhain, i bob golwg ceir y ffermdy cerrig o'r ?18fed ganrif yn Coed Farm, a bwthyn cerrig ger Rockley Wood. Mae'r adeiladau o'r 19eg ganrif bron yn ddieithriaid wedi eu codi o friciau gan gynnwys y ffermdai yn Winsbury, Homeleigh, Caeprior, Lower Gwarthlow, West Dudston, y ffermdy a ailfodelwyd yn East Dudston, a'r bythynnod ar ymyl y ffordd yn Red House, Cross House, Poundbank, Hollybush Cottages. Mae nifer sylweddol o adeiladau fferm cynnar hefyd wedi goroesi, gan gynnwys yr ysguboriau, beudaiac ysguboriau dyrnu gyda ffrâm bren o'r 17eg ganrif yn Rockley, Sidnal, Heightley, The Ditches, ac Upper Gwarthlow, ac fel arfer mae ganddynt estyll pren a waliau cynnal cerrig, ac weithiau mae'r talcenni wedi eu hailgodi mewn cerrig neu friciau. Ceir ysguboriau cerrig hefyd yn Old House, Sidnal, Coed Farm, ac olion adeilad cerrig cynharach yn Lower Gwarthlow. Mae gan nifer o'r adeiladau cynharach estyll tywydd, fel yn Old House, Timberth, Sidnal, Rhiston, Coed Farm, Upper Gwarthlow, ac mae conglfeini gan rai ohonynt. Mae adeiladau allanol o friciau o'r 19/20fed ganrif yn eithaf cyffredin, fel yn Homeleigh, Timberth, Caeprior, Rhiston, Lower Gwarthlow, Winsbury, gydag ysgubor o'r 18/19eg ganrif o friciau yn Upper Gwarthlow. Mae gan y rhan fwyaf o'r ffermydd mawr adeiladau fferm ffrâm ddur o'r 20fed ganrif. Mae'r seilos grawn uchel o'r 20fed ganrif yn Timberth, Lower Gwarthlow, West Dudston, Winsbury a'r seilo is yn Sidnal yn un o nodweddion trawiadol y tirwedd cyfoes.

Marrington Hall, ar ymyl gorllewinol ceunant Marrington ar ymyl dwyreiniol yr ardal cymeriad, oedd canolbwynt un o'r ychydig ystadau bach yn yr ardal cymeriad, ac roedd Middle Alport ac Upper Alport yn perthyn iddi (gweler ardal cymeriad Marrington Dingle). Mae'n debyg bod yr ystad wedi ei seilio ar un o'r ddwy faenol yn Marrington a grybwyllir yn Llyfr Domesday, ac mae'r neuadd bresennol yn dy gwledig ffrâm bren o Oes Victoria ond yn null oes Elizabeth, sydd yn cynnwys ty ffrâm bren o ddiwedd yr 16eg ganrif, ac efallai bod yr adeilad hynaf wedi ei gysylltu â deial haul o 1595 a godwyd gan Richard Lloyd gyda'r geiriau 'FROM DAI TO DAI THESE SHADES DO FLEE AND SO THIS LIFE PASSETH AWAIE', a oedd yn ei erddi'n wreiddiol.

Defnyddir y tir heddiw ar gyfer pori ac i'w aredig, a cheir cnydau ar gyfer porthi. Ceir caeau cymharol fawr, ac fel arfermae ganddynt wrychoedd amlrywogaeth wedi eu torri'n isel gan gynnwys collen, draenen wen, a chelynnen, gyda choed derw aeddfed ar wasgar yn y terfynau a ysgaw a choed helyg ar lannau'r nentydd. Mae'n ymddangos bod llawer o'r terfynau wedi eu gosod allan mewn perthyna â'r gyfuchlin neu nentydd. Mae llawer o'r terfynau'n afreolaidd sy'n awgrymu clirio tir fesul darn, ond mae rhai'n sythach ac yn awgrymu bod unedau gwreiddiol wedi eu hisrannu, a cheir ambell ran afreolaidd mewn rhai terfynau lle cyfunwyd caeau blaenorol. Ceir rhai gwrychoedd gosod mwy diweddar a rhai sy'n hynach sydd bellach wedi tyfu allan, a rhai sydd wedi eu gadael lle na welir bellach ond rhes fylchog o goed neu brysgwydd. Yma a thraw hefyd ceir ponciau caeau isel. Mae patrwm y caeau heddiw yr un fath fwy neu lai a'r hyn a fodolai erbyn cnaol y 19eg ganrif, ond bod rhai caeau wdi eu cyfuno. Ceir ffosydd mewn caeau mewn manau, fel y rhai i'r gorllewin o Marrington Hall, lle gwellwyd y tir yn y 17/18fed ganrif o bosibl neu hyd yn oed yn gynharach.

Gwelir olion niferus o dir cefnen a rhych lle bu amaethu agored yn y canoloesoedd, a hynny ar ob ochr i Chirbury, ac mae'r rhai i'r de yn hynach na ffordd dyrpeg Chirbury-Yr Ystog (A490). Gwelir olion cefnen a rhych hefyd mewn cysylltiad â nifer o drefgorddau gerllaw, er enghraifft yn ymyl Sidnal, Winsbury, a West Dudston.

Mae nifer o'r priffyrdd yn yr ardal yn gymharol ddiweddar, gan gynnwys y prif ffyrdd rhwng Chirbury a Threfaldwyn (B4386) a rhwng Chirbury a'r Ystog (A490), sy'n ffyrdd tyrpeg o ddiwedd y 18fed ganrif. Mae'r ffordd Trefaldwyn-Chirbury yn dyddio o ar ôl 1768 a disodlodd hen lôn droellog y gellir gweld ei chwrs mewn mannau, ac mae hen garreg filltir o'r 19eg ganrif i'w gweld ar y ffordd dyrpeg ger troad i Crankwell Farm. Roedd hen lôn o Drefaldwyn i Chirbury hefyd yn rhedeg heibio Little Lymore a mwnt canoloesol West Dudston ac fe'i cynrychiolir gan lwybrau troed a cheuffyrdd. Y ffordd gynharach rhwng Chirbury a'r Ystog yw'r lôn droellog sy'n rhedeg mewn ceuffordd hyd at 1m mewn dyfnder heibio Homeleigh a Caeprior a'r lôn werdd rhwng Cross House a Coed Farm.

Dangosir ffordd hynafol rhwng y rhyd ardraws Hafren yn Rhydwhiman a'r Ystog heibio Lymore Park, mwnt Gwarthlow a Rhiston, gan lwybrau troed a therfynau caeau a ffordd bresennol. Cysylltir aneddiadau canoloesol Winsbury, Dudston, Great Moat Farm, a Rhiston gan gyfres o lonydd a llwybrau troed sydd yn dra hen mae'n debyg. Ymhlith y pontydd ceir Pont Whittery (pont faen o'r 19eg ganrif gyda bwa briciau a cherrig bwa ar draws y Gamlad), Pont Chirbury (pont gerrig o'r ?18fed ganrif, gydag un bwa ar draws y nant ar ffordd Chirbury-Trefaldwyn), a dwy bont lai o ?ddechrau'r 19eg ganrif gydag un bwa ar draws yr un nant i'r de o Chirbury (mae gan y naill fwa gerrig ar lwybr fferm a'r llall fwa briciau ar y ffordd fach i Homeleigh Farm). Cynrychiolir diwydiannau cloddio a gwneuthur arraddfa fechan gan byllau clai gadawedig, pyllau gro a phyllau clai a gwaith briciau yn ardal Chirbury, Walcot a Whittery Bridge, a welir ar fapiau'r Ordnans o ddiwedd y 19eg ganrif.

Mae cloddweithiau ardal Chirbury yn nodwedd bwysig yn y tirwedd, ac yn euplith ceir gwersyll, sawl mwnt canoloesol, safle â ffos, caeadle, a Chlawdd Offa, sef ffin orllewinol yr ardal cymeriad.

Ymhlith y tirweddau addurniadol yn yr ardal ceir gerddi Chirbury Hall a Walcot. Mae rhai o'r planhigion yn dal yn y gerddi i'r gorllewin o Marrington Hall, a ddangosir ar fapiau'r Ordnans o'r 1880au, yn ogystal â mynedfa gerrig a'r porthdy cerrig gyda thriniaeth friciau o'r 19eg ganrif.

Ffynonellau cyhoeddedig

Addyman 1962
Anon 1875; 1898
Barker & Higham 1982; 1992
Baugh 1989
Burd 1874
Chibnall 1973
Chitty 1949-50
Crannage 1909
Davies 1999
Earp & Hains 1971
Ekwall 1960
Everson 1991
Eyton 1854-60
Fox 1955
Gaydon 1973
Gelling 1978; 1992
Herbert 1907
King & Spurgeon 1965
Lanford 1908
MacLeod 1906
Morris 1982; 1999
Mountford 1928
Owen 1875
O'Neil 1942
Pevsner 1958
Scard 1990
Soil Survey 1983
Sotheby's 1999
Thorn & Thorn 1986
Trueman 1987
Wainwright 1960
Watson 1987
Watson & Musson 1993
Whitlock 1961

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.