CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn


Tirweddau Amaethyddol

Er nad oes tystilaeth ar gael ar hyn o bryd, a barnu oddi ar y safleoedd cynhanesyddol cynnar a'r darganfyddiadau a wnaed yn yr ardal, mae'n debygol bod nifer o ardaloedd o fewn Bro Trefaldwyn wedi eu clirio ar gyfer amaethyddiaeth yn ystod yr Oesoedd Neolithig ac Efydd. Mae nifer sylweddol o fryngaerau a chaeadleoedd o'r Oes Haearn ac o gyfnod y Rhufeiniaid ar draws yr ardal ac e maiychydig o safleoedd agloddiwyd, mae eudosbarthiad yn awgrymu bod darnau eang o ucheldir ac iseldir wedi eu clirio yn ystod ail hanner y mileniwm cyntaf OC, i greu tir pori a thir aredig, i gefnogi economi ffermio cymysg, a thryw hynny efallai gyfyngu darnau o goetir brodorol i'r llethrau serthaf a'r a'r llethra a'r dyffrynnoedd mwyaf anghysbell.

Mae'n bosibl bod yr aneddiadau Mersaidd sydd ar wasgar ar draws yr ardal ac a oedd wedi cychwyn yn y cyfnod rhwng y 7fed a'r 10fed ganrif, yn disgyn yn uniongyrchol mewn sawl achos o'r ffermydd a'r cymunedau hyn o'r Oes Haearn a'r cyfnod Rhufeinig, ac wedi ymsefydlu mewn tirwedd a oed eisoes yn amaethyddol aeddfed. Mae'r llinell syth a ddilynir gan Glawdd Offa ar draws y fro yn awgrymu ei bod wedi ei godi ar draws caeau a gliriwyd eisoes o goed yn yr 8fed ganrif. Mae tystiolaeth o Hen Domen ger Trefaldwyn yn awgrymu bod y castell mwnt a beili Normanaidd yn sefyll ar system caeau rhych a chefnen gynharach, a oedd yn perthyn mae'n debyg ianhediad Mersaiss cynharach ac a adawyd cyn y goresgyniad Normanaidd.

Roedd pysgota a hela am fwyd a hwyl yn bwysig yn yr ardal ers y cyfnod cynharaf. Me Llyfr Domesday yn cofnodi tri physgodlyn yn Hem, ar hyd y Gamlad mae'n debyg, ac efallai fod yma faglau. Mae Llyfr Domesday hefyd yn cofnodi caeadleoedd â gwrychoedd yn Hem ac Ackley, ar gyfer dal ceirw mae'n debyg. deg y Goresgyniad Normanaidd, yn 1066, roed llawer o'r aneddiadau yng nghanol y fro wedi eu gadael, o ganlyniad i ymosodiadau gan y Cymry mae'n debyg, a daethai'r ardal yn rhan o dir hela tri uchelwr Mersaidd o'r enw Siward, Oslac ac Azor.

Yn ystod y canoloesoedd mae'n debyg bod pob un o'r trefgorddau neu'r canolfannau wedi datblygu ei phatrwm ei hun ar gyfer denfyddio'r tir gan gynnwys caeau âr agored, tir pori a choetiroedd. Yn ffodus mae olion caear âr agored o'r canoloesoedd yn dal i'w gweld fel rhych a chefnen mewn nifer o fannau ar draws yr ardal, gan gynnwys rhai i'r gogledd o'r Ystog, i'r de a'r dwyrain o gastell Hyssington, i'r dwyrain o fferm Cabbulch ac i'r gogledd o Upper Snead, yn ymyl Sidnal, Winsbury a West Dudston, i'r de o Berthybu a Mount Nebo, ac yn ymyl Red Hopton a Hagley. Yn y trefgorddau Cymreig, yn y mannau hynny lle ceir caeau âr agored, ceir enwau caeau sydd yn cynnwys yr elfen 'maes'.

Mae darnau helaethach o gefnen a rhych i'w gweld o hyd mewn llawer o'r caeau o gwmpas Chirbury, sef y tiroedd âr eang a berthynai i'r maenor a'r priordy gynt. Gwelir caeau agored canoloesol eraill lle mae patrwm o gaeau stribedi i'r gogledd a'r dwyrain o Drefaldwyn, ac ma rhai ohonynt yn cynnwys cefnen a rhych, lle bu'r caeau âr agored a berthynai i'r fwrdeistref ganoloesol. Ceir darnau helaeth o gefnen a rhych hefyd yn Lymore Park, i'r dwyrain o'r dref, lle caewyd caeau agored blaenorol i greu parc hela preifat erbyn diwedd y 16eg ganrif neu'r 17eg ganrif gynnar. Cadwyd darnau helaeth tebyg o dir cefnen a rhych o fewn parcdi Gunley, a greyd mae'n debyg drwy droi caeau âr agored yn barcdir yn y 17eg ganrif neu'r 18fed.

Cofnodir coetir yn Llyfr Domesday yn Edderton, Hem, Yr Ystog, Rhiston a Marrington. Gwnaed nifer o gyfeiriadau yn y 12fed a'r 13eg ganrifat glirio coetir a thorri coed yng nghoedwigoedd Snead, a oedd i bob golwg ar dir uwch rhwng Hyssington a Bagbury. Roedd angen llawer o goed derw argfer adeiladu ac fel tanwydd drwy gydol y canoloesoedd a'r cyfnod wedyn, a dywedir i lawer o goed derw gael eu symud o blwyf Yr Ystog mor ddiweddar â'r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd mannau llifo yn gyfredin yn yr ardal, a barnu yn ôl enwau caeau, fel yn Bagbury, Brompton, Forden, Pentrenant, Tan House i'r de-orllewin o Mellington, i'r de-orllewin o Facheldre, i'r de o Spy Wood, ac i'r gogledd o Aston Hall.

Roedd llawer o'r tirwedd o fewn Bro Trefaldwyn eisoes wedi ei glirio ac roedd yn edrych fel y mae heddiw erbyn y 17ed a'r 18fed ganrif, wrth i dir mwy ymylol gael ei glirio a'i wella ac wrth gau tiroedd eraill drwy gytundebau preifat, a llechfeddiannwyd tir ar gyfer tirpori garw. Yn aml, arweiniodd cau hen dir âr a chaeau comin yn yr ardaloedd isel, fel yn achos y tir âr rhwng Trefaldwyn a Chirbury a'r dolydd ar hyd rhannau uchaf y Gamlad, at greu caeau mwy a mwy rheolaidd, gyda gwrychoedd sydd yn aml yn cynnwys nifer gyfyngedig o brysgwydd. Arweiniod y broses raddol o glirio a chae tir bob yn dipyn yn y mannau mwy bryniog, fel yn achos y llethrau i'r gogledd o Gefnffordd Ceri, y bryniau i'r gorllewin o o Drefaldwyn ac i'r gogledd a'r gorllewin o Hyssington, at batrwm nodweddiadol o gaeau llai a mwy afreolaidd. Fe'u cysylltir yn aml â hen wrychoedd,rhai ar linsieci neu bonciau clirio, gan gynnwys amrywiaeth eang o rywogaethau.

Gwnaed llawer o welliannau yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg er mwyn cynyddu cynhyrchu amaethyddol, ac mae nifer ohonynt yn dal i'w gweld yn y tirwedd heddiw. Cloddiwyd pyllau marl i wella ffrwythlondeb ac ansawdd y pridd, fel yn Hem Moor, yn yr ardal rhwng Chirbury a Walcot, ac i'r de o Lymore. Ceisiwyc gwella traeniad y tiroedd isaf gwlyb drwy agor ffosydd a chloddiau yn rhannau uchaf dyffryn Camlad a thrwygodi ponciau i rwystro gorlifo ar hyd rhannau isaf y Gamlad. At ddiwedd y 19eg ganrif, roedd odynnau bruciau y ymyl yr Ystog a Snead yn cynhyrchu pibelli traenio i wella ansawdd y tir. Rhesymolwyd y daliadaethau, gan gynnwys cyfnewid darnau gwasgaredig o dir a chau'r tiroedd comin uchel ac iel oedd yn dal i fodoli. Ymhlith y mannau trawidaol a gaewyd o fewn Bro Trefaldwyn ceir tir o gwmpas Ffordun ac ar hyd Cefnffordd Ceri, lle sefydlwyd tirweddau amlwg gyda chaeau petryal â therfynau syth, un ai gyda ffensiau pyst a gwifren neu wrychoedd un-rhywogaeth, y ddraenen wen fel arfer.

Ymhlith nodweddion amlwg tirwedd amaethyddol yr 20fed ganrif ceir ardal fechan o fân-ddaliadaethau y cyngor o gwmpas Great Weston Farm, i'r de o Drefaldwyn, a'r silos grawn mawr rhwng Trefaldwyn a Chirbury. Yn ystod yr 20fed ganrif hefyd y collwyd llawer o derfynau caeau, a gwelir rhesi toredig o goed a phrysgwydd lle by terfynau gynt. Hefyd gadawyd neu newidiwyd nifer o ffermydd ymylol.