CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn


Y Tirwedd Naturiol

Bro Trefaldwyn - mae'n cynnwys y basn naturiol lle mae Camlad yn llifo i Hafren, gyda Long Mountain i'r gogledd, Corndon Hill i'r dwyrain, Cefnffordd Ceri i'r de a'r bryniau uwchben Trefaldwyn i'r gorllewin, gydag olion coetir colddail hanner naturiol ar lethrau serthach. Mae canol yr ardal rhwng Trefaldwyn a Chirbury yn ffurfio gwastatir tonnog gyda'r tir gwlyb, is ar hyd rhannau isaf Camlad i'r gogledd. I'r dwyrain o'r gwastatir mae ceunant dwfn Marrington Dingle a ffurfiwyd yn y cyfnod rhewlifol hwyr gan ddwr yn dianc o lyn yn y cwm yn rhannau uchaf Camlad, i'r dwyrain o'r Ystog, a ddaliwyd yn ôl gan iâ a gwastraff rhewlifol ac a gynrychiolir gan ddrymliniau yn nyffryn Caebitra, i'r dwyrain o Sarn. Mae'r toriadau ar batrymau traenio lleol yn ystod y cyfnod rhewlifol hwyr wedi peri ffenomena, sydd yn sail i nifer o ddywediadau lleol, fel er enghraifft mai Camlad yw'r 'unig afon yn Sir Amwythig sydd yn llifo am i fyny' ac mai hi yw'r unig afon sy'n llifo o Loegr i Gymru. Tuedda dyffrynnoedd rhannau uchaf Camlad a Chaebitra fod yn wael eu traeniad, fel y Gamlad isaf, ac maent yn cynnwys darnau corsiog a gwlyptiroedd. Mae daeareg solet y bryniau i'r gogledd yn cynnwys sialiau Silwraidd. Mae'r tir uwch i'r dwyrain o Chirbury acv i'r gogledd a'r dwyrain o'r Ystog yn cynnwys cerrig llaca Ordofigaidd, sialiau, gro a thywodfaen calcaraidd, gyda gwelyau o dyffiau folcanaidd rhyngddynt, a ffurfir ucheldir Lan Fawr, Todleth, Roundton a'r bryniau is i'r gogledd o Hyssington gan greigiau igneaidd ymwthiol. Cofnodwyd y defnydd cyntaf o'r enw 'Vale of Montgomery' ym Mai 1225 pan orchmynnodd Harri III bawb oedd â mwnt 'in valle de Muntgumery' i atgyfnerthu eu hamddiffynfeydd pren. Cofnodwyd yr enw Trefaldwyn 'tref Baldwyn' am y tro cyntaf yn 1231 fel tref Castell Baldwin, a enwyd ar ôl un o nifer o bobl o'r enw Baldwin yr oedd y dref yn gysylltiedig â hwy yn y 13eg ganrif.