CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Trebrys, Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llansilin, Powys
(HLCA 1004)


CPAT PHOTO 803.18

Tirwedd yn cynnwys ffermydd mawr gwasgarog yn dyddio o'r canoloesoedd diweddar a'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, sydd wedi eu lleoli fel arfer o fewn eu caeau hanner afreolaidd, canolig neu fawr.

Cefndir Hanesyddol

Gwelwyd tystiolaeth o weithgarwch cynnar pan ddarganfuwyd bwyell socedog ger Bronheulog ym 1949. Mae'r ardal cymeriad yn gorwedd o fewn plwyfi eglwysig canoloesol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llanarmon a Llansilin, ac mae hefyd yn gorwedd o fewm hen gwmwd Mochnant Is Rhaeadr, Sir Ddinbych. Un o'r henebion archaeolegol amlycaf yn yr ardal cymeriad mae'n debyg yw Tomen Cefn Glaniwrch, o'r 12fed-13eg ganrif, un o blith nifer o safleoedd tebyg yn Nyffryn Tanat. Yn debyg i fwnt Tomen Cefn-coch ryw 4.5km i'r gorllewin, yng nghwmwd cyfagos Mochnant Uwch Rhaeadr, mae Tomen Cefn Glaniwrch mewn lle amlwg, ar ymyl y bryniau isaf. Nid oes tystiolaeth o anheddiad canoloesol na defnydd o'r tir cyfagos yn achos y naill na'r llall o'r myntiau hyn, sy'n awgrymu mai swyddogaeth filwrol oedd iddynt ill dau.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Tirwedd anwastad, toredig â bryniau isel, sydd at ei gilydd yn mynd am i lawr o'r gogledd-ddwyrain i'r de-orllewin, ac sy'n amrywio o ran uchter rhwng tua 130-330m uwch lefel y môr. Mae'r ardal wedi ei chau gan ucheldiroedd i'r gogledd, a'r dwyrain, gan yr Afon Iwrch ar y gorllewin a chan nant Lleiriog i'r de-ddwyrain. Yn y dwyrain, mae'r dyffryn amlwg rhwng y bryniau a ddilynir gan y Lleiriog, gyda darnau o dir gwastatach ar hyd glannau'r nant.

Cyfyngir anheddiad i nifer o ffermydd gwasgaredig, mawr sydd wedi eu hen sefydlu ac sy'n dyddio mae'n debyg o'r canoloesoedd hwyr neu'n gynnar yn y cyfnod ôl-ganoloesol, ac sydd yn aml yn eu caeau eu hunain ac fel arfer mae rhyw 0.6km rhyngddynt. Mae'n debyg bod caeau newydd yn cael eu clirio o'r coetir a'r tir diffaith yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Dangosir y gofyn am dir ar y pryd gan y ffaith bod Maurice ap Meredith Lloran-uchaf, ystad fechan ar ochr ddwyreiniol yr ardal cymeriad, cyn hwyred â thua 1560, yn dal i ddilyn yr hen arfer o rannu ei dir rhwng ei wyth mab.

Mae gan y rhan fwyaf o'r ffermydd dy fferm cerrig o'r 17eg ganrif i'r 19th-ganrif ac adeiladau allanol gyda tho llechi, fel yn achos Trewern, Trewern-isaf, Cefn-isaf, Caer-fach, Cefnhirfach, Tyn-y-celyn, Lloran-uchaf a Bronheulog, ac yn achos y ddau olaf mae'r ffermdai wedi eu rendro neu eu rendro'n rhannol, a defnyddir estyll tywydd ar adeiladau allanol yn achos Tyn-y-celyn a Chefnhirfach. Ceir adeiladau traddodiadol tebyg yn Nhrebrys a Threfeiliw, (mae ffermdy'r olaf wedi ei rendro), ac mae gan y ddau fuarth a gardd â waliau cerrig. Siâl a chwarelwyd yn lleol yw'r rhan fwyaf o'r cerrig adeiladu, ond mae nifer o adeiladau - gan gynnwys rhai o adeiladau allanol hynaf Trebrys a rhannau o rai o'r adeiladau yn Lloran-uchaf, er enghraifft - wedi eu codi â cherrig crynion a gafwyd mae'n debyg trwy glirio caeau. Mae nifer o'r ffermdai cynnar bellach wedi eu disodli'n llwyr gan adeiladau modern fel yn achos y ffermdy briciau modern yn Lloran-ganol a Chaemawr. Nid yw nifer o'r ffermdai bellach yn perthyn i ffermydd gweithredol.

Mae Efail-rhyd, ar y llaw arall, yn anheddiad cnewyllol bychan ar gyffordd ar hyd y ffordd dyrpeg rhwng Llanrhaeadr a Llansilin a ddatblygodd, mae'n debyg, o felin geirch a gefail, a ddangosir gan glwstwr o adeiladau o'r 18fed/19eg ganrif a godwyd o gerrig a chwarelwyd, gyda rhywfaint o wisgiad briciau, a cherrig crynion a gafwyd o adeilad cynharach o bosibl.

Ar gyfer pori y defnyddir y tir yn bennaf heddiw ond mae'r linsiedi niferus, yn enwedig ar y tir mwyaf llethrog, yn awgrymu bod aredig yn llawer mwy cyffredin ar un adeg. Mae'n ymddangos mai'r tirwedd hwn a ddisgrifiwyd fel hyn gan George Borrow tua chanol y 19eg ganrif:

The valley was beautiful and dotted with various farm-houses, and the land appeared to be in as high a state of cultivation as the soil of my own Norfolk, that county so deservedly celebrated for its agriculture. Wild Wales, 1862

Caeau hanner afreoalidd, canolig neu fawr wedi eu cau gan wrychoedd aeddfed, trwchus o rywogaethau cymysg yn aml, gan gynnwys y ddraenen wen, onnen, collen, masarnen a chelynnen gyda choed derw mawr gwasgaredig, rhai ohonynt wedi eu gosod yn y modd traddodiadol yn y gorffennol. I bob golwg gellir gweld mewn ambell ardal olion o gau tir mewn cyfnodau gwahanol ym mhatrwm y caeau, fel yn ardal Lloran-ganol a Bronheulog, lle mae gwahanol grwpiau o gaeau yn dilyn y gyfuchlin.

Mae rhai o'r hen wrychoedd wedi diflannu, ac mae ponciau isel, linsiedi a rhesi o goed â gofod rhyngddynt yn dangos lle buont. Disodlwyd nifer o hen derfynau gan ffensiau pyst a gwifrau ond mewn achosion eraill unwyd nifer o gaeau llai neu eu gwneud yn un. Mae hyn wedi effeithio'n arbennig ar y caeau sydd ar dir gwastatach ar bennau'r bryniau yn hytrach na'r caeau ar y llechweddau serth, sydd ar y cyfan wedi aros yn gaeau llai. Mae terfynau eraill yn cynnwys cerrig mawr a lyfnhawyd gan rewlifoedd, ac a gafwyd trwy glirio caeau. Yma ac acw ceir pyst giatiau ym mynedfeydd y caeau sydd ar y ffordd gyhoeddus a cheir standiau llaeth gadawedig ym mynedfeydd rhai o'r ffermydd.

Gwael yw draeniad rhai o'r lleoedd isel, ac mewn rhai achosion mae tystiolaeth weladwy o wrymio, fel yn achos y cae yn ymyl Pont Maesmochnant. Ceir gwrymio a rhychu achlysurol ar dir uchel hefyd, fel yn ymyl Ty-brith er enghraifft.

Darnau bychain o goetir gan gynnwys coetir derw hanner naturiol a nifer o blanigfeydd conifferaidd ar dir serth a brigiadau creigiog. Mewn mannau eraill ceir prysgwydd a choed talach ar wasgar, yn nherfynau'r caeau a ger nentydd.

Mae rhwydwaith cymhleth o lonydd, lonydd gwyrdd a llwybrau troed rhwng ffermydd unigol. Mae rhai o'r lonydd yn rhedeg mewn ceuffyrdd sylweddol, hyd at 1-2.5m mewn dyfnder a ffurfiwyd gan erydiad cyn i'r metlin draenio ffyrdd gael ei osod, ac felly mae'n amlwg eu bod yn dra hen. Mae gan nifer o'e ceuffyrdd hen dyfnaf haen o gerrig fel yn ymyl Lloran-ganol, er engraifft, lle defnyddiwyd cerrig crynion a gafwyd mae'n debyg drwy glirio caeau. Ffordd dyrpeg a grewyd yn y 18fed ganrif oedd y brif ffordd bwysicaf sy'n croesi'r ardal, sef y ffordd gyhoeddus rhwng Llansilin a Llanrhaeadr. Mae'n debyg mai gwella ffordd a oedd eisoes yno a wnaed, yn rhannol o leiaf, a bu raid codi pontydd carreg newydd, Pont Efail-rhyd ar draws y Lleiriog a'r bont ym Mhen-bont ar draws yr Afon Iwrch.

Ffynonellau

Richards 1943-44; 1945-46
Spurgeon 1965-66
Wiliam 1986

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.