CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Garthgelynen, Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys
(HLCA 1006)


CPAT PHOTO 806.00a

Ffermydd bychain a chanolig, agos at ei gilydd, sy'n arwydd o ehangu achlysurol a chau llechweddau isaf y bryniau yn gynnar yn ystod y 16eg ganrif a'r 18fed ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Un arwydd o weithgarwch cynnar yn yr ardal yw'r celc o naw torch o'r Oes Efydd a ddarganfuwyd ar fferm Bryndreinog yn ystod y 19eg ganrif. Gorweddai'r ardal o fewn hen blwyfi Llangynog, y rhan wahanedig isaf o Bennant Melangell a'r rhan o blwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant a oedd yn Sir Ddinbych, ac yn weinyddol gorweddai yng nghwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Mae'r ardal yn cynnwys yn bennaf y llechweddau isaf a'r tir gwastad uwch llawr y dyffryn ac ochr ogleddol Dyffryn Tanat rhwng Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ond mae hefyd yn cynnwys darn o lawr y dyffryn ychydig i'r gorllewin o Aber Rhaeadr. Torrir arni weithiau gan ddyffrynnoedd nentydd serth. Llethrau sy'n wynebu'r de'n bennaf, rhwng 130-400m uwch lefel y môr.

Ffermydd canolig eu maint a gweddol agos at ei gilydd, yn ymyl ffynnon fel arfer ac ar ymyl y tir uwch, ac fel arfer maent yn eu caeau eu hunain yn hytrach nag ar y ffyrdd cyhoeddus, ac mae ambell fwthyn a manddaliadaeth ar ochr y ffordd. Mae/Roedd gan gyfran arwyddocaol o'r ffermydd yn yr ardal cymeriad dy neuadd nenffyrch neu ffermdai pren ffrâm bocs o ran olaf y 15fed ganrif i'r 17eg ganrif gynnar, gan gynnwys Tyddyn-llwydion, Cileos-isaf, Tan-y-graig, Trap House a Llwyn-onn, ac fel arfer caewyd hwy â cherrig yn ddiweddarach a defnyddid llawer ohonynt hefyd fel adeiladau allanol. Yn anffodus diflennodd cyfran uchel o'r adeiladau hyn, gan gynnwys y tri chyntaf a restrwyd yma, yn ystod blynyddoedd olaf yr 20fed ganrif. Ymhlith y ffermdai eraill a adawyd ac sydd bellach yn adfeilion fe geir Siambr. Collwyd rhai o'r adeiladau oherwydd bod angen eu hatgyweirio a chollwyd eraill o ganlyniad i uno daliadaethau yn ystod yr 20fed ganrif. Tuedda sylfeini adeiladau pren a'r adeiladau cerrig cynharach i gynnwys cerrig crwn a gliriwyd o gaeau, ond o'r 18fed ganrif ymlaen defnyddir cerrig o chwareli. Ceir buarth fferm â wal sych yn Llwyn-onn a cheir buarth fferm bychan â wal a chaeadleoedd a wnaed o gerrig chwarel a cherrig a gafwyd trwy glirio caeau yn fferm adawedig Tan-y-graig. Ceir ffermdai ac adeiladau allanol o gerrig o'r 17eg ganrif a'r 18fed ganrif yn Arllen-fawr, Plas-Du, Cadnant, Castell-pren, Rhydycul, Glanhafon-uchaf, a Llwyn-onn. Mae bwthyn cerrig isel gyda charreg â'r dyddiad 1734 arni i'r dwyrain o Rydycul. Ceir ffermdai brics o ddiwedd y 18fed ganrif a blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif yng Nghelynog (Clynog) ac Efail-wag, ac mae gan y naill a'r llall adeiladau allanol o gerrig gyda rhywfaint o estyll tywydd, a chodwyd y ddau ffermdy yn lle ffermdai cerrig a oedd yno gynt. Ceir ffermdai cerrig o'r ?19eg ganrif yn Frongoch a Bryndreinog, a rendrwyd yr olaf yn ddiweddarach ac mae arno wisgiad o friciau. Ceir clwstwr o fythynnod a manddaliadaethau o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif ym mlaen Cwm Glan-hafon, i'r dwyrain o Langynog.

Caeau bychain a chanolig â siâp afreolaidd ar gyfer pori'n bennaf, a'u terfynau fel arfer un ai ar hyd y gyfuchlin neu ar ongl sgwâr iddi. Ceir hen wrychoedd aeddfed o rywogaethau cymysg, gan gynnwys masarnen, ysgawen, draenen wen a chollen, a cheir gwrychoedd un rhywogaeth, y ddraenen wen. Mae rhai gwrychoedd wedi eu torri'n isel, mae eraill wedi gordyfu, a rhai i bob golwg wedi eu gosod yn ffurfiol. Bu amryw newidiadau i derfynau'r caeau, gan gynnwys rhai terfynau a adawyd, fel a awgrymir gan bresenoldeb ponciau isel, linsiedi neu foncyffion coed neu resi achlysurol o goed a phrysgwydd. Ceir ambell wrych sydd newydd ei blannu. Ceir coed derw a sycamorwydd gwasgaredig yn nherfynau'r caeau. Ceir linsiedi ar dir ar oleddf sy'n awgrymu bod aredig yn fwy cyffredin ar un adeg nag ydyw heddiw. Ceir ambell boncyn clirio cerrig hyd at 2m ar draws a bron i 1m mewn uchter yn cynnwys cerrig crwn o rewlifoedd ar y silff o dir uwch sy'n rhedeg tua'r gorllewin o Lanrhaeadr-ym-Mochnant tua Llangynog. Mewn rhai achosion, ceir caeadleoedd mwy a ddiffinnir gan bonciau clirio ac a is-rennir gan wrychoedd un rhywogaeth y ddraenen wen. Mewn rhai mannau ceir waliau sychion adfeiliedig fel yn ymyl Castell Pren a Llwyn-onn. Mae rhai o'r caeau ar y llechweddau uwch i'r gogledd bellach wedi eu gadael. Ceir darnau bychain o goetir deilgoll cymysg hanner naturiol ar y llechweddau uwch. Yn ddiddorol, mae fferm yr Arllen-fawr, y gellir ei holrhain yn ôl i o leiaf ail hanner yr 16eg ganrif, yn un o nifer fechan o enghreifftiau yn yr ardal lle gellir cysylltu fferm ar dir isel yn uniongyrchol â hafoty tebygol, sef Hafoty Arllen-fawr ar y rhostir tua 9km i'r de-orllewin ar uchter o 450 metr uwch lefel y môr.

Ceir ffyrdd cyhoeddus, lonydd gwyrdd a llwybrau llydan yn rhedeg mewn ceuffyrdd mae'n ymddangos, rhai ohonynt â haen o gerrig, yn enwedig ar y llethrau uchaf. Mae rhai o'r ceuffyrdd hyd at 4m mewn dyfnder ac mae'n debyg eu bod yn hen iawn, gan eu bod wedi eu ffurfio yn ystod y canrifoedd cyn gosod traeniad ar y ffyrdd yn ystod yr 20fed ganrif. Mae rhai o'r lonydd gwyrdd rhwng y ffermydd bellach wedi eu gadael ac maent wedi gordyfu. Mae Rheilffordd Dyffryn Tanat bellach yn dilyn llwybr amlwg ar draws ochr ddeheuol yr ardal, yn rhannol ar y tir gwastad ac yn rhannol mewn cloddiad ac yn rhannol ar arglawdd, gan gynnwys safle hen orsaf Pedairffordd. Ceir peth tystiolaeth ar yr wyneb o draphont ddwr yr afon Efyrnwy sydd yn torri ar draws yr ardal, gan gynnwys Ty Falfiau Cileos a'r cloddiad dwfn i'r gorllewin o Lanrhaeadr-ym-Mochnant.

Ffynonellau

Britnell 1994a
Britnell & Suggett forthcoming
Hancock 1877; 1878; 1879
Haslam 1979

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.