CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Cyrniau, Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys
(HLCA 1019)


CPAT PHOTO 806.13A

Ardal ucheldirol ddiarffordd gyda marian a brigiadau creigiog, tir comin gynt a gaewyd yn ystod y 19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae'r ardal cymeriad yn gorwedd o fewn plwyfi eglwysig canoloesol Pennant Melangell, Llangynog a Hirnant. Fe orweddai yng nghwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr, Sir Drefaldwyn.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Ardal ucheldirol ddiarffordd gyda mariandiroedd a brigiadau creigiog serth yn wynebu'r gogledd, rhwng tua 200-480m uwch lefel y môr, a'r brigiadau pigfaen ar yr awyrlin a roddodd yr enw 'cyrniau' i'r lle, mae'n debyg.

Tir pori nad yw wedi ei wella gyda phrysgwydd isel a grug, a cheir mannau sydd wedi eu gwella ar dir is gyda charneddau gwasgarog sy'n rhai diweddar mae'n debyg. Ceir terfynau amgáu o'r 19eg ganrif sydd bron i gyd yn cynnwys pyst a gwifren er bod modd gweld hefyd bonciau sy'n dangos rhaniadau tir cynharach.

Croesir ochr ddwyreiniol yr ardal gan nifer o lwybrau troed a llwybrau llydan sydd, mae'n debyg, yn hen iawn, ac sy'n arwain o'r ffermydd ar y tir isel yn ardal Llangynog i'r darnau helaeth o dir pori uchel ar rostir Bwlch Sych rhwng Hirnant a Llanwddyn. Croesir llethr gogleddol y bryn gan nifer o lwybrau llydan sy'n arwain at hen chwareli a gellir gweld lefelau yn ymyl y pentyrrau gwastraff yn ogystal â nifer o ffyrdd mynediad amaethyddol modern a dorrwyd i'r llethrau.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.