CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg
Yn ôl i’r disgrifiad

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Wysg: Pen-y-Crug
Ffotograffau o'r ardal nodwedd


CPAT PHOTO 05-C-146 Golygfa o’r gorllewin o anheddiad eglwys y Batel a ddogfennwyd gyntaf ar gychwyn y 13eg ganrif, gyda The Pool i’r dde. Y gred draddodiadol yw bod y frwydr â arweiniodd at orchfygu teyrnas Brycheiniog ym 1093 wedi digwydd yn y caeau yn y pellter canol, i’r de o’r pentref, efallai ar sail yr enw lle, er bod yr anheddiad wedi’i enwi ar ôl Abaty Battle yn Sussex, oedd yn tynnu incwm o’r plwyf. Mae’n bosibl bod y patrwm cefnen a rhych sydd i’w weld yn y caeau hyn o darddiad canoloesol. Llun: CPAT 05-C-146.

CPAT PHOTO 05-C-141 Golygfa o’r de-orllewin o gloddiau a ffosydd lluosog bryngaer Pen-y-crug o Oes yr Haearn, ar dir comin i’r gogledd-orllewin o Aberhonddu. Mae olion yr hen byllau clai a gwaith brics a theils yn gorwedd yn ardal y rhedyn a phrysgwydd ychydig i’r dde o’r fryngaer. Llun: CPAT 05-C-141.