Nid yw'r gwaith o ddisgrifio nodweddion yr ardal Tirwedd Hanesyddol hon wedi dechrau hyd yma.
Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Mae’r rhan o ddyffryn Wysg a nodir yma yn gorwedd i’r
dwyrain a’r gorllewin o Aberhonddu yn ne Powys;ardal a
ffinnir i’r de gan lethrau dwyreiniol Bannau Brycheiniog ac i’r
gogledd gan odrau deheuol Mynydd Epynt.I’r dwyrain,mae
ochr orllewinol llethrau’r Mynyddoedd Du yn edrych dros y
basn bas sy’n cynnwys Llyn Syfaddan sydd wedi’i gynnwys yn
yr ardal.Mae dyffryn Wysg yn ffurfio tramwyfa nodedig sy’n
hawdd ei chyrraedd ar draws yr ardal, gyda’i lawr llydan,
gwastad yn codi’n raddol o 120m uwchben SO yn
Llansantffraid yn y dwyrain i 150m uwchben SO yn Aberbrân
yn y gorllewin.Ar bob ochr i’r dyffryn,mae’r llethrau’n codi
i dirwedd dyranedig,tonnog o fryniau isel,esgeiriau a dyffrynnoedd
bas rhwng 150m a 300m uwchben SO.
Mae’r argraff weladwy o’r ardal wedi’i goruchafu gan y
caeau bychain â chloddiau sy’n amgáu’r tir amaethyddol
cyfoethog ar waelod y dyffryn,ac mae mewn sawl ffordd
yn olygfa nodweddiadol yng Nghanolbarth Cymru.Deillia’r
patrwm cyfoethog hwn o ddefnydd tir o’i hanes ffermio
ac aneddiad cymhleth o ffermwyr Neolithig cynnar drwy ‘oresgynwyr’
Rhufeinig a Normanaidd,y Saint Celtaidd,i olion
amaeth a masnach ganoloesol a diweddarach.Mae pob cyfnod
o ddefnydd tir wedi ffurfio’r tirwedd a chafodd pob un yn ei
dro ei orgyffwrdd gan a’i guddio’n rhannol gan y cyfnod a’i
olynodd.Mewn cyferbyniad bron â’r parhad hwn,mae Canol
Dyffryn Wysg hefyd yn enghraifft glasurol o dirwedd Cymreig
o oruchafu, goresgyniad a newid gwleidyddol,ac mae llawer
o’r elfennau archaeolegol a hanesyddol sy’n weladwy heddiw
wedi deillio o’r ffordd y mynnodd dyn reoli’r tirwedd,nid yn
unig yn y cyfnodau Rhufeinig a chanoloesol a chyfnodau diweddarach,
ond hefyd yn y cyfnod cynhanesyddol.
Mae beddrod hir â siambrau claddu Neolithig Tyˆ Illtud yn
nodweddiadol o olion cynhanesyddol cynharach, ac mae’n go rwe
dd yn nwyrain yr ardal rhwng A b e r h o n ddu a Llyn Syfadd a n .
Mae’r beddrod megalithig 5000 mlwydd oed hwn yn cynnwys
cyfres o siambrau adeiledig o gerrig sych a orchuddiwyd
unwaith gan domen hir o bridd.Mae’r gofadail yn un o grwˆ p o
feddrodau tebyg ym Mannau Brycheiniog a’r Mynyddoedd Du.
Er mai cymharol brin yw’r olion o’r cyfnod pellennig hwn sydd
wedi go roesi yn y tirwe dd hwn, neu unrhyw dirwe dd arall yng
N g hy m r u , mae’r tomenni claddu cymunedol hyn yn rhoi cipolwg
difyr ar fywyd a marwolaeth y ffermwyr Neolithig a oedd yn
byw yng Nghanol Dyffryn Wysg.Yn ôl traddodiad lleol defnyddiwyd
siambrau gwag Tyˆ Illtud yn ddiweddarach fel cell meudwy
gan Sant Illtud yn y 6ed ganrif,ac ar yr adeg honno cerfiwyd
nifer
o groesau a symbolau Cristnogol eraill ar eu muriau.
Cynrychiolir cynhanes diweddarach Oes yr Efydd gan
nifer o feddrodau crwn a charneddau claddu ar y tir uwch
sy’n edrych dros lawr cyfoethog dyffryn Wysg,sydd yn ei
dro yn cynnwys nifer o feini hirion enigmatig.
I’r gorllewin o Aberhonddu mae olion trawiadol Caer
Aberhonddu,yr enghraifft wychaf o gaer Rufeinig sydd
wedi goroesi ym Mhowys.Wedi’i hadeiladu o fewn golwg i
crug,mae’n gwarchod y ffordd Rufeinig sy’n arwain i
Orllewin Cymru o Gaerllion wrth ei chyffordd â Sarn Helen
wrth iddi ddod i lawr o Fforest Fawr i groesi’rWysg a theithio
tua’r gogledd i Ganolbarth Cymru.I’r dwyrain o Aberhonddu
mae olion yr unig fila Rufeinig ym Mhowys lle y datgelodd
gwaith cloddio yn y 18fed ganrif faddondy gwych â llawr
mosäig.
Nid yw maint yr aneddiad Rhufeinig yn yr ardal yn hysbys,
ond does dim amheuaeth bod y Rhufeiniaid wedi efelychu
a manteisio ar y patrwm aneddiad eisioes mewn bodolaeth
a’r defnydd o’r tir y buasent wedi ei ddarganfod o amgylch
y bryngaerau mawr Oes yr Haearn yn Allt yr Esgair, Slwch
Tump, Pen-y-crug a Choed fenni-fach.
Hefyd i’r dwyrain o Aberhonddu,ger Llan-gors,mae
Llyn Syfaddan,sy’n bwysig yn hanes a chwedloniaeth Cymru.
Crëwyd yr ynys fechan,neu’r grannog,a wnaed gan ddyn,
fel palas caerog gan Brychan,brenin Brycheiniog,ar ddiwedd
y 9fed ganrif ac fe’i dinistriwyd,yn ôl Croniclau’r Eingl-
Sacsoniaid,yn AD 916.Mae chwedl leol yn sôn am sut mae’r
llyn yn cuddio olion dinas a reolwyd gan dywysoges greulon a
barus a gytunodd i briodi gwˆ r tlawd dim ond os byddai’n dod
â chyfoeth mawr iddi.Llofruddiodd y dyn fasnachwr cyfoethog
er mwyn ennill llaw y dywysoges,ond er mwyn dial,creodd
ysbryd y masnachwr storm ofnadwy a foddodd y deyrnas.Nid
yw’n hysbys pryd y dechreuodd y chwedl,ond mae’n gynharach
na’r gwaith cloddio archaeolegol cyntaf yn y grannog
ym 1850 ac mae’n atgof gwerinol difyr a sylwgar.Yn fwy
credadwy, fel canolfan frenhinol ac eglwysig bwysig ym
Mrycheiniog,gallai’r grannog fod wedi bod yn fan cyfansoddi’r
penillion Cymraeg cynnar, Canu Llywarch Hen,a ysgrifennwyd
fwy na thebyg rhwng yr 8fed a chanol y 10fed ganrifoedd,yn
ystod oes aur brenhinlin Llan-gors a Brycheiniog.Datgelwyd
olion yr ynys yn llawn drwy waith cloddio ar ddechrau’r
1990au.Llyn Syfaddan yw’r unig grannog hysbys yng Nghymru,
er ei bod yn ffurf gyffredin yn yr Iwerddon; awgrymir y cysylltiad
Gwyddelig posibl hwn gan y nifer fawr o arysgrifau Ogam
mewn eglwysi lleol.Mae gan bentrefi glan llyn Llan-gors a
Llangasty sylfeini mynachaidd Celtaidd cynnar fwy na thebyg.
Cynrychiolir gorchfygiad ac aneddiad o’r cyfnod canoloesol
yma hefyd ac mae hanes a thraddodiad yn awgrymu i’r frwydr
derfynol rhwng byddinoedd Cymreig Bleddin ap Maenarch a
byddin oresgynol Normanaidd Bernard de Neufmarché gael
ei hymladd ger Y Batel ym 1092.Arweiniodd y fuddugoliaeth
Normanaidd at orchfygu’r boblogaeth frodorol a thwf tref
Aberhonddu.Roedd y castell cynharaf yn Aberhonddu yn un
tomen a beili,ac fe’i disodlwyd yn ddiweddarach gan gastell
o gerrig.Mae gan y dref hefyd olion priordy Benedictaidd,
a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1100,sydd,er gwaethaf iddo
gael ei adnewyddu’n sylweddol gan y pensaer Fictoraidd mawr
Syr Gilbert Scott,yn parhau i feddu ar nifer o nodweddion
diddorol,megis ffenestri pigfain Cynnar Seisnig prin a’r
adeiladau cwfeiniol o’r 16eg ganrif.Ym 1923,dewiswyd y priordy,
a oedd erbyn hynny wedi dod yn Eglwys Blwyf
Aberhonddu, fel Eglwys Gadeiriol Esgobaeth Abertawe ac
Aberhonddu,a oedd newydd gael ei ffurfio, un o ddwy esgobaeth
newydd a sefydlwyd gan yr Eglwys yng Nghymru newydd,
yn dilyn ei gwahanu o Eglwys Loegr. Mae’r dref hefyd yn cynnwys
mynachlog Ddominicaidd,a sefydlwyd yn wreiddiol yn y
13eg ganrif,ac er ei bod bellach yn ysgol ac wedi cael ei newid
llawer, dyma yn ôl y sôn yw’r grwˆ p unigol mwyaf o adeiladau
Dominicaidd sydd wedi goroesi ym Mhrydain.
Ffurfiodd presenoldeb y castell a'r ddau adeilad eglwysig
pwysig hyn y sail ar gyfer tref ganoloesol lewyrchus ac
erbyn y 13eg ganrif, roedd yr aneddiad wedi lledaenu i’r tir is
ar ymyl Afon Wysg,sydd bellach â phont gerrig wych drosti
sy’n dyddio o 1563, a rhoddwyd amddiffynfeydd o gerrig arni.
Er bod peth o’r ffabrig canoloesol hwn wedi goroesi mewn
mannau,heddiw prif nodwedd pensaernïaeth Aberhonddu yw
tai trefol o frics
a cherrig cain o’r 18fed a’r 19eg ganrifoedd.Yn wir, roedd
poblogaeth o 5026 yn ei gosod fel nawfed tref fwyaf Cymru
ar ddiwedd y cyfnod hwn.Mae llawer o’r bensaernïaeth ddiweddarach
hon yn parhau heb ei newid na’i difwyno
gan ddatblygiad modern,ac mae hyn,ynghyd â’i gwreiddiau
canoloesol yn ased bleserus a gwerthfawr, ac un sy’n gynyddol
brin ymysg trefi eraill Cymru.Heddiw, mae Aberhonddu yn
fyd-enwog am ei Gwˆ yl Jas flynyddol.
Adeiladwyd Aberhonddu, fel ei rhagflaenydd Rhufeinig, i
gynnal dyffryn Wysg fel llwybr strategol i Orllewin Cymru,ac,
fel y Gaer, fe’i gwarchodir gan aneddiadau brodorol cyfnod
cynharach,megis Llanspyddid a Llanfrynach,sydd wedi’u lleoli
o amgylch ymylon y dyffryn.Enillodd un o’r aneddiadau
Cymreig cynnar hyn,Llanddew, fri yn y cyfnod canoloesol fel
safle palas Esgobion Aberhonddu.Meddiannwyd y castell
diymhongar hwn rhwng 1175–1203 gan Gerallt Gymro, sef
Archesgob Aberhonddu,a ddisgrifiodd y castell fel un a oedd
yn ‘well adapted to literary pursuits and the contemplation of
eternity’ a dechreuodd ei daith enwog o gwmpas Cymru ar
ddiwedd y 12fed ganrif.Mae gan y pentref gasgliad trawiadol
o weithgareddau cloddiog canoloesol sy’n awgrymu ei faint a’i
bwysigrwydd yn y gorffennol.
Mae Canol Dyffryn Wysg yn enwog am ei chestyll
canoloesol,gan ei bod yn cynnwys enghreifftiau gwych o
gestyll tomen a beili cynnar arglwyddi Normanaidd y gororau,
megis
y rheini yn Aberyscir, Alexanderstone a Threberfydd,cestyll
cerrig megis Pencelli,a thyˆ twˆ r canoloesol gwych diweddarach
yn Scethrog.Mae llawer o’r dyffryn yn dal i gadw’r cymeriad
canoloesol a gysylltir â’r cadarnleoedd hyn, gyda phentrefi
bychain wedi’u cywasgu ac wedi’u hamgylchynu gan dir pori â
gwrychoedd o’i hamgylch.Enghraifft drawiadol iawn o gyfoeth
a phwysigrwydd blaenorol yr ardal hon yn ystod y cyfnod
canoloesol yw Llanfihangel Talyllyn.Gellir gweld cyn-ffiniau’r
pentref canoloesol yn glir yma, gyda gweithgareddau cloddiog
yn nodi hen strydoedd a llwyfannau adeiladau a oedd unwaith
yn llenwi bron i chwarter y pentref.Mae’r ardal hefyd yn
enwog am ei thai gwledig mawr, o’r 18fed a’r 19eg ganrifoedd,
megis Penpont a Peterstone Court,a’u stadau cysylltiedig sydd
wedi ‘trosargraffu’ ar dirwedd eu rhagflaenwyr canoloesol ac
ôl-ganoloesol cynnar megis Tyˆ Mawr yn Llangasty Talyllyn.
Cysylltodd datblygiad Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy (a
ddechreuwyd ym 1799,a agorwyd gyntaf ym 1801 ac ymunodd
â Chamlas Mynwy ym 1812),sy’n troelli ar hyd ymylon
deheuol yr ardal,y dyffryn ag economïau diwydiannol ffyniannus
De Cymru.Daeth y glanfeydd a’r stordai a ddatblygwyd yn
sgîl hyn yn nherfynfa’r gamlas yn Aberhonddu yn ardal bwysig
ar gyfer masnach amaethyddol a’r diwydiant brethyn.Yn yr
1860au,disodlwyd y gamlas gan Reilffordd Aberhonddu a
Merthyr oedd yn cysylltu Aberhonddu â’r Rheilffordd Great
Western yng Nghastell-nedd,trwy Ystradgynlais,yn y de ac yn
ddiweddarach i Henffordd,trwy’r Gelli Gandryll,yn y dwyrain.
Yn eironig mae’r cysylltiad gwythiennol hwn wedi hen ddiflannu
tra bod y gamlas,sydd wedi’i chroesi gan bontydd sy’n codi a phontydd cefn crwm nodweddiadol, bellach yn darparu llwybr prydferth
a phoblogaidd i dwrstiad ar hyd y dyffryn.
|