CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai prosiectau
Mynegai gloddfeydd
Cyhoeddiad y Cyngor Archeoleg Prydain

Arolwg o Gloddfeydd Metel Clwyd-Powys


Arolwg o Gloddfeydd Metel Powys

Rhwng Mai 1992 ac Awst 1993, cynhaliodd CPAT arolwg cyflym o'r holl gloddfeydd metel anhaearnaidd (plwm yn bennaf), cloddfeydd ffosffadau a rhai o'r treialon mwyaf arwyddocaol ym Mhowys. Pwrpas y gwaith hwn oedd asesu eu cyflwr presennol o ran cadwraeth, gyda golwg ar hybu gwell rheolaeth a chadwraeth o'r olion uwch y ddaear ac oddi tani, ac i wella Cofnod o Safleoedd a Henebion Rhanbarthol CPAT. Roedd yr arolwg yn cynnwys gwerthusiad maes cyflym o'r olion sydd wedi goroesi ac archwiliad o'r dystiolaeth ddogfennol a gafwyd o fapiau, cynlluniau o'r cloddfeydd, prydlesi a phrosbectysau (a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a'r Swyddfeydd Cofnodion Sirol). I gyd-fynd â hyn cynhaliwyd arolwg ffotograffiaeth awyr (a wnaed gan Chris Musson, gynt o'r Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru - RCAHMW) ac a ddilynwyd gan arolwg EDM o'r llawr ar safleoedd detholedig. Darparwyd cymorth ariannol ar gyfer yr arolwg cychwynnol gan Gyngor Sir Powys gyda chefnogaeth ychwanegol ar gyfer y gwaith diweddarach gan Cadw ac RCAHMW.

CS92/15/24

De: Nant-yr-Eira, Pumlumon. Adeilad malu a man trin o'r 19eg ganrif. © CPAT CS92/15/24

Yn achos maes mwynau Powys, sydd yn ucheldir Pumlumon ym mhen gorllewinol pellaf y sir, roedd llawer o waith ymchwil hanesyddol eisoes wedi ei wneud ond ni wnaed cais i gynnal arolwg cyffredinol o'r dystiolaeth ffisegol sy'n dal i fodoli. Mae tirweddau mwyngloddio Powys, fel y rhai a geir mewn mannau eraill, mewn perygl o gael eu niweidio gan gynlluniau adennill ac ehangiad cynyddol planhigfeydd ac amaethyddiaeth, a nod yr arolwg hwn oedd canfod a cheisio datrys bygythiadau gweithredol a phosibl i'r safleoedd sy'n dal i fodoli.

Daw'r dystiolaeth gynharaf am fwyngloddio ym Mhowys o gloddfa Nant-Yr-Eira, Pumlumon lle dyddiwyd samplau siarcol o'r tomenni i'r Oes Efydd Ddiweddar. Ym Mhowys, ar Fryn Llanymynech ar y ffin â Sir Amwythig, mae'n debyg bod cloddio cynnar yn dyddio i'r Oes Haearn ddiweddar a dwy ganrif gyntaf y cyfnod Rhufeinig. Ychydig iawn o dystiolaeth sydd hyd yma o fwyngloddio yn y canol oesoedd ym Mhowys a dim ond mewn dogfennau, sy'n sôn am weithgarwch yn Llanymynech, y mae tystiolaeth gadarn ohono. Mae grant tir i Fynachlog Sistersaidd Ystrad Marchell yn 1198 yn cynnwys hawliau 'uwch y ddaear a thani' sy'n awgrymu bod gan y mynachod ddiddordeb mewn cloddio am blwm yn yr ardal hon. Mae angen gwneud rhagor o waith yn y maes hwn.

Symbylwyd mwyngloddio ar ôl y canol oesoedd gan ddiddordeb a menter ariannol y Society of Mines Royal a'r Company of Mine Adventurers. O ganlyniad, datblygwyd cloddfeydd yn gyflym ym Mhowys ac yn y rhan fwyaf ohonynt defnyddiwyd yr adnoddau cyfoethog o ran plwm a chopr. Dim ond yn y 18fed ganrig y cafwyd gwelliannau technolegol o ran gyrru mynedfeydd a siafftiau dyfnion a cheid offer pwmpio newydd yn rhai o'r cloddfeydd mawr a yrrwyd gan ddulliau hydrolig. Er bod peiriannau pwmpio ager a pheiriannau weindio wedi eu dyfeisio erbyn yr 1750au, roedd costau rhwystrol eu gosod a chael tanwydd iddynt yn golygu na welwyd hwy ym Mhowys tan yr 1850au. .

plan of Craig-y-Mwyn

Chwith: Rhan o gynllun cloddfa Craig-y-Mwyn a gynhyrchwyd yn ystod yr arolwg llawr o gloddfeydd metel Powys ym 1994

Cyfnod prysuraf mwyngloddio ym Mhowys oedd y 19eg ganrif. Gwelwyd peiriannau ager am y tro cyntaf ym mwyngloddiau Dyfngwm ac Abergwesyn ym Mhumlumon. Erbyn yr 1870au roeddent i'w gweld yn aml yn y cloddfeydd mwyaf. Cynyddodd y defnydd o beiriannau ar gyfer yr holl waith tynnu a phrosesu yn gyflym wrth i'r ganrif fynd rhagddi. Yn ystod ail hanner y ganrif yn enwedig, dyfeisiwyd llawer o offer newydd i brosesu plwm er mwyn cynhyrchu crynodiad, a gadawodd hyn dreftadaeth gyfoethog o adeileddau ar y safleoedd cloddio mwyaf, sydd yn aml yn rhai unigryw. Yn ystod yr 1870au, y gloddfa yn Y Fan, ger Llanidloes, oedd y gloddfa blwm fwyaf cynhyrchiol yn Ewrop a defnyddid y peiriannau mwyaf modern. Mae gwaith archaeolegol diweddar yn Y Fan wedi datguddio a diogelu rhai o'r adeileddau unigryw.

Ciliodd cloddio am fetelau'n gyflym ym Mhowys at ddiwedd yr 1870au oherwydd bod mewnforio'n rhatach ac ni wellodd y farchnad ddigon i wneud mwyngloddio ym Mhowys yn ariannol ymarferol. Erbyn 1921 roedd y diwydiant wedi dirwyn i ben yn llwyr.
Mynegai i gloddfeydd yn yr Arolwg Powys


Arolwg o Gloddfeydd Metel Clwyd

Rhwng mis Mai a mis Rhagfyr 1993, cynhaliodd CPAT arolwg cyflym o'r holl gloddfeydd a threialon anhaearnaidd yng Nghlwyd. Fel yn achos yr Arolwg o Gloddfeydd Metel Powys, y bwriad oedd darparu crynodeb o'r dystiolaeth ffisegol sy'n dal i fodoli yn hytrach na hanes neu ddehongliad diffiniol o'r diwydiant. Pwrpas y gwaith hwn oedd asesu eu cyflwr presennol o ran cadwraeth, gyda golwg ar hybu gwell rheolaeth a chadwraeth o'r olion uwch y ddaear ac oddi tani, ac i wella Cofnod o Safleoedd a Henebion Rhanbarthol CPAT. Roedd yr arolwg yn cynnwys gwerthusiad maes cyflym o'r olion sydd wedi goroesi ac archwiliad o'r dystiolaeth ddogfennol a gafwyd o fapiau, cynlluniau o'r cloddfeydd, prydlesi a phrosbectysau (a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a'r Swyddfeydd Cofnodion Sirol). I gyd-fynd â hyn cynhaliwyd arolwg ffotograffiaeth awyr (a wnaed gan Chris Musson, gynt o'r Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru - RCAHMW) ac a ddilynwyd gan arolwg EDM o'r llawr ar safleoedd detholedig. Cafwyd arian a chymorth ar ffurfiau eraill ar gyfer y gwaith gan Cadw: Welsh Historic Monuments, Cyngor Sir Clwyd ac RCAHMW. . CS92/19/34

De: Cloddfa Dylife, Pumlumon. Siafft Llechwedd Ddu a chynhalydd y rhoden pwmp. © CPAT CS92/19/34

Ychydig o astudio a fu yn y gorffennol ar botensial archaeolegol y safleoedd mwyngloddio yng Nghlwyd, a bu'n anodd gwerthfawrogi maint a natur yr archaeoleg sydd wedi goroesi ar y safleoedd hyn. Nod yr arolwg hwn oedd canfod a cheisio datrys bygythiadau gweithredol a phosibl i'r safleoedd sy'n dal i fodoli, sydd dan bwysau mewn mannau eraill oddi wrth gynlluniau adennill a gwelliannau i dir amaethyddol. Cynhyrchodd yr arolwg hefyd arweiniad cadwraeth a rheolaeth penodol i gynllunwyr ac eraill sy'n ymwneud â newid y tirwedd, mewn ymgais i leiafu'r difrod i'r adnodd bregus hwn yn y dofodol.

Bu cloddfeydd metel yn yr ardal hon ers yr Oes Haearn mae'n debyg. Mae'r ffaith bod gwythiennau mwynau yn ymyl rhai o'r bryngaerau'n awgrymu bod mwynau'n cael eu cloddio a'u gweithio cyn cyfnod y Rhufeiniaid. Honnir bod nifer fawr o gloddfeydd yn cael eu gweithio ar gyfer plwm ac arian gan y Rhufeiniaid o 58 OC, er nad oes ond ychydig dystiolaeth uniongyrchol i gefnogi hyn. Mae ffynonellau dogfennol yn cynnig cliwiau i bwysigrwydd mwyngloddio yng Nghlwyd yn y Canol Oesoedd, fel y cyfeiriad at Edward I yn anfon mwyngloddwyr o Finera (ger Wrecsam) i Gernyw i helpu i gloddio am dun yn hwyr yn y drydedd ganrif ar ddeg. Yn anffodus, mae gwaith cloddio ar raddfa fawr yn y 19eg ganrif wedi dileu'n rhan fwyaf o'r dystiolaeth o unrhyw waith cynharach ar yr wyneb, i bob golwg.

Roedd y Quaker Company yn arloesi ym maes cloddio am blwm yng Nghlwyd o flynyddoedd olaf yr 17eg ganrif tan 1792; mae eu cofnodion rhagorol yn cynnig tystiolaeth ddogfennol o newidiadau technolegol yn y diwydiant yn ystod y 18fed ganrif. Oherwydd gwelliannau mewn technoleg a draeniad bu modd creu siafftiau dyfnach a chyrraedd gwythiennau cyfoethocach. Mae'r gwaith mawr a wnaed yn yr ardaloedd hyn yn ystod y 18ferd ganif a'r 19eg ganrif wedi creu tirwedd o ddiddordeb hanesyddol mawr sy'n drawiadol i'r llygad.

CS93/61/19

Chwith: Cloddfa 'Bog East', Llanarmon. Dechreuwyd gweithio'r gloddfa blwm/arian hon ym 1873 ac fe'i gweithid gan y Llanarmon District Mining Company tan 1913. © CPAT CS93/61/19

Mae'r olion o adeileddau a gofnodwyd gan yr arolwg hwn yn ymwneud yn bennaf, ond nid yn gyfan gwbl o bell ffordd, â gweithfeydd y 19eg ganrif. Arweiniodd yr ehangu yn y diwydiant yr adeg honno at ddiflaniad mentrau mwyngloddio bychain a ffurfiwyd cwmnïau mwyngloddio ar raddfa fawr. Adeiladwyd twneli draeniad mawr hefyd ym 1818 ac 1896 i draenio mwyngloddiau Mynydd Helygain, ardal Treffynnon ac ymhen amser fwyngloddiau'r Wyddgrug a Llanarmon. At ddiwedd y 19eg ganrif dirywiodd gweithgarwch mwyngloddio yng Nghlwyd oherwydd mewnforion tramor ond yn ystod rhyfel 1914-18 benthyciodd y Weinyddiaeth Arfau arian i fywiogi'r diwydiant, a barhaodd i weithio'n ysbeidiol tan yr 1960au.
Mynegai i gloddfeydd yn yr Arolwg Clwyd

Llyfr ar yr Arolwg o Gloddfeydd Metel Clwyd a Phowys yr Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys a cyhoeddiad gan y Cyngor Archeoleg Prydain, cliciwch yma am mwy o wybodaeth . . .


Frost, P - 1994, Clwyd Metal Mines Survey 1993, CPAT Report no. 88

Jones, N W and Frost, P - 1995, Powys Metal Mines Ground Survey 1994, CPAT Report no. 111.1

Jones, N W and Frost, P - 1996, Clwyd Metal Mines Ground Survey 1995, CPAT Report no. 165

Walters, M - 1994, Powys Metal Mines Survey 1993, CPAT Report no. 89