CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto

Archwilio Hanes ac Archaeoleg

Cyfres o deithiau cerdded hunan-dywys yng nghanolbarth Cymru


Moel Ty Uchaf

Moel Ty Uchaf.

Mae Cymru wedi bod yn gyrchfan poblogaidd i gerddwyr ers talwm, ac mae cryn gyfiawnhad i hynny – yn enwedig copaon geirwon Eryri a Bannau mawreddog Brycheiniog. Ond mae gan ardaloedd eraill ddigonedd i’w gynnig hefyd. I’r cerddwyr hynny sydd â diddordeb mewn hanes ac archaeoleg, mae cyfres o deithiau cerdded hunan-dywys yn cael eu datblygu i’w helpu i archwilio amrywiaeth o safleoedd archaeolegol.

Mae’r teithiau cerdded cyntaf sydd wedi’u datblygu’n canolbwyntio ar henebion angladdol a defodol cynhanesyddol, yn bennaf y cylchoedd cerrig, y meini hirion a’r carneddau claddu sy’n dyddio o tua 2300-1200 CC.

Y gobaith yw y bydd teithiau cerdded eraill yn y gyfres hon yn archwilio thema tirweddau hanesyddol, gan helpu i esbonio sut mae’r dirwedd wedi esblygu a sut mae dyn wedi’i defnyddio a manteisio arni.

Gellir lawrlwytho pob taith gerdded ar ffurf PDF, sy’n cynnwys disgrifiad manwl o’r daith gerdded, a gwybodaeth am yr hanes a’r archaeoleg, ynghyd â fersiwn gryno a map ar un dudalen. Gallwch chi argraffu’r adrannau hynny sydd eu hangen arnoch chi yn unig.

Cliciwch ar y teithiau cerdded sydd wedi’u nodi ar y map isod i agor y PDF.



Click to access walk PDF


Defnyddio’r canllawiau

Darperir pob un o ddisgrifiadau’r teithiau cerdded i fod yn ganllaw yn unig, a dylid bob amser eu defnyddio ar y cyd â map addas, fel cyfresi 1:25,000 Explorer neu Outdoor Leisure yr Arolwg Ordnans. Efallai y bydd GPS a chwmpawd hefyd yn ddefnyddiol. Bydd y teithiau cerdded yn mynd â chi i ardaloedd ucheldirol anghysbell a dylech chi sicrhau bod popeth sydd ei angen ar eu cyfer gyda chi, a’ch bod wedi gwirio rhagolygon y tywydd cyn dechrau ar y daith.

Cod Cefn Gwlad

  • Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch ymlaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion
  • Gadewch giatiau ac eiddo yn eu cyflwr gwreiddiol
  • Diogelwch blanhigion ac anifeiliaid ac ewch â’ch sbwriel gartref
  • Cadwch gwn dan reolaeth ofalus
  • Byddwch yn ystyrlon o bobl eraill


Cadw logo

Cynhyrchwyd y gyfres hon o deithiau cerdded gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys â chyllid oddi wrth Cadw.
Gop Cairn Moel Ty Uchaf Trannon Mynydd Llantysilio Eglwyseg Bryn y Gro Gors Lydan Bryn Conratyn Bryn y Bache Pen Cerrig-calch Nant Tarw Mynydd Llangors Llyn Brenig

blog counter