CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Dinbych, Sir Ddinbych
(HLCA 1041)


CPAT PHOTO 811.21A

Tref fodern sy'n ehangu bwrdeistref gaerog ganoloesol ac adeiladau diwedd y canoloesoedd a'r 17eg a'r 19eg ganrif yn sail iddi.

Cefndir hanesyddol

Dinbych oedd prif ddinas y cantref Cymreig hynafol Rhufoniog. Rhoddodd Edward I y cantref ynghyd chantref Dyffryn Clwyd i Ddafydd ap Gruffydd, brawd Llywelyn, yn 1277, a mwy na thebyg mai safle'r castell diweddar oedd prif gartref Dafydd. Yn dilyn y gwrthryfel, dan arweiniad Dafydd, cymerodd y goron y cantref ac fe'i rhoddwyd ynghyd chantref Rhos i Henry de Lacy, iarll Lincoln, yn 1282, sef y ddau gantref a oedd yn ffurfio arglwyddiaeth Dinbych.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Lleolir y dref ar frigiad amlwg sy'n codi'n sydyn uwchben gwaelod y dyffryn, rhwng uchder o 50-140m uwch lefel y mr. Ystd breifat gan iarll Caerlyr oedd y dref a derbyniodd ei siarter gyntaf yn 1290. Cynlluniwyd y dref a'r fwrdeistref gaerog ganoloesol fel un cyfanwaith, fel y bwrdeistrefi caerog brenhinol a sefydlwyd gan Edward I, ond yn wahanol i fwrdeistrefi brenhinol Caernarfon, Conwy a Biwmares roedd tref Dinbych wedi ei lleoli'n anghyfleus ar ben allt serth. Maes o law, gadawyd y dref gaerog a rhwng dechrau'r 13eg ganrif a'r 16eg ganrif ehangodd y dref a symudodd ei chanolbwynt i fan mwy hydrin y tu allan i furiau'r dref i'r gogledd-ddwyrain. Yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif ehangodd y dref ymhellach i'r gorllewin, i'r gogledd-ddwyrain a'r de-ddwyrain. Crwyd y fwrdeistref gaerog o blwyf cynharach Llanfarchell, gydag eglwys blwyf yr Eglwys-wen, a gysegrwyd i Marcellus Sant, oddeutu 2 cilomedr i'r dwyrain. Er hwylustod i'r gwarchodlu a phobl y dref adeiladwyd capel St Hilary ar y tir glas y tu allan i'r castell. Sefydlwyd y ffrierdy Carmeliaid i'r gogledd-ddwyrain o'r dref yn niwedd y 13eg ganrif. Cychwynnodd Robert Dudley, iarll Caerlyr, a oedd yn arglwyddiaethu rhwng 1563 a'i farwolaeth yn 1588, adeiladu capel Elisabethaidd mewn ymdrech aflwyddiannus i symud yr esgobaeth o Lanelwy i Ddinbych, ond nis gorffennwyd ef. Adeiladwyd eglwysi a chapeli anghydffurfiol eraill yn y dref yn ystod y 19eg ganrif.

Ffynonellau

Beresford 1988
Hubbard 1986
Jones 1995
Owen, 1978
Owen 1974

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.