CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Rhiwbebyll, Llandymog a Llangynhafal, Sir Ddinbych
(HLCA 1046)


CPAT PHOTO 813.00

Caeau petryalog bychain i ganolig gwrychoedd a ffermydd wedi eu gwasgaru ar hyd y darddlin ychydig is na'r rhostir.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal ar ochr ddwyreiniol plwyfi canoloesol Llangwyfan a Llangynhafal ac yn cynnwys rhan o ucheldir comin plwyf Llandyrnog hefyd. Mae'n gorwedd tua rhan ogleddol cwmwd Dogfeilyn, yng nghantref hynafol Dyffryn Clwyd ac yn ffinio ar gantref Tegeingl i'r dwyrain.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Mae'r ardal yn gorchuddio llain ar hyd llethrau isaf bryniau Clwyd, ychydig yn is nag ymyl y rhostir, rhwng uchder o tua 125-250m, ac yn ffurfio rhan o AHNE Bryniau Clwyd. Yn gyffredinol mae'r tir yn gogwyddo'n raddol o'r dwyrain i'r gorllewin, ond mae'n cael ei dorri gan afonydd sy'n rhedeg oddi ar ochr orllewinol bryniau Clwyd.

Nodweddir yr anheddiad gan ffermydd diwedd y 18fed/dechrau'r 19eg ganrif o faint canolig, wedi eu gwasgaru ar hyd y darddlin ar lethrau gorllewinol isaf bryniau Clwyd, ychydig is nag ymyl y rhostir, gellir cael mynediad iddynt ar hyd ln o'r ffordd gyhoeddus, maent wedi eu lleoli yn eu caeau eu hunain. Mae'r deunydd adeiladu traddodiadol yn cynnwys sil lleol a gwneir defnydd o flociau calchfaen a chonglfeini ar gyfer agoriadau ffenestri a drysau, yn ogystal briciau yn achos nifer o ffermdai 18fed/dechrau 19eg ganrif thoeau llechi, a briciau a cherrig ar gyfer tai allan, er y gellir gweld y defnydd cynharach o goed mewn ysgubor hanner coediog yn y Wenallt. Mewn llawer achos cysylltir y ffermydd ag enw cyffredin e.e. Rhiwbebyll-bella, Rhiwbebyll-isaf, Rhiwbebyll-ganol, Gales-bach, Gales-fawr, Gales-uchaf a Siglen-uchaf, Siglen-isaf.

Caeau petryalog bychain i ganolig ar hyd y cyfuchliniau. Yn gyffredinol mae gwrychoedd draenen wen a draenen ddu tenau, wedi eu trwsio ffensys pyst a gwifren mewn mannau yn ffinio'r caeau, gydag ychydig o goed deri ac ynn mawr. Mae'r gwrychoedd yn gysylltiedig chloddiau a linsiedi isel yn enwedig ar dir llethrog. Ambell wl gerrig, rhai'n cynnwys clogfeini rhewlifol lleol, ar ochr y ffordd ger y mynedfeydd i'r ffermydd. Mae patrwm cyffredinol y caeau yn awgrymu llechfeddiant yr ucheldir comin yn ystod diwedd y cyfnod canoloesol i ddechrau'r cyfnod l-ganoloesol. Ymddengys bod yr ardal yn cynnwys rhai ffermydd a adawyd.. Nifer o gorlannau defaid ar lethrau Moel Arthur.

Noda'r Arolwg Ordnans odyn amhenodol nas defnyddir yn fferm Rhiwbebyll-bella.

Ffynnon sanctaidd yw'r ffynnon ger fferm Plas Dolben, fe'i gelwir yn ffynnon Sant Cynhafal, sef nawddsant yr eglwys yn Llangynhafal, oddeutu 0.5km i'r de, y cyfeiriwyd ati gan y bardd lleol, Gruffydd ap Ieuan yn hanner gyntaf y 16eg ganrif. .

Ffynonellau

Richards 1969
Silvester 1995

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.