CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Fron-dyffryn, Llandyrnog and Ysceifiog, Siroedd Dinbych a Fflint
(HLCA 1051)


813.04

Cau tiroedd comin yr ucheldir yn ystod y 18fed i'r 19eg ganrif ar lethrau gorllewinol bryniau Clwyd gyda llechfeddiannu bythynnod ar fin y ffordd.

Cefndir hanesyddol

Roedd yr ardal yn rhan o ucheldir comin ar gyrion gorllewinol plwyfi eglwysig canoloesol Llangwyfan a Llandyrnog, a oedd yn rhan o gwmwd hynafol Dogfeilyn yng nghantref Dyffryn Clwyd..

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Ochrau caedig llethrog uchaf Bryniau Clwyd, rhwng uchdero oddeutu 190-410m uwch lefel y mr, yn codi o ffiniau'r tir a amgaewyd ynghynt i ragfuriau bryngaer Oes Haearn Penycloddiau. Mae'r ardal yn ffurfio rhan o AHNE Bryniau Clwyd. Torrir y llethr gan nifer o ddyffrynnoedd afonydd ochrau serth gan gynnwys Nant Simon i'r gogledd o Langwyfan a chan y dyffryn i'r de o Langwyfan.

Ffermydd Fron-dyffryn a Glyn Arthur o'r 19eg ganrif, ar uchder o 205m a 260m yn l eu trefn, yw'r unig aneddiadau yn yr ardal cymeriad.

Caeau petryalog o faint canolig i fawr yn amgu porfeydd garw ucheldirol a pheth tir pori wedi ei wella, gyda gwrychoedd o ddrain tenau sydd weithiau wedi tyfu allan fel ffiniau i'r caeau a llinellau toredig o goed a llwyni, sy'n cael eu hailosod gan ffensys o byst a gwifren dro arall. Dynodir ffiniau rhai caeau gan gloddiau mawr a linsiedi, gydag olion cloddiau caeau sy'n weddill yn y goedwig i'r de o Benycloddiau. Yn debyg o ran nodweddion cyffredinol i ardal cymeriad Fronheulog ymhellach i'r de.

Planhigfeydd conifferaidd diweddar ar y tir serth ychydig yn is na rhagfuriau Penycloddiau ac yn y dyffryn llethrog i'r dwyrain o Langwyfan, a dorrwyd yn rhannol

Rhennir yr ardal yn ddwy gan y ffordd gyhoeddus sy'n rhedeg drwy'r dyffryn llethrog i'r gorllewin rhwng Llangwyfan a Nannerch. Rhed llwybr Clawdd Offa ar hyd rhan o ochr ddwyreiniol yr ardal cymeriad.

Mae'r tir amaeth o gwmpas Glyn Arthur ar ffurf parcdir, gyda hen goded mawr ar hyd y ffiniau gan gynnwys ochr y ffordd gyhoeddus sy'n arwain i fyny tuag at Foel Arthur.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.