CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd
Meusydd-brwyn, Dinbych, Sir Ddinbych
(HLCA 1058)


CPAT PHOTO 812.01A

Tirwedd arbennig o gaeau petryalog a llain-gaeau, ffosydd draenio a llynnoedd bychain, gyda ffermydd a thyddynnod gwasgaredig, ar gyrion gogledd-ddwyrain Dinbych.

Cefndir hanesyddol

Yn dod o fewn plwyfi eglwysig canoloesol Dinbych a Henllan yng nghwmwd Is Aled yng nghantref hynafol Rhufoniog. Dengys y siartiau bwrdeistrefol a roddodd Henry de Lacy, iarll Lincoln yn 1283 a 1290 bod dinasyddion y fwrdeistref newydd wedi cael tir amaethyddol yn y trefgorddau amgylchynol yn ogystal ag eiddo o fewn y dref. Hyd yn hyn, ni sefydlwyd union leoliad y tir a roddwyd ond mwy na thebyg bod peth ohono yn dod o fewn yr ardal cymeriad, a gweithid ef o ffermydd yn nhref Dinbych,ac efallai mai dyma darddiad y patrwm caeau pendant yn yr ardal cymeriad hon.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Tir pori'n disgyn yn raddol o oddeutu 50m uwch lefel y mr ar y de-orllewin, ar gyrion gogleddol Dinbych i tua 30m uwch lefel y mr ar y gogledd-ddwyrain, ar ymylon gorlifdir Afon Clwyd.

Ffermydd gwasgaredig a nifer o dyddynnod gwasgaredig, gyda rhagor na 1km rhyngddynt yn gyffredinol, a rhai ffermydd bellach wedi eu gadael ar y tir uchaf tua'r de a'r gorllewin. Ffermdai calchfaen 18fed/19eg ganrif neu ffermdai wedi eu rendro, fel Meusydd-brwyn, gyda thai allan 18fed/19eg ganrif o gerrig a briciau a buarth waliau cerrig.

Tirwedd arbennig gyda lleiniau a chaeau petryalog o faint canolig, rhwng 50-150m o led, wedi eu gosod mewn blociau mewn perthynas 'r prif ffosydd a'r deiciau draenio, gyda rhai'n ymestyn mewn llinell syth o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain am oddeutu 2km. Caeau wedi eu ffinio gan ffosydd draenio a gwrychoedd isel wedi eu cynnal yn dda'n gyffredinol, gyda choed deri gwasgaredig yn y gwrychoedd a rhai gwrychoedd wedi eu hailosod gyda ffensys pyst a gwifren. Pyst giatiau o gerrig ar gyfer giatiau caeau ar ochr y ffyrdd cyhoeddus ac ar ochr rhai o'r lonydd fferm. Rhai mannau grwn a rhych tua'r de-orllewin, yn rhedeg ochr yn ochr gyda ffiniau'r caeau. Llynnoedd gwasgaredig o ddyddiad a diben amhenodol mewn caeau ac ar hyd ffiniau caeau, mae rhai ohonynt wedi eu lefelu yn ystod y blynyddoedd diweddar. Siediau ac ysguboriau bychain o gerrig, briciau a haearn gwrymiog yng nghorneli rhai caeau, rhai'n adfail bellach. Lonydd fferm a llwybrau sy'n rhedeg lawr yr allt o'r gorllewin, gan ffurfio ceuffyrdd ar y llethrau serthaf, sy'n rhoi mynediad i'r tir. Tir gyda nodweddion parcdir o gwmpas Cwfaint 19eg ganrif St Brigid o friciau, wal ar hyd y briffordd ar ochr orllewinol yr ardal cymeriad.

Ffynonellau

Beresford & Joseph 1979, 219-221
Beresford 1988, 547-8
Owen 1974

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.