CPAT logo
Cymraeg / English
Adref
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd


TIRWEDDAU DIWYDIANNOL

Nodweddwyd tirwedd hanesyddol y dyffryn yn ei hanfod gan amaethyddiaeth a choedwigoedd yn hytrach na chan ddiwydiant neu fasnach. Roedd y diwydiannau a sefydlwyd, yn gyffredinol, ar raddfa fach ac weithiau nid oeddent yn paran hir, ac feu seiliwyd yn gyffredinol ar ddatblygu adnoddau mwynol naturiol, ar brosesu cynnyrch amaethyddol, neu ar ddiwydiannau gwasanaethu neu grefft megis gwaith gof.

Bellach, maer mwyafrif or chwareli yn Nyffryn Clwyd yn segur. Prin yr effeithiodd y chwarela ar fryniau Clwyd yn Nyffryn Clwyd, oherwydd, i raddau helaeth, fod y ddaeareg waelodol, yn bennaf, o gerrig clai meddal a brau. Fodd bynnag, yn ardal gymeriad Moel Famau, ac yn ardaloedd cymeriad Bron-heulog, Bryn-isaf a Phen-yr-allt ar lethrau deheuol Moel Arthur, gellir gweld chwareli bach canoloesol neu ôl-ganoloesol ar ochr y ffordd ac ar ochr llwybrau, chwareli a ddefnyddid, fwy na thebyg, yn y gwaith o adeiladu tai a waliau a chynnal y ffyrdd. Ceir chwarel fwy ym Modfari, un or ardaloedd prin lle y mae calchfaen yn brigo ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, a lle y cafwyd nifer o odynau calch erstalwm. Gwyddys am chwareli calch eraill ac odynau calch segur yn yr ardaloedd calch ar ochr orllewinol y dyffryn, megis yng Nghraig-y-ddywart ir gogledd-ddwyrain o Ruthun, ar y bryniau ir dwyrain o Lanrhaeadr, ar wasgar ar draws rhan ddeheuol ardal gymeriad Eyarth ym Mhen-y-graig, Tyn Llanfair a Chraig-adwy-wynt, ac ym Mryn Robyn a Phenllwyn ar y brigiad calchfaen yng Nghraig-fechan.

Cafwyd rhywfaint o weithgaredd cloddio yn ystod y 19eg ganrif mewn nifer o ardaloedd ar fryniau Clwyd, yn cynnwys gwaith aur bach yn y 19eg ganrif ar lethrau gorllewinol Moel Arthur, a nifer o fentrau cloddio ar raddfa fach syn dyddio or 1890au ac sydd bellach yn segur, ar gyfer plwm a barytes ar Foel Dywyll. Ymddengys fod chwarel a siafft gerllaw Pen-llwyn, ir gogledd o Langwyfan yn cynrychioli treialon neu waith plwm ar raddfa fach or 19eg ganrif. Gweithiwyd pwll hematit yng Nghoed Llan, ychydig ir gogledd o Fodfari rhwng 1877-1909, a chynrychiolir y gweddillion gweledol gan nifer o adeiladau a addaswyd yn cynnwys cyn dŷ a gweithdyr gweithredwr, ynghyd â thyllau a chwilod ceffylau o bosibl, sydd bellach yn cael eu cuddio gan goetir. Cafwyd y mwyn haearn yma mewn holltau rhwng y siâl Silwraidd ar calchfaen Carbonifferaidd.

Sefydlwyd melin ŷd bwysig yn yr hyn a ddaeth wedyn yn Stryd y Felin yn Rhuthun yn ystod y 13eg ganrif, ac maer ffrwd a oedd yn bwydor felin â dŵr o Glwyd ganrifoedd yn ddiweddarach yn dal i oroesi fel cloddwaith ar dir Parc y Castell. Daeth Rhuthun yn ganolfan bwysig ar gyfer cynhyrchu brethyn yn ystod y cyfnod canoloesol gydai urdd o banwyr a gwehyddwyr ei hunan. Sefydlwyd melinau ŷd a melinau pannu eraill ar nentydd ac afonydd eraill ledled Dyffryn Clwyd yn ystod cyfnodau canoloesol ac ôl-ganoloesol, yn cynnwys y rhai hynny yn Felin-ysguboriau a hefyd ar afon Clwyd, Melin Garthgynan a Melin Llanrhudd ar Ddŵr Iâl, Melin Meredydd ar Afon Clywedog ir gorllewin o Rhewl, Melin Candy (ar gyfer tynnu hadau meillion) a Melin Geinas ar Afon Chwiler, melin ar Nant-y-ne ger Hirwaen, a melinau yn Felin-isaf a Phentrer felin ar yr afon ir de o Landyrnog. Mae rhai or adeiladau syn perthyn ir melinau hyn yn dal i oroesi, ac mewn nifer o achosion, megis ym Melin Brookhouse, Melin Geinas a Melin Candy, mae tystiolaeth o ffrwd y felin iw gweld hyd heddiw.

Mae cyn ddiwydiannau eraill yn cynnwys Cwmni Dur a Haearn Partington ym Modfari ller oedd cilffyrdd o Gyffrodd y Wyddgrug a Dinbych ym 1924. Mae safler cyn weithfan yn weladwy ir de or pentref o hyd. Y gwaith diwydiannol mwyaf nodedig yn yr ardal oedd cyn Waith Bleach Lleweni a adeiladwyd gan Thomas Fitzmaurice ym 1785 ar gyfer trin llieiniau a gynhyrchwyd ar ei ystadau Gwyddelig ac a ddinistrwyd, fwy na thebyg, rhwng 1816-18. Mae safler adeiladau Paladaidd nodedig hyn, a ddisgrifiwyd gan Thomas Pennant fel adeiladau a chanddynt rodfa brydferth bedwar can troedfedd o hyd yn weladwy fel cloddwaith yng Nghoed y Plain. Mwy na thebyg fod y sarn a elwir yn Hen Ffôs yn arwain atynt, ir dwyrain o Aberchwiler.