CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dwyrain Fforest Fawr and Mynydd-y-glg
Map or ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddur Dirwedd Hanesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glg: Cefn Cadlan Cefn Sychbant Mynydd-y-glog
Cymuned Hirwaun, Rhondda Cynon Taff
(HLCA 1199)


CPAT PHOTO 2509-32

Ardal o rostir eang ag olion pwysig o ddefnydd tir, anheddu a chladdu cynhanesyddol, ynghyd dyrnaid o gorlannau l-ganoloesol a diweddarach yma ac acw, a chwareli bach segur ac odynau calch cysylltiedig.

Cefndir amgylcheddol a hanesyddol

Dyma ardal helaeth o ychydig yn llai na 1,800 hectar o rostir, heb ei gau gan mwyaf. Yn gyffredinol, maen uwch na 300 metr uwchlaw lefel y mr ac, yn dopograffig, gellir ei rannun dri darn mawr o ucheldir, syn raddol ddisgyn tuar de. Tuar gogledd, ceir cefnen Cefn Cadlan syn rhedeg fwy neu lai or dwyrain ir gorllewin ac yn codi i uchder o 480 metr. Nentydd syn llifo tuar gorllewin i ymuno ag afon Hepste, ac eraill syn llifo tuar dwyrain i Garwnant ac isafonydd eraill Taf Fawr, syn ei ddraenio tuar gogledd. Ir de, mae col bas, gyda nentydd yn llifo tuar gorllewin i ymuno Nant Cadlan a thuar dwyrain i ymuno Nant Aber-nant, ac isafonydd eraill Taf Fawr, unwaith eto. Y tu hwnt i hwn mae cefnen dwyrain-gorllewin Cefn Sychbant yn codi i uchder ychydig yn is na 420 metr. Ym mhen deheuol yr ardal ceir llwyfandir Mynydd-y-glog syn codi i tua 390 metr, a thu hwnt iddo maer nentydd yn draenio tuar de i ymuno ag afon Cynon. Mae col bas arall yn gwahanu Mynydd-y-glog a Chefn Sychbant, ac ynddo mae nentydd yn llifo tuar gorllewin i ymuno Nant Cadlan a thuar dwyrain i ymuno Nant Sychbant ac, eto, isafonydd eraill afon Taf Fawr.

Mae band o Hen Dywodfaen Coch syn croesir ardal yn rhedeg ar draws Cefn Sychbant. Tuar de iddo mae band o Galchfaen Carbonifferaidd ar Fynydd-y-glog, ac ym mhen deheuol yr ardal, tywodfaen a grut melinfaen syn ffurfior ddaeareg soled amlycaf. Gorweddar priddoedd at ei gilydd ar ben Hen Dywodfaen Coch neu ddyddodion drifft tywodfaen ac maer rhain, gan mwyaf, yn ddwrlawn yn dymhorol, ac yn asidig gyda haenlin fawnaidd ar yr wyneb. Maent yn cynnal rhostir gwlyb syn borfa wael, ond tuar gorllewin ceir ardaloedd llai o dir wedii ddraenion well ar ben tywodfaen a chalchfaen yn ardaloedd Cefn Cadlan a Mynydd-y-glog. O ran cynhyrchu amaethyddol, defnyddiwyd yr ardal i raddau helaeth ar gyfer pori gwartheg a defaid ym misoedd yr haf, er bod cofnod o bori gwyddau dan reolaeth, o leiaf yn y col ym mlaen Cwm Cadlan.

Mae ffiniaur ardal nodwedd yn bennaf yn dilyn y rheiny a nodwyd yn y gofrestr o dirweddau hanesyddol, er yu lluniwyd i gyd-fynd yn fwy pendant ffiniaur rhostir heb ei gau a heb goedwigoedd. Nid yw chwarel Penderyn tuar de-orllewin wedii chynnwys ychwaith. Er hwylustod, lluniwyd ffin eithaf mympwyol tuar gogledd, gan wahanur ardal nodwedd hon oddi wrth ardal nodwedd Mynydd y Garn, ar hyd llinell cefnffordd yr A4059 a llwybr troed ar draws y rhostir.

Maer rhan fwyaf or ardal yn Dir Comin cofrestredig, ar wahn i rannau o Fynydd-y-glog ym mhen deheuol yr ardal a rhan o Gefn Cadlan ir gogledd o Nant-maden. Roedd yr ardal yn rhan o blwyfi sifil Cantref a Phenderyn yn Sir Frycheiniog tan ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Dyma ardal eang o rostir, yn bennaf heb ei wella er bod rhai ardaloedd o borfa arw ym mhen deheuol yr ardal, ar ochrau deheuol a gorllewinol Mynydd-y-glog, wediu rhannun amgaeadau syn gyffredinol yn fawr ac yn afreolaidd eu ffurf. Waliau o gerrig sychion syn eu diffinio, ac maer mwyafrif yn fwy nag 8 hectar mewn maint. Ymddengys fod yr ardal wedi bod yn destun anghydfodau cyfreithiol ynghylch hawl Comin ar ran o Fynydd-y-glog yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Cafodd rhai or rhain eu rhannu ymhellach gan waliau mwy syth o gerrig a chan ffensys pyst-a-gwifrau yr ymddengys eu bod yn dyddio or 19eg ganrif ar 20fed ganrif. Mae tystiolaeth hefyd o ffiniau creiriol yn yr ardal hon, gan gynnwys llechfeddiant dienw ag adfeilion adeiladau cysylltiedig, efallai yn tarddu or cyfnod l-ganoloesol. Maent ar uchder o tua 320 metr ar isafon Nant Melyn, ac mae caeaur llechfeddiant yn ymestyn i ardal o tua 8 hectar.

Gwelir yr elfen carn (neur lluosog carnau) mewn enwau lleoedd fel Garn Ddu a Charn Pwll Mawr ond, yn aml, ymddengys ei bod yn dynodi brigiadau creigiog naturiol, yn enwedig mewn ardaloedd o galchfaen.

Maen bosibl bod yr elfen sych a welir yn enw Nant Sychbant yn arwydd fod y nant hon yn sychu o bryd iw gilydd, lle maen llifo ar hyd y calchfaen Carbonifferaidd mandyllog, heibio i amryw o lyncdyllau i ymuno ag afon Taf Fawr, tuag at ben de-ddwyreiniol yr ardal nodwedd.

Maer ardal nodwedd yn cynnwys nifer o ardaloedd pwysig o anheddu a defnydd tir hynafol, yn dyddio or cyfnod cynhanesyddol hyd y cyfnodau canoloesol a thu hwnt.

Mae clwstwr arwyddocaol o gylchoedd cytiau cynhanesyddol ac adeiladau creiriol wediu hadeiladu o garreg ar ffurf petryal a llwyfannau tai diweddarach ar lethrau dwyreiniol cysgodol Cadair Fawr, ym mlaen nentydd Garwnant a Nant Ffynnonelin, yn tremio dros Bant y Gadair a dyffryn Taf Fawr. Cysylltir y dystiolaeth anheddu yma ag ychydig olion o weithgarwch amaethyddol, a gall felly gynrychioli trigfannau ucheldirol dros dro, rhwng tua 380 metr a 420 metr uwchlaw lefel y mr, yn ymwneud manteisio ar borfeydd ucheldirol yn ystod misoedd yr haf. Digwyddai hyn rhwng y cyfnod cynhanesyddol cynnar ar Canol Oesoedd, ac maen ymwneud o bosibl ag aneddiadau mwy parhaol yn nyffryn Taf Fawr.

Gorwedda ardal bwysig arall o anheddu a defnydd tir hynafol ar uchder o rhwng 350 metr a 450 metr ar lethrau deheuol, mwy cysgodol Cefn Cadlan a llethrau gogleddol y col. Maen ymestyn y tu hwnt i derfynaur tir ffermio wedii gau ym mlaen Cwm Cadlan tuar gorllewin ar ffermdir wedii gau gynt sydd bellach dan goed ym mlaen Nant Aber-nant ai hisafonydd tuar dwyrain. Yma, mae tystiolaeth o ddefnydd tir, sef meysydd carneddau (clystyrau o garneddau carega) a ffiniau creiriol o gerrig sychion. Yn aml, maent wediu crynhoi mewn ardaloedd rhwng tua hanner hectar a dwy hectar, ac ymddengys eu bod yn cynrychioli trin yr ucheldir neu wella porfa. I raddau helaeth, ni phennwyd dyddiad ar gyfer y gweithgarwch hwn ond, yn l pob tebyg, maen gysylltiedig thystiolaeth o anheddu, efallai trwy gydol y flwyddyn. Yn cynrychioli hyn mae cylchoedd cytiau ac adeiladau ar ffurf petryal, yr ymddengys eu bod unwaith eton dyddio or cyfnod rhwng y cyfnod cynhanesyddol cynnar ar Canol Oesoedd.

Mae trydedd ardal o anheddu a defnydd tir hynafol yn glynu at ffin ddeheuol y tir wedii gau yng Nghwm Cadlan, ir dwyrain o ffermydd Caer Arglwydd, Wern-las a Beili-helyg ac yn ymestyn ar lethrau gogleddol mwy agored Mynydd-y-glog, ar uchder o tua 300 metr i 380 metr uwchlaw lefel y mr. Maer safleoedd a welir yman cynnwys carneddau carega, ambell ffin greiriol o gerrig sychion, adeiladau ar ffurf petryal a chylchoedd cytiau gwasgaredig.

Nodwyd clystyrau bach eraill o garneddau carega yn y rhostir ar ochrau deheuol a gorllewinol Mynydd-y-glog, ar uchder o hyd at 320 metr uwchlaw lefel y mr.

Mae un twmpath llosg wedii gofnodi ar ochrau deheuol Cefn Sychbant, syn cynnwys twmpath nodweddiadol ar ffurf pedol o gerrig llosg, gerllaw ardal gorsiog. Gellir dehongli twmpathau or math hwn orau fel baddonau sawna o ryw fath, yn dyddio o ganol i ddiwedd Oes yr Efydd, er ei bod yn bosibl bod rhai ohonynt wediu defnyddio fel safleoedd coginio.

Maer ardal hefyd yn cynnwys nifer o glystyrau pwysig o henebion claddu a defodol cynhanesyddol o gyfnod cynharach yn cynnwys, yn benodol, carneddau claddu y gellir eu gwahaniaethu oddi wrth garneddau carega oherwydd eu bod yn fwy eu maint. Mae hefyd yn cynnwys nifer o garneddau cylch o fath yr ymddengys fod ganddynt swyddogaethau claddu a defodol yn gynnar yn Oes yr Efydd, er na chynhaliwyd gwaith cloddio ar unrhyw un or rhain yn y cyfnod modern. Bellach, ni ystyrir ei bod yn debygol bod cysylltiad rhwng rhai or henebion hyn a brwydr ganoloesol. Theophilus Jones, hanesydd o Sir Frycheiniog a awgrymodd hyn, ar sail yr enw lle Cadlan. Yn gyffredinol, maer henebion rhwng 6 metr ac 20 metr o led ac, at ei gilydd, nid oes ganddynt nodweddion neilltuol, er y dengys un garnedd gron yn y col uwchlaw Cwm Cadlan olion posibl o ymyl fewnol o gerrig a chist gladdu ganolog. Disgen o dywodfaen a ddarganfuwyd ar y safle hwn ywr unig ddarganfyddiad a oedd yn gysylltiedig r henebion. Mae rhai safleoedd wedi cael eu difrodi neu wedi dioddef aflonyddu yn y canrifoedd diweddar, weithiau er mwyn adeiladu cysgodfannau defaid ond, yn gyffredinol, maer safleoedd mewn cyflwr cymharol dda.

Gan amlaf, saif yr henebion uwchlaw tua 400 metr ac ymddengys fod y rhan fwyaf ar safle amlwg, naill ai ar gopa neu ar grib bryn, lle gellid eu gweld o bellter o gyfeiriad penodol. Yn ddiamau, erys safleoedd eraill iw darganfod mewn arolwg maes mwy dwys. Er hynny, maer dosbarthiad y gwyddys amdanon awgrymu nifer o glystyrau ystyrlon yr ymddengys fod iddynt arwyddocd o ran anheddu a defnydd tir cynnar. Ymddengys weithiau fod yr henebion mewn clystyrau unigol iw gweld mewn parau, hyd at 40 metr i 50 metr rhyngddynt ond, yn gyffredinol, maent ymhellach ar wahn, gyda 100 metr i 200 metr neu fwy rhyngddynt. Gellir nodi clystyrau ar lethrau gorllewinol Cadair Fawr, yn tremio dros ran uchaf dyffryn Hepste, ar lethrau gorllewinol y col ym mlaen Cwm Cadlan, ar lethrau deheuol a de-ddwyreiniol Cefn Sychbant a llethrau gogleddol Mynydd-y-glog yn tremio dros Bant Sychbant a dyffryn Taf Fawr, ac ar lethrau deheuol a gorllewinol Mynydd-y-glog yn tremio dros Gwm Cynon. Mae eu dosbarthiad cyffredinol yn cyd-fynd dosbarthiad yr olion o amaethu ac anheddu cynnar y nodwyd uchod yn hytrach na gorymylu nhw a byddent fwy na thebyg yn dyddio, o leiaf yn rhannol, or un cyfnod. Ymddengys nad oes yr un or henebion ag enw wedii gofnodi o unrhyw hynafiaeth.

Yn l pob tebyg, maer corlannau arunig o gerrig sychion, syn gromlinog neun betryal eu ffurf a welir, er enghraifft, ar ochr ddwyreiniol Mynydd-y-glog ac ar Gefn Cadlan, yn dyddio or cyfnod l-ganoloesol. Dangosir llawer ohonynt am y tro cyntaf ar fapiaur Arolwg Ordnans yn y 1880au.

Gwelir nifer fawr o odynau calch segur a chwareli bach a ddefnyddiwyd i echdynnu calchfaen ar nifer o frigiadau calchfaen yn yr ardal nodwedd, yn benodol ar Gadair Fawr, ochr ogleddol Cefn Cadlan ac ochr ogleddol Mynydd-y-glog. Gwelir odyn unigol ambell dro ond yn amlach na dim maent mewn parau neu glystyrau o hyd at ddeg neu fwy. Mae llawer or odynnau iw gweld yn unig fel twmpathau glaswelltog, rhwng 1 fetr a 3 metr o uchder a 3 i 4 metr o led, phant yn y canol, er ambell dro gellir gweld manylion strwythurol fel wal cerrig sychion ac un neu fwy o ffliwiau. Cysylltir rhai odynnau llwyfannau neu rampiau a ddefnyddid iw llwytho chalchfaen, ac phentyrrau gwastraff. Yn y mwyafrif o achosion, maen debygol bod yr odynaun cynhyrchu calch at ddibenion amaethyddol ac ar gyfer adeiladu. Ni bennwyd dyddiad ir mwyafrif ond dengys mapiaur Arolwg Ordnans yn y 1880au fod llawer ohonynt yn segur. Maen debygol eu bod yn dyddio o ail hanner y 18fed ganrif a hanner cyntaf y 19eg ganrif au bod yn gysylltiedig r dystiolaeth arall o welliannau amaethyddol a wnaed ar ffermydd y tir isel gerllaw yn ystod y cyfnod hwn.

Maer ardal hefyd yn cynnwys nifer o chwareli tywodfaen segur ar Garn Ddu ac ochr orllewinol Cefn Cadlan, ac ymddengys o dystiolaeth gartograffig eu bod yn tarddu o hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Ar un adeg roedd dyddodion tywod silica hefyd yn cael eu gweithio yn chwarel Cefn Cadlan.

Mae llinell y ffordd dyrpeg o ddechraur 19eg ganrif o Hirwaun i Aberhonddu (yr A4059 fodern) yn croesir ardal, a gellir gweld olion nifer o chwareli bach a cherrig milltir ar ochr y ffordd hyd heddiw. Yn torri ar draws pen gorllewinol yr ardal mae llwybr yr hen reilffordd a ddefnyddiwyd wrth adeiladu Cronfa Ddwr Ystradfellte ar ddechraur 20fed ganrif. Mae llwybr pibell nwy fodern yn croesi rhan ddeheuol yr ardal am tua 2 cilometr, a gellir gweld ei ffordd-fraint 20 metr o led hyd y man lle maen ymuno gwaith nwy Bryn Du, ychydig ir de-ddwyrain or ardal nodwedd.

Mae i ardaloedd mawnog, priddoedd claddedig a dyddodion eraill yn yr ardal botensial sylweddol ar gyfer ail-greu newid amgylcheddol a defnydd tir yn y gorffennol.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Jones 1930; Leighton 1997; Morgan a Powell 1999; Selwood 2000; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr 1983; CBHC 1997; Webley 1954

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.