CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glg

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-Glg


ANHEDDU A DEFNYDD TIR

Cyfnodau Cynhanesyddol a Rhufeinig

Ceir awgrym or anheddu a defnydd tir cynharaf yn yr ardal gan hapddarganfyddiad bwyell garreg gaboledig or cyfnod Neolithig yn yr ardal sydd bellach yn goediog ger Cefn-y-maes, yn tremio dros ddyffryn Taf Fawr ar ochr ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol. Mae darganfyddiadau or math hwn yn awgrymu bod cymunedau ffermio cynnar wedi dechrau clirior coedwigoedd ger ymylon yr ucheldiroedd. Nid ywn annhebygol, er hynny, bod grwpiau crwydrol o helwyr-gasglwyr wedi manteisio hefyd ar ddyffrynnoedd yr iseldir ac ucheldiroedd Fforest Fawr, yn ystod y cyfnod Mesolithig blaenorol.

Nodwyd nifer o gymhlethfeydd pwysig o aneddiadau ac o ddefnydd tir cynnar yn ardal y dirwedd hanesyddol hefyd, gan gynnwys cytiau, waliau caeau segur a charneddau carega. Er nad oes yr un or rhain wedii ddyddion fanwl hyd yma, ymddengys yn debygol bod o leiaf rhai or olion hyn yn dod o fwy neu lai y cyfnod rhwng Oes yr Efydd a chyfnod y Rhufeiniaid. Maen debygol hefyd bod rhai ohonynt yn dyddio or cyfnod canoloesol cynnar ar cyfnod canoloesol.

Ar y dechrau, roedd anheddu a defnydd tir yn gofyn clirio coetir a phrysg; yn ddiamau, rhan o broses raddol fyddai hyn a ddechreuodd yn yr ardaloedd a allai, o bosibl, fod yn fwy ffrwythlon a chysgodol. Awgryma sylfeini carreg y cytiau crwn ddyddiad yn Oes yr Efydd neu Oes yr Haearn. Er hynny, awgryma presenoldeb rhai adeiladau ar ffurf petryal naill ai barhad ir cyfnod Rhufeinig a dechraur cyfnod canoloesol, neu ailddefnyddio safleoedd cynharach yn y cyfnod canoloesol cynnar, y cyfnod canoloesol neu ddechraur cyfnod l-ganoloesol. Nid ywr dehongliad or olion defnyddio tir ac anheddu hyn yn sicr, gan na fu unrhyw waith cloddio. Gwelir y cytiau fesul un neu mewn clystyrau bach, ac maen bosibl eu bod yn awgrymu anheddu tymhorol neu gydol y flwyddyn. Feu cysylltir weithiau ag amgaeadau bach chloddiau o garreg lle byddai anifeiliaid o bosibl yn cael eu corlannu. Mae carneddau caregan cynrychioli casglu cerrig a orweddai ar yr wyneb, naill ai i wella porfa neu i wella tir r, ac maent iw gweld yn aml mewn clystyrau helaeth ond llac neu mewn meysydd carneddau. Unwaith eto, gall waliau isel a chloddiau caeau fod yn gysylltiedig chlirio caeau neu wella porfa, yn ogystal ag atal stoc rhag crwydro.

Maen debygol bod defnydd tir diweddarach wedi effeithion gryf ar ddosbarthiad yr olion sydd wedi goroesi. I raddau helaeth, daethpwyd o hyd ir olion ar ymylon is yr ardaloedd o rostir heb eu hamgu, rhwng uchder o tua 300 metr a 480 metr uwchben lefel y mr. Maen debygol bod gweithgareddau amaethyddol diweddarach, rhwng y cyfnod canoloesol a heddiw, wedi cuddio, gorchuddio neu symud olion defnydd tir ac anheddu cynharach ar dir is y maer mwyafrif ohono, bellach, yn rhan o dir amaeth sydd wedii amgu yn nyffrynnoedd Mellte, Hepste a Chadlan heddiw. Fodd bynnag, maen debygol bod cyfuchlin uwch, sef tua 480 metr, yn derfyn uchaf eithaf manwl gywir i weithgareddau anheddur gorffennol.

Gwyddys am ardaloedd o ddefnydd tir ac anheddu cynnar mwy helaeth a mwy arwyddocaol yn rhan ogleddol ardal y dirwedd hanesyddol yn rhan uchaf cysgodol dyffryn Hepste, yn ymestyn i ddyffrynnoedd isafonydd nant Hepste-fechan ac afon y Waun ac ar lethrau dwyreiniol, cysgodol Mynydd y Garn ac Waun Tincer. Cofnodir hefyd grwp arunig o gytiau crwn, sydd o bosibl yn dyddio o gyfnod cynhanesyddol yng Ngharn Caniedydd, tuag ochr ddwyreiniol yr ardal, tua 400 metr uwchben lefel y mr. Yn rhannau dwyreiniol a deheuol ardal y dirwedd hanesyddol mae olion helaeth ac arwyddocaol o ddefnydd tir ac anheddu cynnar wedi goroesi mewn sawl man: ar lethrau dwyreiniol, cysgodol Cadair Fawr; ym mlaen nant Garwnant a nant Ffynnonelin; yn tremio dros Bant y Gadair a dyffryn Taf Fawr; ar lethrau deheuol, mwy cysgodol Cefn Cadlan; ar lethrau gogleddol y col syn ymestyn y tu hwnt i derfynaur tir ffermio amgaeedig ym mlaen Cwm Cadlan; ac ar ochr ddeheuol Cwm Cadlan ac yn ymestyn i lethrau gogleddol, mwy agored Mynydd-y-glog.

Fel y nodir mewn adran ddilynol am henebion claddu a defodol cynhanesyddol Oes yr Efydd, mae arwyddion eglur bod y dirwedd eisoes wedii rhannu ar gyfer dibenion gwahanol yu diffiniwyd yn eglur mewn cyfnod cynnar. Ymddengys fod clystyrau o garneddau cylch defodol a charneddau claddu, yn dyddio, maen debygol, o Oes yr Efydd, yn gorwedd ar ymylon uwch yr ardaloedd lle mae olion defnydd tir ac anheddu cynnar yn goroesi o hyd. Mwy na thebyg, maent yn dyddio or un cyfnod, yn rhannol o leiaf, ac yn aml maent wediu lleoli ar gribau a chopaon bryniau lleol lle gellid eu gweld o dir is.

Ffased arall o ddefnydd tir ac anheddu cynnar yw presenoldeb nifer o dwmpathau llosg. Nodwyd llond dwrn ohonynt, yn bennaf mewn ardaloedd o rostir heb eu hamgu: islaw Cefn Esgair-carnau; yn tremio dros ddyffryn Taf Fawr; gerllaw Afon y Waun tua blaen dyffryn Hepste; ac ar ymyl orllewinol Cefn Sychbant, yn tremio dros Gwm Cadlan. Ar y safleoedd hyn, gwelir casgliadau o gerrig llosg, lludw a golosg ac maent fel rheol wediu lleoli gerllaw nant. Awgryma dystiolaeth mewn mannau eraill eu bod yn debygol o fod yn dyddio o Oes yr Efydd. Y dehongliad mwyaf darbwyllol yw eu bod yn fath o faddon sawna, er ei bod yn bosibl i rai gael eu defnyddio fel safleoedd coginio. Ymddengys fod yr henebion hyn yn osgoi ardaloedd o ddefnydd tir ac anheddu cyfoes, yn yr un modd dosbarthiad safleoedd claddu a defodol cynhanesyddol. Awgryma hyn unwaith eto raniad sylweddol o ran swyddogaeth y dirwedd yn y cyfnod cynhanesyddol cynnar.

Mae olion anheddu cynnar yn osgoir tir mwy agored a llai croesawus, syn ymestyn hyd at tua 730 metr uwch ben lefel y mr yn ardal y dirwedd hanesyddol, ac yn gyffredinol maent yn dod yn fwyfwy prin ar uchder rhwng tua 400 metr a 480 metr. Gwyddys am nifer o glystyrau bach o gytiau crwn ar yr uchderau hyn syn gynhanesyddol yn l pob tebyg, er enghraifft: yng Nghors y Beddau ar yr ysbardun rhwng nant Ganol a nant Mawr, yn agos at nant Llywarch, ar Waun Llywarch; rhwng nant Llywarch ac afon y Waun; a hefyd mewn sawl lleoliad gerllaw afon y Waun. Anaml yn unig yu cysylltir ag olion trin tir ar ffurf cloddiau caeau neu garneddau carega ac feu gwelir weithiau mewn cysylltiad strwythurau ar ffurf petryal, syn fwy tebygol o fod yn cynrychioli hafodydd canoloesol neu l-ganoloesol cynnar. Byddai grwpiau teuluol yn byw ynddynt, ac feu cysylltir manteisio ar borfeydd yr ucheldir yn dymhorol yn ystod misoedd yr haf, yn benodol ar gyfer magu gwartheg. Maer cysylltiad hwn yn codi cwestiwn, sef pun a yw trawstrefa yn yr ardal yn deillio or cyfnod cynhanesyddol.

Y cyfnod canoloesol cynnar hyd y cyfnod l-ganoloesol cynnar

Yn ddiamau, roedd clirio coetir a phrysg bob yn dipyn yn parhau yn yr ardal hyd at ddechraur cyfnod canoloesol cynnar a thu hwnt. Erbyn hynny, maen debygol bod system o ddefnydd tir ac anheddu wedi dod ir amlwg, gan fabwysiadu economi r a bugeiliol gymysg a manteisio ar adnoddaur iseldir ar ucheldir. Ar y dechrau, ymddengys yn debygol bod pwyslais ar fagu gwartheg a ffermio llaeth, ond ar fugeilio defaid oedd y pwyslais yn ddiweddarach. Prin iawn yw tystiolaeth fanwl o ffurfiaur anheddu, maint a dosbarthiad deiliadaethau a natur yr economi hyd ddiwedd y 18fed ganrif a dechraur 19eg ganrif, pan luniwyd y mapiau stad cyntaf ar arolygon degwm. Fodd bynnag, maen debygol mai yn ystod y cyfnod hwn y seiliwyd anheddu ar batrwm o ddeiliadaethau bach, gwasgaredig gyda thrigfannau gydol y flwyddyn, neu hendrefydd, wediu cysylltu phorfa, tir r a dolydd wediu hamgu ar y tir mwy ffrwythlon a chynhyrchiol yn y dyffrynnoedd is, cysgodol. Byddai porfeydd mwy helaeth y rhostir yn cael eu pori yn ystod misoedd yr haf, a byddai hyn, mewn rhai achosion neu ar rai adegau, yn cynnwys defnyddio hafodydd, sef trigfannau dros dro yn yr ucheldiroedd a gysylltir yn benodol phori gwartheg. Nid oes enghreifftiau or elfennau enwau lleoedd hendre a hafod , sef trigfannau dros dro yn yr ucheldiroedd a gysylltir yn benodol phori gwartheg. Nid oes enghreifftiau or elfennau enwau lleoedd.

Mae goroesiad nifer o dai fferm cynnar ar ffurf ty hir, fel Hepste-fawr yn ardal nodwedd y dirwedd hanesyddol Dyffryn Hepste, yn awgrymu datblygiad ffermydd iseldirol parhaol, sef yr hendrefydd, yn ystod y Canol Oesoedd. Ceir trafodaeth ynghylch hyn mewn adran ddilynol ar adeiladau. Yn l pob tebyg, ffermwyr rhyddfraint oedd yn dal y rhain yn bennaf yn y cyfnod hwn. Roedd y ffurf hon ar adeiladun amlbwrpas, ac yn aml byddain lletya pobl ac anifeiliaid, porthiant a grawn, o dan un to. Fel heddiw, roedd ffermydd cynnar yn wasgaredig yn l pob tebyg, ac yn sefyll yng nghanol eu caeau eu hunain. Er nad oes tystiolaeth benodol, maen debygol hefyd bod llawer or patrwm cyffredinol o gaeau bach afreolaidd wedi datblygun raddol erbyn o leiaf diwedd y cyfnod canoloesol a dechraur cyfnod l-ganoloesol. Maen debygol y byddai wedi clirio unrhyw olion cynharach o ddefnydd tir ac anheddu yn y broses, er y byddai peth amrywiad wedi parhau ger ymylon y rhostir heb ei amgu o amgylch, gan ddibynnu ar yr amodau hinsoddol neu ddycnwch eu deiliaid. Ceir y cofnod dogfennol cyntaf or llechfeddiant rhostirol arunig ac ar wahn yn Hepste-fechan, er enghraifft, rhwng uchder o 330 a 370 metr, yn y 1780au, ond maen debygol ei fod yn cynrychioli goroesiad rhannol a gwelliant mewn cyfnod cynharach o lawer o weithgaredd defnydd tir. Byddai waliau o gerrig sychion a chloddiau caregan diffinio caeau, fel mewn mannau eraill yn is i lawr yn nyffryn Hepste a dyffryn Cadlan.

Maen debygol bod llawer or patrwm modern o lonydd, traciau a rhydau wedi datblygu yn y cyfnod hwn hefyd, gan ddarparu mynediad i ffermydd unigol, ynghyd lonydd gleision rhwng y caeau a fyddain rhoi rhwydd hynt i yrru da byw i fyny i borfeydd y mynydd yn y gwanwyn au dychwelyd ir fferm yn yr hydref. Maen debygol bod gwahanol gaeaun cael eu defnyddio at wahanol ddibenion erbyn y cyfnod hwn, gan ddibynnu ar ffrwythlondeb, draeniad naturiol, ar cyfeiriad a wynebent. Byddai caeau sych yn fwy addas iw trin, caeau nad oeddent yn draenio cystal yn borfa barhaol a chaeau is, mwy llaith, yn ddolydd gwair.

Fel y nodwyd uchod, gwyddys fod hafodydd, sef aneddiadau haf dros dro a oedd yn ddiamau wediu cysylltu r ffermydd iseldirol hyn, yn yr ardaloedd o rostir uwch nad oeddent wediu hamgu. Yn aml, byddent yn sefyll mewn mannau mwy cysgodol ger nant a roddai ddwr at ddibenion y cartref ac i stoc ei yfed. Yn rhan ogleddol ardal y dirwedd hanesyddol, islaw Fan Fawr, cofnodwyd grwpiau o lwyfannau adeiladau ar ffurf petryal, ag olion cytiau hir wediu hadeiladu o garreg sydd, i bob golwg, yn cynrychioli hafodydd, ar hyd afon Hepste, islawr cyfuchlin 380 metr. Ceir nifer o glystyrau bach o gytiau ar ffurf petryal syn dyddio, maen debyg, or canol oesoedd, ar uchder o rhwng 430 a 480 metr ar Gors y Beddau, ar Waun Llywarch. Cysylltir yr aneddiadau uwch hyn weithiau ag amgaeadau bach gyda chloddiau ou hamgylch. Maen bosibl yu defnyddiwyd ar gyfer rheoli stoc ond anaml iawn, os o gwbl, y gellir eu cysylltu thystiolaeth o drin tir. Gwyddys hefyd am glystyrau arwyddocaol o sylfeini carreg a llwyfannau tai ar ffurf petryal tebyg yn rhan ddwyreiniol a deheuol yr ardal mewn sawl man: rhwng tua 380 metr a 420 metr ar lethrau dwyreiniol cysgodol Cadair Fawr; ym mlaen nant Garwnant a nant Ffynnonelin; yn tremio dros Bant y Gadair a dyffryn Taf Fawr; rhwng tua 350 metr a 450 metr ar lethrau deheuol, mwy cysgodol Cefn Cadlan; ar lethrau gogleddol y col syn ymestyn y tu hwnt i derfynaur tir ffermio amgaeedig ym mlaen Cwm Cadlan; ac yn cadwn agos at ffin ddeheuol y tir wedii amgu yng Nghwm Cadlan, ir dwyrain o ffermydd Caer Arglwydd, Wernlas a Beili-helyg ac yn ymestyn i lethrau gogleddol mwy agored Mynydd-y-glog, ar uchder o rhwng tua 300 metr a 380 metr uwch ben lefel y mr. Ymddengys mai ychydig or trigfannau ucheldirol, anghysbell hyn yn ardal y dirwedd hanesyddol, os unrhyw rai o gwbl, sydd wedi datblygu i fod yn ffermydd llaeth phreswylwyr parhaol or math a ddatblygodd mewn ardaloedd eraill yn ucheldir Cymru.

Byddai hela adar ac anifeiliaid gwyllt er cynhaliaeth wedi parhau yn y cyfnod hwn er, fel y nodwyd uchod yn yr adran ar ffiniau, erbyn diwedd yr 11eg ganrif, yn dilyn y goncwest Eingl-Normanaidd o deyrnas Brycheiniog, roedd y rhan fwyaf o ardal y dirwedd hanesyddol yn rhan o heldir helaeth Fforest Fawr neu Fforest Fawr Brycheiniog a oedd yn eiddo i arglwyddiaeth mers Brycheiniog, ac a oedd o bosibl wedi meddiannu hawliau mwy hynafol a ddaliwyd yn gynharach gan dywysogion brodorol y deyrnas.

Diffiniwyd graddaur goedwig ganoloesol yn fras yn unig ac nid oedd map ohono hyd ddechraur 19eg ganrif. Yn ei hanfod, ardal o dir heb ei amgu oedd y goedwig, lle cedwid hawliaur helfa. Ymhen amser, nodwyd helfeysydd eraill, llai, yn ardal ehangach Fforest Fawr, fel Fforest Cadlan, ir gogledd o Fynydd-y-glog. Maen debygol, fodd bynnag, bod ffiniau Fforest Fawr wedi amrywio or cyfnodau cynnar, ac y byddai wedi lleihaun raddol wrth i lechfeddiannu cyfreithlon neu anghyfreithlon o dir, a oedd r potensial i fod yn dir ffermio gwell, feddiannur ymylon allanol.

Nid oes llawer o dystiolaeth ddogfennol or arglwyddiaeth yn rheoli ac yn gweinyddur goedwig, er ei bod yn debygol ei bod yn cael ei llywodraethu dan gyfraith fforest yn yr un modd helfeydd a choedwigoedd canoloesol eraill tebyg ym Mhrydain. Cyfraith oedd hon a oedd yn dwyn ynghyd hawliau, arferion a rheoliadau lleol a oedd yn rheoli gweithgareddaur rheiny a oedd yn byw yn y goedwig neu gerllaw, fel hawliau pori, hawliau i gasglu tanwydd, i dyllu am gerrig ac i losgi calchfaen. Awgrymwyd y gallai arglwyddi canoloesol Brycheiniog fod wedi defnyddio Castell Coch fel llety dros dro yn ystod cyrchoedd hela ir Fforest Fawr enfawr. Castell canoloesol o garreg yw hwn, yng ngodre deheuol Fforest Fawr, ychydig y tu allan i ardal y dirwedd hanesyddol ym mlaen dyffryn afon Mellte.

Roedd tuedd i arwyddocd coedwigoedd agored or math hwn ddirywio tua diwedd y Canol Oesoedd, oherwydd gost ac anawsterau cynnal stociau helfilod, a daeth parciau ceirw amgaeedig iw disodli. Daeth Fforest Fawr yn eiddo ir Goron ym 1521 ac felly y parhaodd hyd ddechraur 19eg ganrif, sef cyfnod pan sefydlwyd yr hawliau comin syn parhau hyd heddiw.

Diwedd y cyfnod l-ganoloesol ar cyfnod modern

Fel y nodwyd uchod, maen debygol bod llawer or ffin rhwng y rhostir heb ei gau ar tir ffermio wedii gau o amgylch ymylon y mynydd wedi dod yn weddol sefydledig erbyn dechraur cyfnod l-ganoloesol yn y Fforest Fawr drwyddi draw. Cynrychiolwyd hyn gan batrwm o gaeau afreolaidd, bach fel rheol, yn y dyffrynnoedd. Fodd bynnag, roedd cau ardaloedd sylweddol o borfeydd mynydd o amgylch ymylon y rhostir, a oedd yn parhau i gadw at hawliau tramwy a oedd eisoes yn bodoli, yn nodwedd neilltuol o ffermio l-ganoloesol. Maen debyg i hyn ddigwydd yn ystod y cyfnod rhwng yr 17eg ganrif a dechraur 19eg ganrif. Yn nodweddiadol, roedd yr amgaeadau mwy hyn rhwng 10 hectar ac 20 hectar ond ambell dro roeddent yn 70 i 80 hectar, a byddent yn cael eu cerfio or rhostir comin, yn aml gyda ffiniau uchaf a oedd yn nodweddiadol grwm. Mewn rhai rhannau o Gymru, gelwir porfeydd rhostiroedd amgaeedig sydd heb eu trin o amgylch ymylon y mynydd weithiau'n ffridd, er mewn rhannau o dde Cymru, ymddengys fod y term coedcae neu coetgae yn fwy cyffredin. Yn y cyd-destun hwn, maen debygol fod enw fferm Coed Cae Du gerllaw ymyl y rhostir ar ochr ogleddol Cwm Cadlan yn arwyddocaol.

Mae tystiolaeth o borfeydd rhostiroedd amgaeedig yn uchel ar ochr ddwyreiniol dyffryn Mellte ir gogledd-ddwyrain o fferm Goitre, ar Waun Cefnygarreg, ar ochr ogleddol fwy cysgodol dyffryn Hepste, o amgylch ymylon Cwm Cadlan ac ar ymylon deheuol Mynydd-y-glog. Nid oes sicrwydd ynghylch union ddyddiad rhai or ffiniau hyn, ond mae mapiau stad or 18fed ganrif yn dangos old banks ar ymyl y rhostir ger Pen-fathor yn nyffryn Mellte ac ym mhen dwyreiniol Cwm Cadlan, syn awgrymu bod rhai or ffiniau hyn yn deillio o leiaf or 17eg ganrif. Dengys y ffiniau diweddarach hyn, y mae eu hyd yn ymestyn hyd at ddegau o gilomedrau, amrywiaeth o ddulliau adeiladu, gan gynnwys cloddiau, cloddiau ag arwyneb, waliau o gerrig sychion syn sefyll, a waliau gyda ffosydd. Mewn rhai achosion, ceir tystiolaeth o ddilyniant adeiladu, gyda waliau cerrig sychion weithiaun amlwg yn gorwedd ar ben cloddiau cynharach o bridd. Maen debygol mai diben yr amgaeadau mynydd newydd hyn oedd sicrhau defnydd preifat or ardaloedd gwell o borfar rhostir, i atal stoc rhag crwydro ledled y mynydd, ac efallai hefyd i reoli bridio.

Maer symudiad cyffredinol tuag at ffermio defaid yng Nghymru tua diwedd y canol oesoedd ar cyfnod l-ganoloesol yn cael ei adlewyrchu i raddau yng nghofnod archaeolegol yr ardal. Yn anad dim, mae dyfodiad corlannau cerrig sychion wediu lleolin strategol, mewn mannau cyfleus i gasglur preiddiau syn cael eu symud i lawr or bryniau, yn dangos hyn. Oherwydd gofynion beunyddiol llai beichus trin defaid, daeth trawstrefa i ben, a gadawyd yr hafodydd, er y byddai bugeiliaid unigol weithiau angen cysgodfannau llai.

Mapiau stad, a welwyd gyntaf yn ail hanner y 18fed ganrif, a rhestrau a mapiau degwm y 1840au, syn darparur dystiolaeth gynhwysfawr gyntaf o ddefnydd tir ac anheddu yn ardal y dirwedd hanesyddol. Maent yn dangos mwyafrif y ffermydd ar bythynnod presennol ar ymyl ddwyreiniol dyffryn Mellte, dyffryn Hepste a Chwm Cadlan er, yn amlwg, mae rhai adeiladau wedi diflannu ers hynny. Erbyn canol y 19eg ganrif, dangosir mwyafrif y ffermydd fel deiliadaethau o rhwng 15 hectar a 60 hectar (40 erw i 140 erw), a thenantiaid oedd yn y mwyafrif or rhain. Roedd llawer ohonynt wedi dod i feddiant stadau fel Tredegar, Penmailard a Bodwigiad a ddechreuodd ddod yn amlwg yn yr ardal o tua diwedd yr 17eg ganrif ymlaen.

Rhy tystiolaeth enwau lleoedd o fapiau stad a mapiau degwm sawl awgrym ynghylch statws cymdeithasol ac annibyniaeth gynt rhai or ffermydd a oedd wedi tarddu, mae'n debyg, yn ystod y cyfnod canoloesol hwyr a dechraur cyfnod l-ganoloesol. Yn nyffryn Hepste, mae'r elfen 'mawr' yn Nhy-mawr a Hepste-fawr, a Neuadd yn rhan isaf y dyffryn, yn rhoi awgrym o'r tai hyn ac, o bosibl, uwch eu statws yn wreiddiol. Gwelwyd neuadd am y tro cyntaf yn y ffurf Tyr y noyadd ym 1618. Er hynny, mewn llawer achos, maen amlwg bod yr elfennau enwau lleoedd wediu defnyddio i wahaniaethu tai a allai fod ond ychydig yn fwy nar cyfartaledd. Mae defnyddior elfen neuadd efallain eironig yn achos Gelli-neuadd, sef pr o fythynnod gweithwyr or 19eg ganrif ar ochr y ffordd ar y ln ar hyd dyffryn Cadlan ir gogledd o Benderyn. Maer elfen tir mewn enwau lleoedd i'w gweld hefyd mewn cyfran sylweddol o enwau ffermydd eraill yn y dyffryn, gan gynnwys Tir mawr, Tir-dyweunydd, Tir-yr-onen a Thir-Shencyn-Llewelyn (a ailenwyd yn Llwyncelyn); cofnodir yr olaf or rhain am y tro cyntaf ym 1819. Fel rheol, maer ffermydd hyn, fel y tai yr awgrymwyd a oedd statws uwch yn wreiddiol, wediu gosod yn eu caeau eu hunain. Mewn cyferbyniad, maen bosibl bod nifer o fythynnod a thyddynnod yn cynrychioli llechfeddiannu diweddarach, ar hyd lonydd a thraciau. Gelwir enghreifftiau unigol yn nyffryn Hepste a dyffryn Cadlan, yn arwyddocaol, yn Heol-las, a dangosir eraill r elfen tyle (llwybr serth) yn yr enw Garw-dyle ar ymyl ddeheuol dyffryn Cadlan.

Rhy tystiolaeth enwau lleoedd ac enwau caeau, yn enwedig o arolwg y degwm, hefyd peth dystiolaeth ynghylch llystyfiant a defnydd tir blaenorol. I ryw raddau, maen debyg ir hyn sydd yno heddiw, ond mewn ffyrdd eraill, maen wahanol iawn. Yn l y disgwyl, mae enwau syn cyfeirio at goed iw gweld yn eithaf aml yn nyffrynnoedd cysgodol dyffryn Hepste a Chwm Cadlan, gydag enwau fel Llwyn-y-fedwen, Tir-yr-onen, Gelli-ffynnonau-isaf a Gelli-ffynnonau-uchaf a Beili-Helyg. Ychydig o awgrym o ddefnydd tir blaenorol a geir o dystiolaeth enwau lleoedd, er bod yr enw ardal Gweunydd (neu Gwaunydd) Hepste, sef yr ardal sydd wedii chau ar ymyl y rhostir ar ochr dde-orllewinol yr ardal, ar enw fferm Tir-dyweunydd ill dau yn cynnwys lluosog gwaun. Maer elfen gweirglodd ar enw cae, ar ffyrdd amrywiol oi sillafu, ac enwau fel Cae Clover, yn awgrymu glaswelltir o ansawdd gwell. Mae draeniad gwael yn cyfyngu ar ddefnydd tir rhywfaint o dir y dyffryn sydd wedii gau, a dengys yr elfen gwern hyn yn enwau ffermydd Gwern-pawl ac Wernlas ac enwr nant Gwern Nant-ddu. Hefyd ceir yr elfen garw yn yr enwau ffermydd Pant-garw a Garw-dyle (Garw-dylau gynt) a brwyn yn enwau rhai caeau. Er hynny, yn wahanol i heddiw, maen amlwg or arolwg degwm fod pwyslais mwy o lawer ar ffermio r yn y 19eg ganrif a, gellid tybio, mewn cyfnodau cynharach. Adlewyrchir hyn yn yr elfen haidd a welir yn achlysurol mewn enwau caeau fel Caer Haidd ar fferm Coed Cae Ddu.

Adlewyrchir yn gryf y pwyslais gynt ar economi r a bugeiliol gymysg yn yr adeiladau fferm sydd wedi goroesi, fel y nodir yn yr adran ddilynol ar adeiladau brodorol. Maen amlwg unwaith eto or adeiladau sydd wedi goroesi y gwnaed buddsoddiadau sylweddol mewn adeiladau fferm newydd ac mewn ffermdai newydd a ffermdai wediu hadnewyddu ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif. Maen bosibl bod stadau lleol a chyrff fel Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog a sefydlwyd ym 1755 wedi dylanwadu ar hyn. Maer cofnod archaeolegol hefyd yn adlewyrchu nifer o welliannau eraill mewn dulliau ffermio a oedd yn digwydd ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif. Mae clystyrau o gaeau ar ffurf fwy rheolaidd yn agos at y ffermydd yn Nhirmawr, Tir-dyweunydd, Llwyncelyn a Hepste-fawr yn nyffryn Hepste ac yn agos at y ffermydd yng Nglyn-perfedd, Garw-dyle, Gelli-dafolog, Wernlas a Nant-maden, gan gynnwys rhai ffiniau syth, yn awgrymu ad-drefnu ffiniau caeau ar raddfa fach yn ystod y 19eg ganrif yn l pob tebyg. Rhoddwyd cynnig ar wella draeniad caeau wediu cau mewn rhai ardaloedd gyda ffosydd agored a draeniad tanddaearol, a thrwy adeiladu grynnau amaethu (neu gribau amaethu i roi enw arall arnynt) a welir mewn rhai ardaloedd. Fel y nodir yn yr adran ar ddiwydiant isod, codwyd odynau calch mewn nifer o ardaloedd a fyddain cynhyrchu calch amaethyddol i wella ffrwythlondeb y pridd.

Gwerthodd y Goron rannau o Fforest Fawr ym 1819 oherwydd cost Rhyfeloedd Napoleon, gan greur amgaead unigol mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, ychydig oedd yr effaith uniongyrchol ar ardal y dirwedd hanesyddol gan mai rhan ganol y Fforest yn unig a werthwyd, yn dilyn gwrthwynebiad y cominwyr ac eraill. Cadwyd y tir heb ei gau yn ardal yr astudiaeth fel un o nifer o flociau sylweddol o dir comin.

Gwelodd diwedd y 19eg ganrif ar 20fed ganrif ostyngiad cyffredinol yn elw ffermio, a chyflwyniad mecaneiddio yn ogystal diwydiannu de Cymru. Fe dynnodd hyn bobl oddi wrth y tir, gan arwain at gyfuno ffermydd a gadael rhai ffermydd a bythynnod yn segur, sydd hefyd wedi gadael ei l ar y dirwedd. Yn nyffryn Hepste, er enghraifft, roedd ty rhwng Tirmawr a Thir-yr-onen, a thyddyn posibl ar ymyl y rhostir ir gorllewin o Lwyn-y-fedwen, wediu gadael neu roeddynt yn adfeilion erbyn y 1880au. Maen bosibl mair ysgubor arunig yn Heol-las ywr cyfan sydd ar l bellach o hen gasgliad o adeiladau fferm a adawyd yn y 19eg ganrif. Gadawyd ffermydd eraill, fel Blaen Hepste, am resymau tebyg yn y 1920au. Yng Nghwm Cadlan, roedd y ffermydd a bythynnod yng Ngwern-pawl a Blaen-cadlan-isaf eisoes yn adfeilion yn y 1880au, ac ymddengys fod y rheiny yng Nghaer Arglwydd, Gelli-ffynnonau-isaf a Blaen-cadlan-uchaf oll wediu gadael o ddechraur 20fed ganrif ymlaen.

Yn codi o gyflwr dirwasgedig amaethyddiaeth ar ddechraur 20fed ganrif, gwnaed cynigion i roi gwahanol fathau o welliannau amaethyddol ar waith yn ucheldiroedd Cymru. Y bwriad oedd cynyddu ffyniant amaethyddol ac atal y broses o ddiboblogi gwledig a oedd yn effeithio ar yr ardaloedd hyn. Fodd bynnag, ychydig o newidiadau a wnaed i ffermior ucheldir tan yr ail ryfel byd, pan ddywedodd Is-Gomisiwn Tir Amaethyddol Cymru fod yr ardaloedd hyn mewn advanced state of dereliction. Pan gyhoeddwyd y rhyfel, daeth holl amaeth Prydain dan reolaeth uniongyrchol Pwyllgorau Gwaith Sirol y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth (War Ag) a oedd yn gyfrifol am gynyddu cynhyrchiant amaethyddol. Ar sail tystiolaeth awyrluniau, ymddengys fod galwadau am amaethyddiaeth yng nghyfnod y rhyfel iw gweld yn yr ymdrechion sylweddol a wnaed i wella porfeydd mewn ardaloedd helaeth o rostiroedd yn ardal y dirwedd hanesyddol yn y cyfnod hwn. Gwelwyd systemau helaeth o gafnau draenio a duriwyd, maen debyg, pheiriant ym mlaen Afon y Waun, Nant Llywarch, Nant Iwrch a Nant yr Ychen, sef isafonydd afon Hepste yn y rhostir islaw Fan Fawr. Dengys awyrluniau modern batrymau o ffosydd draenio cyfochrog, hyd at 400 metr o hyd a thua 8 i 18 metr rhyngddynt, a duriwyd mewn ardal o bron iawn 200 hectar o dir dwrlawn ym mlaen y nentydd, ar uchder o tua 400 i 600 metr uwchben lefel y mr, r bwriad o ddraenio ardaloedd dwrlawn. Erbyn heddiw, mae mwyafrif y ffosydd draenio wedi siltio i raddau helaeth, ac maent wedi erydu i ffurfio cyrsiau mwy rheolaidd ir fath raddau nes eu bod yn aml yn edrych fel dyfrffosydd naturiol ar y ddaear. Mae awyrluniau'r RAF a dynnwyd ym 1945 a 1946, yn union ar l yr ail ryfel byd, yn eu dangos mewn cyflwr fel newydd ac yn amlwg roedd y gwaith newydd ei gwblhau. Fel arall, mewn cyferbyniad diwedd y 18fed ganrif ar 19eg ganrif, ychydig o fuddsoddi sylweddol a wnaed mewn ffermio sydd wedi gadael ei l ar y dirwedd ers tua dechraur 20fed ganrif, ar wahn i nifer o adeiladau amaethyddol ffrm o ddur. O ganlyniad i golli sgiliau angenrheidiol a natur weddol lafurddwys cynnal a chadw waliau caeau o gerrig sychion a phlygu gwrych yn y modd traddodiadol, dadfeilio mwyfwy wnaeth ffiniau hynafol a thraddodiadol y caeau, ac maen debygol y bu mwy a mwy o ddibynnu ar ffensys pyst a gwifrau o ddechraur 20fed ganrif.

Mae rhai newidiadau o ran defnydd tir oherwydd gostyngiad mewn elw yn ystod y cyfnod hwn hefyd yn amlwg, gan gynnwys dychwelyd rhai ardaloedd o borfa wediu gwella au cau yn borfa arw. Hefyd, o tua chanol yr 20fed ganrif, bur Comisiwn Coedwigaeth yn plannu coetir conwydd ar ardaloedd a fun gaeau gynt, yn bennaf ar ochr orllewinol yr ardal yng Ngweunydd Hepste ac ar ochr ddwyreiniol yr ardal ym Mhenmailard a Chefn-y-maes. Maer olaf or rhain, syn tremio dros ddyffryn Taf Fawr, yn rhan o stad fawr o fwy na 2,300 erw o dir yn rhan uchaf dyffryn Taf Fawr, a brynwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ym 1946. Maer Comisiwn Coedwigaeth wedi creu nifer o fannau picnic a llwybrau trwyr coetir mewn blynyddoedd diweddar, gan hybu gwerth amwynder yr ardaloedd coediog hyn. Ceir hefyd Llwybr Taf, sef llwybr troed a llwybr beicio pellter hir rhwng Aberhonddu a Chaerdydd.

Mae creu Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym 1957, ynghyd mentrau cadwraeth a hamdden diweddarach o tuar 1990au hyd heddiw, yn dechrau cael peth effaith weladwy ar y dirwedd hanesyddol. Ymhlith mesurau cadwraeth bu creu nifer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), gan gynnwys gwarchodfa natur yn canolbwyntio ar ardal o ddolydd gwlyb yng Nghwm Cadlan, sydd hefyd wedii dynodi yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop, y bu Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) yn paratoir ffordd ar ei gyfer, a chreu nifer o ffermydd sydd wedi ymuno Thir Gofal, sef cynllun amaeth-amgylchedd y Cynulliad Cenedlaethol.

(yn l ir brig)