CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glg

Nodweddur Dirwedd Hannesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-Glg


TRACIAU, FFYRDD, RHEILFFYRDD A PHIBELLI

Mae tirweddau a gaewyd ers amser maith yn ardaloedd nodwedd dyffryn Hepste a Chwm Cadlan yn diogelu patrwm o lonydd yn rhedeg ar hyd y dyffrynnoedd, gan arwain at ffermydd a bythynnod. O gyfnodau cynnar, roeddent yn darparu modd o symud buchesi o anifeiliaid trwyr caeau wediu cau ir porfeydd ucheldirol o amgylch, ac yn l. Bellach, mae metlin wedii osod ar rai or lonydd, ond mae eraill yn parhau fel lonydd glas heb fetlin, weithiau gyda wal o boptu i atal stoc rhag crwydro. Weithiau byddai lonydd glas yn cysylltu ffermydd ar ddwy ochr y dyffryn, gyda rhydau a sarnaun croesi nentydd. Mae ambell enghraifft or enw lle Heol-las yn awgrymu llwybrau cynharach or fath.

Mae nifer or llwybrau hynafol hyn yn parhau ar draws y rhostir i gysylltu lleoedd yn nyffrynnoedd cyfagos Taf Fawr ir dwyrain ac afon Mellte ir gorllewin. Maer elfen cwrier yn enw Nant y Cwrier, sef y nant syn llifo or gogledd i ben dyffryn Hepste, ac sydd fwy neu lai yn gyfochrog am ran oi chwrs r A4059, yn awgrymu hynt llwybr troed cynharach ar draws y mynyddoedd i gyfeiriad Aberhonddu. Mae llawer or llwybrau cynnar hyn, rhai ohonynt yn l pob tebyg yn tarddu or canol oesoedd neun gynharach, yn parhau fel rhan o rwydwaith o lwybrau troed cyhoeddus a llwybrau caniataol y mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bellach yn eu rheoli.

Mae traciau eraill, byrrach yn nhirweddau amgaeedig dyffryn Hepste, Cwm Cadlan ac ymyl ddwyreiniol dyffryn Mellte yn arwain at chwareli ac odynau calch syn dyddion bennaf o ddiwedd y 18fed ganrif a dechraur 19eg ganrif. Maer Comisiwn Coedwigaeth hefyd wedi creu rhwydwaith o lwybrau amwynder mewn blynyddoedd diweddar yn ardaloedd nodwedd coediog Coed Penmailard a Chefn y maes.

Dwy ffordd fodern yn unig syn croesi ardal y dirwedd hanesyddol. Yr A4059, rhwng Hirwaun ac Aberhonddu ywr gyntaf. Er iddi gael ei huwchraddion fwy diweddar, ymddengys iddi gael ei hadeiladu or newydd fel ffordd dyrpeg fwy neu lai ar ei hyd yn ardal y dirwedd hanesyddol ar ddechraur 19eg ganrif, gan adael y llwybr mwy hynafol ar hyd dyffryn Hepste am y tir uwch ir de. Or herwydd, rhaid oedd creu mynedfeydd o gyfeiriad arall i nifer or ffermydd ar ochr ddeheuol y dyffryn, sef Llwyncelyn, Neuadd a Thirmawr yn benodol, i allu mynd ohonynt yn uniongyrchol ir ffordd dyrpeg. Cysylltir y ffordd dyrpeg nifer o gerrig milltir sydd wedi goroesi or cyfnod, ynghyd chwareli bach ar ochr y ffordd, sef ffynhonnell defnyddiau i adeiladur ffordd yn l pob tebyg. Yr ail ffordd ywr ffordd fodern annosbarthedig o flaen Cwm Cadlan i Gronfa Ddwr Llwyn?on yn nyffryn Taf Fawr. Maen debyg y rhoddwyd metlin arni am y tro cyntaf tua diwedd y 19eg ganrif neu ddechraur 20fed ganrif, ond roedd yn dilyn hynt llwybr mwy hynafol yn cysylltu Cwm Cadlan a dyffryn Taf Fawr.

Mae cwrs hen reilffordd yn ffurfio nodwedd arbennig or dirwedd ar hyd rhan o ffin orllewinol yr ardal. Roedd hon yn rhan or rheilffordd a redai tuar de i Benderyn, a adeiladwyd i gludo defnyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu Cronfa Ddwr Ystradfellte i gyflenwi dwr i Gastell-nedd, rhwng 1907 a 1914.

Rhed Llwybr Taf, sef llwybr troed a llwybr beicio pellter hir o Aberhonddu i Gaerdydd, drwy goetir tuag at gornel de-ddwyrain yr ardal nodwedd.

Mae llwybr pibell nwy fodern yn croesi rhan ddeheuol yr ardal am tua 2 cilometr. Gellir gweld ei ffordd?fraint 20 metr o led hyd y man lle maen ymuno gwaith nwy Bryn Du, ychydig y tu allan ir ardal nodwedd.

(yn l ir brig)