CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog: Ffrithuchaf
Cymuned Llangernyw, Conwy
(HLCA 1100)


CPAT PHOTO 01c215

Rhostir heb ei amgŠu ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog, yn tremio dros Wytherin a dyffryn serth Afon Cledwen.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ddwy garnedd o'r Oes Efydd, ar Garnedd Cronwy, ar esgair uwchben dyffryn Afon Cledwen, yn cynrychioli gweithgaredd cynnar. Roedd yr ardal o fewn plwyf degwm 19eg ganrif, sefGwytherin. Ychydig iawn o waith maes archeolegol a wnaed o fewn yr ardal dros y blynyddoedd diweddar, ac ychydig yn unig o safleoedd archeolegol a gofnodwyd yn yr ardal.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Fymryn dros 3km≤ o rostir grug tonnog ar ymyl orllewinol Mynydd Hiraethog, rhwng 360 a 400 o fetrau dros y Datwm Ordnans yw'r ardal nodwedd. Mae'n cynnwys llethrau deheuol Moel Maelogen a Ffriddog ac mae'n wynebu'r gogledd a'r dwyrain yn bennaf gan dremio dros ddyffryn Afon Cledwen. Mae nentydd yn llifo tua'r dwyrain gan fwydo Afon Cledwen, llednant Afon Elwy.

Ni chofnodir unrhyw dystiolaeth o anheddu yn yr ardal. Mae'r ffin bresennol rhwng y rhostir a'r tir isel caeŽdig yn ei hanfod yr un ‚'r ffin sydd i'w gweld ar fap degwm Gwytherin ym 1842, yn y lleoedd lle ceir clawdd pridd a ffos fawr a oedd yn cynrychioli ymgais ar hap ffermydd yr iseldir yn nyffryn Afon Cledwen i gau'r tir i mewn, o'r cyfnod canoloesol ymlaen, mae'n debyg. Mewn ambell le, rhoddwyd y gorau i'r ffiniau cynharach hyn ac maent i'w gweld ar eu pennau eu hunain ar y rhostir, a ffensys pyst-a-gwifrau yn eu disodli, weithiau yn is i lawr y bryn. Gellir croesi'r ardal ar y llwybr mynydd troellog sy'n cysylltu Nebo a Gwytherin. Llwybr yw hwn a allai darddu o'r canol oesoedd, ond cofnodir ef am y tro cyntaf, ynghyd ‚ lonydd a llwybrau eraill ar fap degwm Llanrwst, gan wneud y borfa uwchdirol yn hygyrch o'r ffermydd iseldirol. Mae cyfres o gerrig nodi ‚ rhyw 400m rhyngddynt ar hyd ffin ddeheuol yr ardal nodwedd, a godwyd tua diwedd y 18fed neu ddechrau'r 19eg ganrif, yn nodi ffin rhwng plwyfi degwm cyfagos yn y 19eg, sef Gwytherin a Thiryrabad-isaf (Pentrefoelas).

Ffynonellau


Cofnod o Safleoedd a Henebion,
map degwm a dosraniadau Gwytherin

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.