CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddur Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen: Maesyrychen
Cymuned Llantysilio, Sir Ddinbych
(HLCA 1145)


CPAT PHOTO 1766-91

Rhostir agored gydag olion helaeth o chwareli llechi, pentyrrau gwastraff, tramffyrdd ac incleiniau or 19eg ganrif yn bennaf.

Cefndir hanesyddol

Yn hynafol, roedd yr ardal yn rhan o Bowys yn y canol oesoedd cynnar, ac wedi hynny yn rhan o deyrnas ganoloesol gynnar Powys Fadog. Ar l ir Brenin Edward orchfygu Cymru tua diwedd y 13eg ganrif, roedd yn rhan o arglwyddiaeth mers Brwmffild ac Il. Pan gyflwynwyd y Ddeddf Uno ym 1536 roedd yn rhan o sir a gafodd ei chreu or newydd, sef Sir Ddinbych.

Maen ymddangos bod chwarela llechi wedi cychwyn mewn nifer o chwareli ar y tir oedd dan berchnogaeth Stad Wynnstay o fewn yr ardal nodwedd yn y 1690au. Un or cofnodion ysgrifenedig cyntaf o hyn yw cofnod yr hynafiaethydd Edward Lhwyd syn sn am glywed swn ffrwydro o Chwarel Moel y Faen ym 1696. Maen ymddangos bod chwarela cynnar hefyd wedi mynd rhagddo yn yr ardal gyfagos, yn is i lawr y bryn ar y llethrau uwchlaw Pentredwr (yn ardal nodwedd Pant-y-groes). Ymhlith y cynhyrchion or amrywiol chwareli oedd llechi toi, a llechfeini wediu gorffen yn gain ar gyfer amryw o ddibenion gan gynnwys arwynebau gweithio, aelwydydd, cerrig beddau a byrddau snwcer. Byddair nwyddau hyn yn cael eu gorffen ar y safle y dyddiau hynny au cludo yn gyntaf ar drac, trwy Fwlch yr Oernant , ac o 1852 ar system tramffordd a oedd yn cysylltu nifer or chwareli. Byddair dramffordd yn cludo deunydd ir felin llechi gynt a glanfeydd y gamlas, ac yn ddiweddarach i gilffyrdd y rheilffordd ym Mhentrefelin, sef cyfanswm pellter o tua 7.5 cilometr ir de, gan ddefnyddio wagenni ceffyl a chyfres o incleiniau. Roedd nwyddaun cael eu cynhyrchu ar raddfa fawr rhwng canol y 19eg ganrif ar 1940au. Byddair gweithlun byw yn bennaf ar y ffermydd ac yn y pentrefi islaw pen y bryn, ym Mhentredwr yn nyffryn Eglwyseg ir dwyrain, yn ardal Rhewl a Llandynnan yn nyffryn Dyfrdwy ir de-orllewin, ac yn nyffryn Alun ir gogledd lle adeiladwyd cyfadail o fythynnod chwarelwyr yn Nhai-newyddion, ar ddechrau ail hanner y 19eg ganrif maen debyg.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Rhostir grug heb ei gau yn bennaf, ar uchder o rhwng oddeutu 200 a 540 metr uwchlaw lefel y mr, gyda daeareg waelodol gadarn o sialau Silwraidd. Defnyddir y tir yn bennaf heddiw fel porfa uwchdirol heb ei wella, ac ar gyfer hamdden, er bod rhywfaint o gloddio llechi ar raddfa fach yn parhau i fynd rhagddo yn chwarel y Berwyn.

Mae chwarelu am lechi yn chwareli Craig y Glan, Moel-y-faen, Oernant, a Chlogau (Berwyn) yn y gorffennol wedi gadael tirwedd lle gwelir llawer iawn o bentyrrau eang o wastraff chwarelu, ynghyd chloddiadau dwfn ac eang, weithiau wediu llenwi dwr a cheuffyrdd. Mae strwythurau ategol yn cynnwys olion peiriandai ac adeiladau melin eraill, tramffyrdd weithiau gydau trawstiau o lechi o hyd, ac incleiniau yn chwarel Clogau ac ychydig uwchlaw Maesyrychen. Mae nifer o draciau a llwybrau troed croesymgroes ar draws y bryn y byddai chwarelwyr yn eu defnyddio ar eu siwrneion bob dydd rhwng y chwareli.

Mae ffordd Bwlch yr Oernant yn diffinion rhannol ffin ddwyreiniol yr ardal nodwedd. Ffordd dyrpeg oedd hon (sydd wedii gwella ers hynny) a adeiladwyd ym 1811 i ddisodlir hen ffordd dyrpeg dros y bryniau a redai ar hyd ddyffryn is Eglwyseg trwy Bentredwr. Mae caer danddaearol goncrid yr Ail Ryfel Byd syn dyddio o tua 1940 yn tremio dros y ffordd fodern.

Oherwydd pwysau hamdden dwys o fewn yr ardal, gan gynnwys sgrialu ar feiciau modur, yn enwedig or 1980au ymlaen, mae problemau erydu syn effeithio ar y llystyfiant, priddoedd ac olion mwyngloddio.

Ffynonellau

Cofnod CPAT or Amgylchedd Hanesyddol; Crane 2000; Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych 2003b; Edwards 1985; Lhwyd 190911; Llandegla 2003; Martin 1999; Richards 1991; Richards 1995; Silvester a Brassil 1991

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.