CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen: Dinas Brân
Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych
(HLCA 1150)


CPAT PHOTO 1766-303

Bryn serth, conigol gydag adfeilion llwm, deniadol castell canoloesol o fewn amddiffynfeydd bryngaer gynhanesyddol sy’n tremio dros Langollen ac sydd i’w gweld yn amlwg o bobman yn Nyffryn Llangollen.

Cefndir hanesyddol

Mae dwy fwyell socedog o’r Oes Efydd hwyr yn cynrychioli’r dystiolaeth gynharaf o weithgaredd. Daethpwyd o hyd iddynt o fewn sawl can medr o gopa’r bryn, ac mae’n bosibl eu bod yn gysylltiedig â chlirio coetiroedd yn gynnar neu ag amddiffyn pen y bryn. Mae copa’r bryn wedi’i goroni gan glawdd sengl â ffos bryngaer o tua ddiwedd yr Oes Efydd neu’r Oes Haearn sy’n cwmpasu ardal dros 2 hectar, mae’n debyg gydag un fynedfa ar y de-orllewin. O’i faint a’i osodiad, mae’n debygol ei fod yn cynrychioli canolfan lwythol leol bwysig yn y cyfnod cynhanesyddol diweddarach. Ychydig mwy sy’n hysbys am ei hanes cyn tua diwedd y 13eg ganrif, er fod Dinas Brân, heb amheuaeth, wedi parhau i ffurfio tirnod pwysig. Adeiladwyd castell canoloesol Cymreig o fewn y fryngaer gynharaf yn ystod y 1260au, gan Gruffudd ap Madog, arglwydd Powys Fadog, mae’n debyg yn ystod cyfnod o gynghrair â thywysog Cymru, Llywelyn ap Gruffudd — mae cynllun y castell yn debyg iawn i gastell Llywelyn o’r un cyfnod yn Nolforwyn yn nyffryn Hafren rhwng Y Trallwng a’r Drenewydd. Mae lleoliad ‘the isolated and almost impregnable fortress of Dinas Brân’ yn strategol bwysig, ac weithiau fe’i hystyrir ‘next to the Breiddin, the strongest natural position in all the March’. Mae ei leoliad yn golygu ei fod i’w weld yn yr olygfa o bob cyfeiriad ac, heb amheuaeth, fe’i dewiswyd hefyd am ei arwyddocâd symbolaidd. Fodd bynnag, am gyfnod cymharol fyr y bu unrhyw un yn meddiannu’r castell. Llosgodd ei amddiffynwyr Cymreig ef ym 1277 a’i adael i’r Saeson, ac er i fyddinoedd y Saeson ei feddiannu am gyfnod byr rhoddwyd y gorau iddo yn fuan ar ôl i’r Brenin Edward orchfygu Cymru ym 1282, ac ni fu unrhyw arwyddocâd milwrol iddo ers hynny. Ar un adeg roedd hwn yn ganolbwynt ffurfiol i Bowys Fadog, ac roedd yn symbol o’i undod, ond roedd bellach i ddod yn segur, gan sefyll ar y ffin rhwng dwy arglwyddiaeth ar wahân Swydd y Waun, â’i chastell yn Y Waun, a Brwmffild ac Iâl, â’i chastell yn Holt.

Gwnaeth yr hynafiaethydd John Leland ymweld ag ef tua 1536 ac yn ôl ei ddisgrifiad roedd y castell ‘Now all in ruin’, sef barn a fynegwyd hefyd ar ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg ganrif mewn englyn gan y bardd Cymraeg Roger Cyffin. Ers i ddiddordebau hynafiaethol a diddordeb mewn mynd i weld golygfeydd ffynnu o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen, mae’r bryn wedi dod yn ddelw ddarluniaidd bwysig yn nyffryn Dyfrdwy. Meginwyd y diddordebau hyn gan gysylltiadau â’r prif gymeriad, sef yr herwr, yn y stori ramantus hanesyddol Eingl-Normanaidd Fouke le fitz Warin a oedd yn cynnwys gweithgareddau o fewn ‘Chastiel Bran’, a hefyd gan y gân serch o’r 14eg ganrif gan Hywel ab Einion Llygliw i’r dywysoges Myfanwy a oedd yn byw yn y castell. Ailadroddwyd yr olaf o’r rhain gan y bardd Fictoraidd John Ceiriog Hughes yn y gân serch Myfanwy Fychan a enillodd y Goron Arian yn Eisteddfod Llangollen ym 1858. Daeth hon yn fodel ar gyfer caneuon serch Cymraeg yn ystod rhan olaf y 19eg ganrif. Mae’r lleoliad dramatig wedi parhau i fod yn ysbrydoliaeth i ysgrifenwyr diweddarach, gyda’r castell yn nodwedd o ran gynharaf nofel hanesyddol John Cowper Powys, sef Owen Glendower, a gyhoeddwyd ym 1940. Erbyn yr 1820au sicrhawyd bod ystafell ar gael o fewn yr adfeilion ar gyfer ymwelwyr, ac erbyn yr 1880au roedd bwthyn yn darparu lluniaeth. Roedd camera obscura, mewn strwythur wythonglog wedi’i orchuddio â metel, yn darparu panoramas o’r cefn gwlad o amgylch, a pharhawyd i ddefnyddio hwn hyd yr Ail Ryfel Byd. Nid yw’r mentrau masnachol yn bodoli mwyach, ac ers i Gyngor Sir Dinbych wneud gwaith atgyweirio ar y castell yn ddiweddar mae wedi dychwelyd i’r cyflwr arunig, agored i’r gwynt y gwelodd Leland ef ynddo o bosibl yn gynt yn yr 16eg ganrif.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Bryn conigol ag ochrau serth sy’n cynnwys siâl a lleidfaen Silwraidd, rhwng uchder o oddeutu 160-310 metr uwchlaw lefel y môr. Mae’r bryn wedi’i rannu yn nifer fach o leiniau mawr o dir, gyda choetir llydanddeiliog yn ei lawn dwf ar y llethrau i’r dwyrain, y de a’r gorllewin, a chyda glaswelltir a rhedyn ar y copa ac ar y llethrau i’r gogledd, gyda rhai ardaloedd bychain o sgri.

Mae llwybrau ag arwyddbyst o’r de-orllewin a’r gogledd-ddwyrain yn arwain trwy amddiffynfeydd pridd a cherrig nodedig y fryngaer i gopa’r bryn. Yma, mae’r castell Cymreig o’r 13eg ganrif yn dra amlwg gan goroni’r bryn, wedi’i adeiladu o sialau lleol gyda rhai addurniadau tywodfaen sydd wedi goroesi a gludwyd yma o bellach i ffwrdd.

Mae lleoliad y fryngaer a’r castell yn y dirwedd wedi ffurfio delwedd ddarluniadwy bwysig yn Nyffryn Llangollen ers y 18fed ganrif, ac mae wedi dylanwadu ar safle, gorweddiad ac agwedd nifer o dai bonedd yn y dyffryn, gan gynnwys Plas Newydd, Dinbren Hall, a Ty’n-dwr Hall.

Ffynonellau

Amgueddfa Llangollen 2003; Burnham 1995; Cofnod CPAT o’r Amgylchedd Hanesyddol; Davies 1929; Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych 2003a; Fisher 1917; Hathaway et al. 1975; Hewitt 1977; Kemp 1935; King 1974; Musson 1994; Pennant 1773; Smith 1998; Stephens 1998; Thomas 1908-13

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.