CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Stimmy Heath
Cymunedau Bronington a Hanmer, Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1128)


CPAT PHOTO 1328-02 Ardal wastad lle cafodd y tir ei gau yn hwyr a phlanhigfeydd conwydd o amgylch ymylon Fenn's Moss.

Cefndir hanesyddol

Nid oes llawer o dystiolaeth i'w gweld o anheddu a defnydd tir cynnar yn yr ardal. Mae'r cofnod cyntaf o'r tir fferm a'r blanhigfa a elwir yn Fenn's Wood ar ymyl ddwyreiniol yr ardal yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif, sef Boscu del Fennes. Mae'n debygol bod hyn yn adeg pan oedd ardaloedd mwy helaeth o goetiroedd llydan-ddeiliog yn dal i fodoli yn yr ardaloedd o amgylch y llaid. Nid yw llawer o dystiolaeth ddogfennol wedi goroesi mewn perthynas 'r coetiroedd hyn yn ystod y Canol Oesoedd, ond o amgylch ymylon Whixall Moss, dros y ffin yn Lloegr, mae'n amlwg bod coetiroedd wedi cael eu clirio yn ystod y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif. Roedd y coetiroedd yno'n destun hawliau comin housebote (yr hawl i gymryd pren i drwsio neu adeiladu tai a gwrychoedd a ffensys), haybote a pannage (yr hawl i foch gymryd ffrwythau'r coed derw yn ystod y tymor priodol). Yn ystod y 18fed ganrif, daeth cyfres o ddyfarniadau cau tir i ddileu'r hawliau comin dros y corsydd a'r ardaloedd cyfagos, pan roddwyd hawliau i'r teulu Hanmer a nifer o unigolion. Mae enwau lleoedd fel The Conery a Conery Farm Lane yn awgrymu bod ffermio cwningod yma, yn y cyfnod l-ganoloesol yn l pob tebyg.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Tir cymharol wastad o amgylch ymylon Fenn's Moss, yn gyffredinol rhwng 80 a 90 metr uwchben y Datwm Ordnans, ac mae caeau bach a mawr, ag ymylon syth, i'w gweld yn helaeth iawn yn nhirwedd y caeau. Ceir ardaloedd o blanhigfeydd conwydd fel Fenn's Wood a Bronington Wood sy'n dyddio o gyfnod ar l y rhyfel yn bennaf. Mae'r patrwm caeau gwahanredol yn yr ardal nodwedd hon wedi datblygu o batrwm y rhandiroedd yn sgl cau tir yn y 18fed ganrif. Oherwydd draenio a gwella tir ers y cyfnod hwnnw mae rhai ardaloedd wedi'u hadennill o'r gors. Sefydlwyd nifer o blanhigfeydd a gerddi marchnad ar briddoedd tywodlyd ysgafn yr ardal. Ffensys pyst a gwifren a gwrychoedd un rhywogaeth sy'n nodi ffiniau caeau yn bennaf.

Mae tai l-ganoloesol gwasgaredig, a thai diweddarach, yn nodweddiadol o aneddiadau'r ardal. Bu ymelwa ar ddyddodion rhewlifol tywod a chlai ar raddfa gymharol fach yn ystod y cyfnod modern, ac mae nifer o byllau tywod segur yn rhan ddwyreiniol yr ardal yn cynrychioli hyn, fel y mae'r hen byllau clai a gwaith brics ar Tilstock Lane ger Brickwalls.

Ffynonellau

Berry & Gale 1996c
Lee 1879
Hubbard 1986
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.