CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Marrington Dingle
Churchstoke, Powys and Chirbury, Shropshire
(HLCA 1067)


CPAT PHOTO 00-C-056

Ceunant rhewlifol hwyr a chul, gyda choetir a reolir ar lethrau serth ar bob ochr, melinau dwr a chloddweithiau amddiffynnol.

Cefndir hanesyddol

Mae pen gogleddol yr ardal yn gorwedd i raddau helaeth o fewn trefgordd Marrington ym mhlwyf Chirbury, Sir Amwythig, ac mae'r pen deheuol o fewn plwyf yr Ystog, Powys. Mae'r cyfeiriad hanesyddol cynharaf yn LLyfr Domesday yn 1086 sydd yn crybwyll coetir ar gyfer pesgi 15 o foch ym Marrington, a oedd o bosibl o fewn y ceunant. Er ei fod yn gorwedd rhwng 3-4km i'r dwyrain o Glawdd Offa mae'r ceunant yn nodwedd dopograffig amlwg ar ymylon dwyreiniol Dyffryn Trefaldwyn ac mae'n debyg iddo fod o bwys strategol yn y cyfnodau cynnar. Mae'r enw lle, Marrington, a roddir fel Meritune yn LLyfr Domesday, yn dod o elfennau Hen Saesneg gemaere a tun, sef anheddiad ar y ffin.

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Ceunant cul ag ochrau serth, hyd at tua 60m mewn dyfnder, gyda'r Gamlad yn ei waelod, yn rhedeg o'r gogledd i'r de am tua 6km o ychydig i'r gogledd o'r Ystog i'r gogledd-ddwyrain o Chirbury, rhwng uchter o tua 95-160m uwch y mr. Mae'n ymddangos bod y ceunant wedi deillio o darfu lleol i batrymautraenio yn ystod y cyfnod rhewlifol hwyr, a achoswyd o bosibl drwy ddal dwr mewn llyn yn rhannau uchaf dyffryn Camlad yn dianc tua'r gogledd i gyfeiriad dyffryn Marton, lle mae Rea Brook yn awr. Mae'r ddaeareg solet yn cynnwys sialiau Ordofigaidd gydag ymyriadau folcanaidd cul. Ceir nifer o fannau lle mae coetir collddail hanner naturiol a hen yn Spy Wood, gyda choetir rheoledig collddail a phlanigfeydd gan gynnwys derw, ynn, rhywfaint o gyll a ffawydd, a phlanigfeydd conifferaidd ar y llethrau serthach o bobtu'r ceunant,a phlanigfeydd poplys bychan ar y darnau gwastad a chul o alwfiwm a gro ar waelod y ceunant. Mae'n bosibl bod dyddodion o bwys palaeoamgylcheddol ar hyd gwaelod y ceunant.

Ar gyfer coetir a chwaraeon maes y defnyddir y tir yn bennaf heddiw, ond ae'r ardal yn cynnwys nifer o gaeau bychan ar gyfer pori a gymerwyd o'r coetir. Cyfyngir anheddiad yn y ceunant yn bennaf i'r adeiladau ycyfeirir atynt isod sy'n gysylltiedig melin o'r 18fed neu'r 19eg ganrif, a nifer o fythynnod bach, gan gynnwys adeiladau bach o'r 17eg ganrif hwyr neu ddechrau'r 18fed ganrif yn Hockleton ac yn ymyl Whittery Bridge, gyda pheth gwaith adeiladu mewn briciau. Codwyd y ffermdy cerrig o ddiwedd y 18fed ganrif yn Middle Alport a'r ty briciau o ddechrau'r 19eg ganrif yn Upper Alport fel rhan o Ystad Marrington (gweler ardal cymeriad Chirbury ). Ty ffrm bren o'r 17eg ganrif oedd ffermdy Calcot, i'r gogledd, yn wreiddiol, ac ailfodwelwyd ei du blaen mewn briciau yn y 19eg ganrif.

Ceir llwybrau troed a llwybrau llydan ar hyd rhanau o waelod y ceunant, gyda nifer o bontydd troed modern ar draws Camlad. Ychydig o ffyrdd sydd yn croesi oherwydd bod ochrau'r ceunant yn serth ond mae dwy bont garreg drawiadol bwa o'r 19eg ganrif, sef Whittery Bridge, ar y ffordd gul rhwng Chirbury a Priest Weston, a Hockleton Bridge sy'n dyddio o 1835.

Cynrychiolir diwydiant cloddio gan nifer o hen chwareli cerrig o bobtu'r ceunant.Dengys nifer o felinau grawn a phandai ger Hockleton, Heighley, Whittery Bridge a Marrington Hall. Bellach trowyd nifer o'r adeiladau hyn yn dai. Gwelir olion ffosydd a choredau mewn rhai achosion. Mae'n bosibl bod rhai o'r melinau hyn, a ddefnyddid tan y 19eg ganrif, a'u gwreiddiau yn y canoloesoedd.

Ceir caeadleoedd amddiffynnol sy'n dyddio mae'n debyg o'r Oes Haearn o bobtu'r ceunant yn Caerbre ger Kingswood ac yn ymyl fferm Calcot, a defnyddiwyd yr amddiffyniad naturiol a gynigid gan y ceunant, fel y mwnt a beili ar lannau gorllewinol y Gamlad yn Hockleton, a godwyd yn y 11eg/12fed ganrif mae'n debyg.

Ffynonellau cyhoeddedig

Blackwall 1985
Earp & Haines 1971
Ekwall 1960
King & Spurgeon 1965
Leach 1891
Scard 1990
Sothern & Drewett 1991
Thorn & Thorn 1986
Toghill 1990

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.