CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Hyssington
Yr Ystog, Powys a More, Sir Amwythig
(HLCA 1073)


CPAT PHOTO 00-C-037

Tir bryniog, tonnog isel, anheddiad cnewyllol canoloesol cynnar ga chanoloesol gydag eglwys a chastell pridd, mewn tirwedd lle mae ffermydd canoloeol gwasgaredig.

Cefndir hanesyddol

Y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch dynol yw'r ffatri fwyeill bwysig o'r Oes Efydd a gynhyrchai fath trawiadol o fwyell-forthwyl o'r picrit sydd i'w weld mewn brigiadau ar ochr y bryn i'r gogledd o Gwm-mawr. Dangosir anheddu cynhanesyddol diweddarach gan gaeadle olion cnydau tua 70m ar draws i'r gogledd-orllewin o Bagbury.

At ddiwedd y 12fed ganrif, sefydlwyd cymuned fechan o fynachod Awgwstaidd yn Snead ym mharthau uchaf y Gamlad, a chafodd y gymuned yr hawl i ???assart yn eang yn y coedwigoedd ac ar y rhosydd o gwmpas Snead, sy'n awgrymu bod darnau helaeth o goetir naturiol yn yr ardal o hyd yr aeg honno. Yn ystod yr 1220au dywedir bod coedwig Sneth yn ymestyn o'r ffodd fawr yn Snead at y ffordd rhang Baggebiri (Bagbury) a Husington (Hyssington). Erbyn 1194 roedd y gymuned wedi symud i Chirbury yr oedd ei blwyf eang bryd hynny'n cynnwys capel dibynnol, ymhlith eraill, yn Hyssington a Snead, a meddiannodd y priordy yn Chirbury y capel yn Hyssington yn 1316. Mae'n debyg bod y coetir yn dal i gael ei glirio yn ystod y 13eg ganrif, pan baratowyd coed yng nghoedwig Snead ar gyfer castell Trefaldwyn. Weithiau cysylltwyd anhediad Domesday yn Stantune Hyssington, ond nid oes tystiolaeth bendant. Mae'r enw Hyssington, gyda'r terfyniad ingtun, a gofnodwyd am y tro cyntaf yn gynnar yn y 13eg ganrif ar y ffurf Husinton, yn awgrymu mai anheddiad Seisnig ydoedd i ddechrau. Daw Snead hefyd o'r Hen Saesneg, yn golygu 'coedwig ddidarffordd' neu 'llannerch'. Mae'n debyg bod y castell mwnt a beili ar Castle Hill, Hyssington wedi ei sylfaenu yn ystod y 12fed ganrif i'r 13eg ganrif gynnar, ac mae rhywfaint o ansicrwydd ai'r cstell yn Sned a gofnodwyd yn ystod yr 1230au oedd y castell hwn neu Simon's Castle, ger Yr Ystog. Mae Bagbury, ar ymyl dwyreiniol yr ardal cymeriad, yn anheddiad cynnar arall,a gofnodwyd gyntaf fel Baggebury yn 1291, ac mae'n debyg bod y 'bury' neu burh yn cyfeirio at y fryngaer a elwir y Roveries, ychydig i'r dwyrain. Crybwyllir y drefgordd a'r anheddiad yn Hurdley, ychydig dan Todleth Hill ar ochr orllewinol yr ardal, mewn dogfennau o'r 1330au, ac fely mae'n debyg ei fod yn cynrychioli lledaeniad y ffermydd i ymylon yr ucheldir yn ystod y canol oesoedd, ac mae'n debyg mai ystyr yr enw yw 'llannerch y bugail'.

Erbyn y 19eg ganrif, roedd rhan ddwyreiniol yr ardal yn nhrefgordd Hurdley ym mhlwyf Yr Ystog, roedd y rhan ddwyreiniol ym mhlwyf Hyssington, a'r gornel dde-ddwyreiniol ym mhlwyf Snead. Crewyd y ddau olaf tua chanol y 16eg ganrif, pan gaewyd priordy Chirbury.

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Mae topograffeg yr ardal cymeriad yn cynnwys tir tonnog ar lethrau deheuol Corndon Hill, sy'n wynebu'r de'n bennaf, rhwng uchter o 150-370m uwchben lefel y mr. Mae'r ddaeareg solet oddi tani'r cynnwys nifer o wahanol frigiadau o graid igneaidd a elwir picrit yn ardal Cwm-mawr, sy'n brigo mewn nifer o leoedd, ac sydd wedi ymwthio i'r sialiau Ordofigaidd sydd i'w gweld yn y ran fwyaf o weddill yr ardal cymeriad ar wahn i fand o graig folcanaidd ardraws ochr ddwyreiniol yr ardal i'r dwyrain o Hyssington. Mae'r priddoedd sydd dros y sialiau yn rhai sydd yn traenio'n araf gan mwyaf a chleiau sydd yn llawn dwr yn dymhorol, ac mae'r priddoedd sydd dros y creigiaigneaidd i'r gogledd-orllewin o'r ardal cymeriad ac ar hyd yr ochr ddwyreiniol yn briddoedd, podsolig, brown sydd wedi eu traenio'n well. Ceir darnau bach a gwasgarog o goetir collddail hanner naturiol sydd yn weddillion hen forestydd ar y llethrau serthaf ar ovhr ddwyreiniol Todleth Hill, i'r gogledd o Lanerch, yn ardal Upper Snead, gyda darn o hen goetir a ailblannwyd yn The Llan.

I bob golwg mae'r patrwm anheddu yn dangos ehangiad at ddiwedd y canoloesoedd ac yn gynnar yn y cyfnod l-ganoloesol oddi wrth yr anheddiad hynach ger yr eglwys a'r castell cnewyllol yn Hyssington. Ailgodwyd yr hen gapel canoloesol a gysegrwyd i St Etheldreda ym 1875. Mae mewn mynwent sydd bron yn betryal gyda choed yw a wal gerrig ac mae yng nghysgod y castell mwnt a beili ar Castle Hill, sy'n dangos lle bu canlbwynt anheddiad cynnar y daeth Churchyard Farm neu Inn (Pinfold) a thalwrn yn rhannau hono. I bob golwg, mae canlbwynt yr anheddiad heddiw yn Hyssington, sydd rywfaint i'r de o'r eglwys a'r castell, yn dangos sut y symudwyd oddi wrth y canolbwynt cynharach, gan symud yn nes efallai at y ffordd o'r Ystog i'r Amwythig, gyda thai cerrig o'r 18/19eg ganrif, capel cerrig Methodistaidd Cyntefig o 1889, ysgol a godwyd ym 1872, heuadd bentref, hen efail ac efail hynach byth yn Efail Hen, gyda nifer o dai modern ar y cyrion. Yn y wlad o gwmpas ceir ffermydd gwasgaredig, gyda 500-1000m rhyngddynt. Fframiau pren sydd i'w adeiladau hynaf yn yr ardal, gan gynnwys ty hir ffrm bren o'r 15-16eg ganrif a gaewyd mewn cerrig amrywiol yn ystod y 18fed ganrif efallai. Yn ddiweddarach, codwyd y ty ffrm bren cymhleth o'r 17eg ganrif sef Hurdley Hall, yn ogystal ag adeiladau ffrm bren symlach o ddechrau neu ganol y 17eg ganrif yn Hyssington Farm, Cefn Farmhouse, Bank Farm, Broadway Cottages, Cwm-mawr, Little Hurdley ac Old Llannerch, ac yn achos ffermdy Pultheley mae gwaith rendro garw. I bob golwg defnyddiwyd cerrig bob amser i godi ffermdai ac adeiladau'r fferm yn hwyr yn y 17eg ganrif a'r 18fed ganrif, fel yn achos y gwaith ailadeiladu yng Nghwm-mawr, yn y Brithdir, lle ceir y dyddiad 1695 ar gyfer y ty, ac yn Woodgate Farm a Yew Tree Farm, ac a rendrwyd yn The Briars. Ceir adeiladau allanol traddodiadol gydag estyll tywydd yn Woodgate Farm, gydag ysguboriau ac adeiladau allanol ffrm ddur o'r 20fed ganrif ar bifer o ffermydd gan gynnwys Woodgate Farm, Brookhouse. Mae rhai ffermydd bellach wedi eu gadael fel yn achos y fermdy cerig bychan o'r 18fed ganrif a'r ysgubor gerrig yn Cabbulch (Cubbulch). Mae adeladau o'r 19eg ganrif a rhai diweddarach wedi eu codi o friciau bob amser, fel yn achos The Llanerch, ty mawr o ganol y 19eg ganrif gyda chonglfeini cerrig.

Ychydig y mae patrwm y caeau wedi newid ers dechrau'r 19eg ganrif oleiaf. Ar y tir is ceir caeau afreolaidd bach gyda gwrychoed amlrywogaeth, y mae llawer ohonynt wedi gordyfu, a cheir coed talach ar hyd cyrsiau dwr. Awgrymir darnau o dir r agored o'r canoloesoedd gan yr elfen maes yn enwau'r caeau ar fapiau dyrannu degwm y 19egganrif, sy'n dangos darn o dir r caeau-agored o bobtu'r nant ychydig i'r gorllewin o'r eglwys a'r castell yn Hyssington ac yn Maesissa Green i'r de o'r pentref. Gwelir linsiedi ar y llethrau serthaf, a cheir darnau o dir cefnen a rhych sy'n awgrymu bod yma dir r agored canoloesol mewn mannau yn yr ardal, gan gynnwys caeau i'r de o gastell Hyssington, i'r dwyrain o Cabbulch, i'r gogledd a'r gorllewin o Bagbury, ac i'r gogledd o Upper Snead. Roedd y rhan fwyaf o'r ardal wedi ei chau erbyn canol y 19eg ganrif, ac eithrio darnau bach o gomin ym mhentreflan Hyssington ac ychydig i'r dwyrain o goed Llan. Hefyd dangosir bod ln gul tua'r gogledd heb ei chau yr adeg honno a arweiniai i'r gogledd o Woodgate Farm i gyrraedd y tir pori uchel ar Corndon Hill, a elwid hefyd yn Corndon Forest, o'r ffermydd is yn yr ardal cymeriad, lle bu dyfarniadau cau tir ym 1857. Mae'n debyg bod caeau ar beth o'r tir uwch i'r gogledd yn dangos lle caewyd tir ar l y canoloesoedd, ac mae ganddynt gwrychoeddo'r ddraenen wen yn aml, a'r rheiny bellach yn teneuo neu wedi gordyfu. Ar y tir uwch, cerrig a ddefnyddiwyd i gau rhai o'r caeau.

Mae'n amlwg bod rhai o'r ffyrdd, y lonydd gwyrddion a'r llwybrau llydan yn hen iawn, ac maent yn rhedeg mewn ceuffyrdd a lonydd gwyrddion rhwng ffermydd. Fel a nodwyd uchod, cofnodyd y ffordd rhwng Bagbury a Hyssington mewn dogfennau a'r 13eg ganrif gynnar. Mae'r ln gul a throellog rhwng Brithdir a Woodgate Farm, sydd gwrychoedd ar ochr y ffordd mwy o bellter rhyngddynt, yn awgrymu bod llwybr llydan lletach a chynharach yma a gafodd ei ffurfioli, ac mae'n debyg ei fod yn cael ei ddefnyddio i yrru gwartheg o'r ffermydd ar y tir isel i'r porfeydd uchel ar Corndon Hill. Gwnaed nifer o welliannau i'r ffyrdd yn ystod y 19eg ganrif, gan gynnwys y 'New Road'sy'n mynd heibio Llanerch, gan ddisodli'r ln fwy hynafol i'r gogledd, i ymuno ffordd Minsterley (A488) a wnaed yn ffordd dyrpeg ym 1822, a gwelir yr hen dolldy yn Toll House Farm, a godwyd o gerrig amrywiol gyda chonglfeini o friciau.

Mae olion chwareli bas ar y brigiadau picrit i'r gogledd o Cubbulch sy'n dyddio efallaio'r Oes Efydd. Dangosir chwareli cerrig hwnt ac yma yn yr ardal i'r de o Hyssington ar fapiau'r Ordnans ar ddiwedd y 19eg ganrif. Nodwyd rhai ohonynt gyda'r geiriau 'Old Quarry' ac mae'n amlwg nad oeddynt yn dal i fod yn gynhyrchiol, ond mae'n bosibl bod rhai ohonynt yn cael eu defnyddio o hyd i gael ychydig o gerrig ar gyfer ffyrdd ac adeiladau bryd hynny.

Ffynonellau cyhoeddedig

Brown, Colvin & Taylor 1963
Charles 1938
Chibnall 1973
Clough & Cummins 1979; 1988
Coope 1988
Earp & Haines 1971
Eyton 1854-60
Haslam 1979
Hogg & King 1967
Mountford 1928
Roe 1979
Shotton, Chitty & Seaby 1951
Silvester 1992
Soil Survey 1983
Sothern & Drewett 1991
Thomas 1916
Thorn & Thorn 1986
Toghill 1990
Willans 1908

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.