CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn


Tirweddau Diwydiannol

Mae'r gweithgarwch diwydiannol cynharaf yn yr ardal hon yn dyddio i'r Oes Efydd gynnar, sef y chwareli basa geir yn yr ardal i'r gogledd o ffermydd Cwm-mawr a Cabbulch, Hyssington, a oed mae'n debyg yn ffynhonnell ar gyfer y garreg folcanaidd a elwir picrit a ddefnyddir i wneud mathau o fwyell frwydro a morthwylion bwyeill a ddosrannwyd yn bennaf o gwmpas rhannau uchaf Hafren, ond a geir hefyd mor bell chanolbarth yr Alban a phen pellaf Cernyw. Cynhyrchid yr offer gan ddefnyddio techneg o bigo araf a graddol, ac felly - yn hytrach na'u cynhyrchu ar y safle - mae'n debyg bod yr offer yncael eu paratoi mewn un man, fel math o ddiwydiant bwthyn efallai, o ddarnau priodol o garreg a godwyd o ochr y bryn.

Chwaraeodd cloddio am gerrig adeiladu a cherrig ffordd ranfechan ond pwysig yn economi'r ardal yn y cyfnod canol a'r cyfnod l-ganoloesol cynnar. Tan ddiwedd y 17eg ganrif, o bosibl, roed mwyafrif yr adeiladau wedi eu codi o bridd neu goed, ar wahn i ddyrnaid o eglwysi fel y rhai yn Chirbury a Threfaldwyn lle ceir ffabrig o hys o'r 13eg ganrif, a nifer fechan o gestyll cerrig, fel Castell Trefaldwyn, yn ogystal nifer o gestyll llai lle honnir bod adeileddau cerrig wedi goroesi. Ni wyddys lle roedd chwareli'r canoloesoedd, ond ceir chwareli bach ar hyd a lled yr ardal, ceir dyddodion sil i'r gorllewin o Drefaldwyn ac i'r gogledd a'r dwyrain o Ffordun, a chreigiau igneaidd yn ardal Marrington Dingle, i'r gogledd o'r Ystog ac i'r de o Hyssington, rhai ar gyfer cerrig adeiladu, yn enwedig at ddiwedd y 17eg ganrif a'r 18fed ganrif, a rhai ar gyfer cerrig ffordd yn y 18fed ganrif a'r 19eg. Ceid chwarli bach ar gyfer gro hefyd yn ardal Chirbury-Walcot. Roedd diwydiannau chwarleu eraill yn yr ardal yn cynwys pyllaubachar gyfer baritau ar ochrau deheuol a gorllewinol Roundton Hill a oedd wedi peidio chynhyrchu erbyn diwedd y 19eg ganrif.

Yn raddol disodlwyd coed a cherrig gan friciau o'r 18fed ganrif ymlaen, a'r adeilad briciau cynharaf yn yr ardal yw'r plasty a godwyd gan yr Arglwydd Herbert o Chirbury - sydd bellachwedi ei ddymchwel - yn ward fewnol Castell Trefaldwyn yn yr 1620au. Gwelir cynhyrchu ar raddfa fechan, dim ond ar gyfer un neu ddau o adeiladau efallai, at ddiwedd y 17eg ganrif a'r 18fed, lle mae pyllau clai bach neu mewn enwau caeau sy'n awgrymu lle bu odyn gynt, a gofnodwyd adeg y degwm, feler enghraifft i'r gorllewin o Neuadd Pen-y-bryn, i'r gorlewin o Wern-y-go, i'r gogledd o Gunley Hall, i'r de-ddwyrain o Rhiew Goch, i'r gorllewin o Drefaldwyn, ac yn ymyl The Meadows, lle codwyd y ty o ddechrau'r 19eg ganrif o friciau a wnaed ar y safle. Codwyd y ffermdy a'r cyfadail mawr o adeiladau fferm yn Nantcribba o friciau lleol hefyd, a gynhyrchwyd ar Ystad Leighton, ac mae llythrennau cyntaf John Naylor, a sefydlodd yr ystad, ar rai ohonynt. Sefydlwyd canolfannau cynhyrchu mwy - er eu bod yn dal i fod ar raddfa fechan ar gyfer anghenion lleol - yn Stalloe a Chaemwgal i'r gogledd o drefaldwyn, yn yr ardal i'r gogledd o Chirbury, ar ochr orllewinol yr Ystog ac yn Owlbury, yn ymyl Snead, basedlle ceir dyddodion o glai rhewlifol ar waelod y dyffryn. Parhaywd i gynhyrchu briciau mewn rhai achosion tan flynyddoed olaf y 19eg ganrif, ond yn y man methwyd cystadlu yn erbyn y cynhyrchion rhatach o fannau pellach a oed yn cyrraedd ar y rheilffordd ac yna ar y ffyrdd. Roedd nifer o'r gweithfeydd hefyd yn cynhyrchu pibellu traenio. Roedd gofyn amy rhain yn lleol yn ystod y 19eg ganrif, i gynorthwyo i draenio'r gwlyptiroedd isel a'r gwernydd ar hyd dyffrynnoedd Camlad a Chaebitra. Roedd y gweithfeydd briciau yn yr Ystog hefyd yn cynhyrchu potiau blodau a chawgiau. Mae'n bosibl mai dim ond yn Stalloe mae rhai i'w gweld o hyd.

Cymharol ychydig o weithgynhyrchu a geid yn yr ardal ar wahn i'r uchod, ar l y canol oesoedd, ond ceir nifer fechan o unedau diwydiannol ysgafn mewn nifer o fannau hefyd, fel yn Hen Domen, Trefaldwyn a Ffordun. Ymgymerwyd nifer o ddiwydiannau crefft ar raddfa fechan yn y gorffennol, gan gynnwys gofa, a welir yn achos hen siopau gof yn Chirbury, Hyssington, Ffordun, Stockton, Cwm Cae a'r Ystog, ac mae rhai ohonynt i'w gweld byth.

Defnyddiwyd grym dwr gan nifer o felinau grawn a blawd a godwyd ar lawer o'r prif ffrydiau ledled yr ardal - ar y Gaebitra, y Gamlad uchaf i'r dwyrain o'r Ystog, ar hyd Marrington Dingle, a'r Gamlad isaf i'r gorllewin o Chirbury. Gwyddys trwy ddogfennau am felinau canoloesol o'r 12fed ganrif hwyr a'r13eg ganrif yn Walcot, Yr Ystog a Stalloe, yn ymyl Trefaldwyn, ac yng Ngwern-y-go, a rhodwyd llawer o'r melinau i'r canonau ym mhriordy Awgwstaidd Chirbury ac roedd y felin yng Ngwern-y-go yn perthyn i abaty Sistersaidd Cwmhir. Mae safle llawer o'r melinau canoloesol yn ansicr, ond tybir bod rhai yn sail ar gyfer cyfadeilau melin diweddarach a oedd yn gweithio rhwng y 18fed ganrif a dechrau'r 20fed. Ymddengyd fod nifer o felinau, gan gynnwys y rhai yn Bacheldre, Pentre, Mellington a Broadway, wedi eu hailadeiladu neu eu hadnewyddu yn ystod y 16eg a'r 17eg ganrif gynnar. Mae'n debyg eu bod, fel y melinau canoloesol o'u blaen, wedi eu gwneud o goedac nid oes yr un wedi goroesi, ac fel arfer maent wedi eu disodli gan adeiladaau cerrig yn ystod y 17eg ganrif hwyr a dechrau'r 18fed, ac yna gan felinau briciau yn ystod y 18fed ganrif hwyr a dechrau'r 19fed. Roed codi melin yn ystod unrhyw ygfnod yn golygu cryn fuddsoddiad, nid yn unig ar gyfer yrcadeiladau ond hefyd ar gyfer y dyfrffosydd, y sliwsiau a'r pyllau i reoli'r dwr a oedd yn troi'r peiriannau. Mae'n debyg bod y felin ganoloesolyng Ngwern-y-go wedi ei bwydogan ffos hyd at 1km mewn hyd o'r enw 'Grange Ditch', a gludai ddwr o'r Gaebitra. Bwydid Bacheldre Mill gan ffos hyd at tua 800m o arweiniai o'r Gaebitra ymhellach i lawr. Sefydlwyd llawer o'r melinau diweddarach fel melinau pannu, gan gynnwys nifer o felinau yn Marrington Dingle. Methodd llawer o'r melinau chystadlu a rhoddwyd y gorau iddynt yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, a thrdd eraill at ddefnydd gwahanol. Ar gyfer bragu y defnyddid Bacheldre ar un adeg, ond yng nghanol y 19eg ganrif fe weithiai ar gyfer lliwio hefyd. Newidiwyd Mellington Mill i gynhyrchu papur cras yn y 18fed ganrif, ond roedd wedi ei chwalu erbyn diwedd y ganrif. Roedd llawer o'r melinau wedi dod i ben erbyn diwed y 19eg ganrif, ond parhaodd eraill fel Pentre Mill, Gaer Mill a Broadway Mill i fod yn gynhyrchiol tan hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Yr unig felin sy'n dal i weithio yw'r felin ym Macheldre. Mae melinau eraill wedi eu dymchwel neu wedi eu newid ar gyfer defnyddiau eraill, ond gellir gweld olion ffosydd a phyllau o hyd mewn sawl safle.