CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Ystrad, Dinbych a Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, Sir Ddinbych
(HLCA 1059)


CPAT PHOTO 811.15A

Tirwedd o ffermydd mawr gwasgaredig a chaeau tir pori petryalog ar lethrau naill ochr i Afon Ystrad, yn edrych dros ochr orllewinol y dyffryn, ychydig i'r de o Ddinbych

Cefndir hanesyddol

Yn rhannol ym mhlwyfi eglwysig canoloesol Dinbych a Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch,ac yn weinyddol yng nghwmwd Is Aled a Cheinmeirch yng nghantref hynafol Rhufoniog

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Tir llethr yn edrych dros ochr orllewinol y dyffryn i'r de o Ddinbych, rhwng 40-100m uwch lefel y mr, a rennir yn ddau gan geunant coediog llethrog Afon Ystrad, sgarpiau'r afon yn prysur erydu mewn mannau gyda thir mwy gwastad ar hyd glannau'r Ystrad a tuag at y dwyrain ac ar y bryniau i'r gorllewin.

Ffermydd gwasgaredig, 800m yn eu gwahanu'n gyffredinol, gan gynnwys ffermdy briciau o ddechrau'r 18fed ganrif yn Ystrad-isaf, ffermdy a thai allan 18fed/19eg ganrif o galchfaen a briciau yn Fferm Ystrad, Llwyn-bach, Llwyn-uchaf, a Phen-y-maes, ffermdy briciau 19eg ganrif Fferm Brondyffryn, a ffermdy a thai allan 20fed ganrif Fferm Goblin, ymddengys y ffermdai llai yn y bryniau i'r gorllewin yn hyn. Dymchwelwyd y plas o gymeriad 19eg ganrif ym Mhlas Ystrad. Anheddiad bychan o gwmpas croesffyrdd gydag amryw o dai calchfaen o'r 18fed/19ef ganrif, a chapel calchfaen o ddiwedd y 19eg ganrif yn yr Hen-efail, a dyfodd, fel yr awgryma'r enw, o gwmpas gefail gof.

Caeau pori petryalog, llethrog o faint canolig i fawr, gyda gwrychoedd caeau o ddraenen wen wedi eu cynnal yn dda, mae rhai o'r caeau mwyaf wedi eu rhannu gan ffensys pyst a gwifren. Ambell bostyn git o garreg i'r caeau wrth ymyl y ffyrdd cyhoeddus

Gwrychoedd aml-rywogaeth ar ochr y ffyrdd bychain, gan gynnwys coed celyn a chyll ar hyd y ceunentydd ar y llethrau mwyaf

Tir nodweddion parcdir yn ymestyn o ysgol 19eg ganrif Brondyffryn a adeiladwyd o friciau a chyn-dy mawr a gerddi Tros-y-parc gyferbyn Fferm Brondyffryn yn rhedeg lawr i lan gogleddol Afon Ystrad, ger pont galchfaen Pont Felin-ganol o ddiwedd y 18fed neu ddechrau'r 19eg ganrif, gyda waliau calchfaen a rheiliau haearn ar ochr y ffordd.

Ffynonellau

Hubbard 1986
Richards 1969

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.