CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Cwm Elan
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan: Cwm Dulas
Cymunedau Llanwrthwl a Rhaeadr, Powys
(HLCA 1137)


CPAT PHOTO 03-c-0688

Tirwedd o ffermydd gwasgaredig a chaeau bychain afreolaidd o darddiad canoloesol neu ddiweddarach yn y cwm ucheldirol rhwng Carn Gafallt ac ucheldiroedd Elenydd, gydag arwyddion o weithgarwch llawer cynt, cynhanesyddol.

Cefndir hanesyddol a nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Dyffryn ucheldirol â Charn Gafallt i'r gogledd iddo a rhan o ucheldiroedd Elenydd i'r de. Mae llawr y dyffryn, rhwng 200 a 300 o fetrau uwchlaw'r Datwm Ordnans yn codi'n serth nes troi'n ucheldir ar uchder o ryw 400 metr. Mae coetiroedd o dderi cynhenid a lled-gynhenid hynafol megis Allt Ddu, Coedwig Talwrn, Coed Cefngafallt a Chrwnallt yn gorchuddio ochrau'r dyffryn gydag ambell gelli gyll tua llawr y dyffryn. Er na nodwyd unrhyw aneddiadau cynnar hyd yma, awgrymir gweithgarwch cynnar yn nifer y darganfyddiadau gemwaith o statws uchel sy'n dyddio o ganol yr Oes Efydd, gan gynnwys modrwy aur fylchgron a gafwyd ger fferm Talwrn a chasgliad o bedair torch aur a gafwyd i'r dwyrain o fferm Cae-haidd. Gallai'r rhain awgrymu bod ambell fferm wedi'i sefydlu erbyn o leiaf 1500 CC.

Mae gwreiddiau'r dirwedd bresennol o ffermydd bychain a thyddynnod yn debygol o fod yn dyddio i raddau helaeth o'r canol oesoedd ac yn fuan wedi hynny. Mae nifer o lwyfannau segur yr oedd adeiladau pren sydd nawr wedi diflannu yn sefyll arnynt yn awgrymu anheddiad o'r canol oesoedd. Mae'r ffermdy yn Nhalwrn sy'n dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif i ddechrau'r 16eg, a oedd unwaith yn dy hir o bren â nenfforch iddo, ond a ailgodwyd yn rhannol o gerrig ar ddiwedd yr 17eg ganrif yn awgrymu gorwel adeiladu cynnar. Gwyddys i nifer o'r ffermydd presennol, megis Cefn, Crownant (Crawnant) a Blaen-y-cwm fodoli yn y 16eg ganrif neu ddechrau'r 17eg ond mae'n bosibl bod eu gwreiddiau yn gynt, a bod casgliadau o adeiladau fferm â ffermdai a thai allan o garreg yn eu nodweddu. Byddai rhai o'r rhain wedi'u hadeiladu yn wreiddiol ar ffurf ty hir, yn cynnwys lle i bobl ac anifeiliaid o dan yr un to. Mae'r adeiladau fferm nodweddiadol yn cynnwys ysguboriau gwair neu ysguboriau dyrnu o'r 18fed a'r 19eg ganrif, ag agennau awyru ganddynt.

Caeau bychain afreolaidd sy'n ymestyn i ochrau serth y cwm sy'n nodweddu tirwedd caeau'r ffermydd hyn. Mae'n bosibl fod llawer ohonynt wedi'u creu trwy glirio coetir llydanddail cynhenid ar hyd ochrau'r cwm, ac mae gwrychoedd amlrywogaeth yn eu hamgylchynu. Mae waliau cerrig yn ffinio nifer fechan o'r caeau. Defnyddir y rhan fwyaf o'r tir heddiw fel porfa, ond mae'r glasleiniau a ffurfiwyd a'r enwau lleoedd a gododd, megis Cae-haidd yn dystiolaeth bod mwy o amaethu yn digwydd yma yn y gorffennol. Gwelir enghreifftiau o ddiboblogi gwledig yn y 19eg a'r 20fed ganrif yn y bythynnod a'r tai segur sydd erbyn hyn yn adfeilion. Plannwyd conwydd yn rhai ardaloedd yn yr 20fed ganrif, er enghraifft y rhai ger Y Clyn lle gorweddai caeau hynafol. Rhywfaint o dir â draeniad gwael ar lawr y dyffryn.

Ffynonellau

Bidgood 1995; Jones & Smith 1963; T. Jones 1909-30; Savory 1958, 1980; Smith 1975; Cofnod o Safleoedd a Henebion Rhanbarthol.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaet Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn, neu cysylltech â gwefan Comisiwn Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk