CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Bryn-y-Pys
Cymunedau Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1117)


CPAT PHOTO 1324-00 Ardal amrywiol a phrydferth sy'n cynnwys dolydd, tir fferm, llethrau coediog, hen barcdir sy'n berchen i nifer o blastai a chae rasio sy'n ymylu glannau dwyreiniol Afon Dyfrdwy, ynghyd nifer o groesfannau afon strategol.

Cefndir hanesyddol

Efallai bod y fryngaer gynhanesyddol o Oes yr Haearn sydd ar lannau afon Dyfrdwy, sef caer bentir Glannau Gwernheylod, yn cynrychioli anheddu cynnar o bosibl. Yn l hen ddehongliadau, castell mwnt a beili canoloesol wedi'i ddifrodi yw'r gaer. Hefyd roedd Madog ap Meredudd, arweinydd Powys, wedi sefydlu canolfan faenorol bwysig yn yr ardal hon oddeutu 1138 ac mae'n debygol bod hyn yn arwydd o bwysigrwydd strategol yr ardal. Tybir bod y ganolfan hon yn gysylltiedig chastell y mae Afon Dyfrdwy bellach wedi'i olchi ymaith yn ardal Parc Asney. Erbyn diwedd y 13eg ganrif, roedd melin wedi'i sefydlu ar lannau afon Dyfrdwy, yn l pob tebyg, ger y gored bresennol i'r de o Fin-yr-afon. Hefyd, sefydlwyd pysgodfa, yma erbyn diwedd y 13eg ganrif, ar gyfer eog am a wyddys, ac ar un adeg roedd mynachlog Sistersaidd Abaty Glyn y Groes yn berchen ar yr hawliau pysgota.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Dolydd a thir fferm ar lannau dwyreiniol Afon Dyfrdwy, yn gyffredinol rhwng 15 a 60 metr uwchben y Datwm Ordnans, lleiniau troellog o goedwig llydan-ddeiliog hynafol a phlanhigfeydd conwydd a phoplys mwy diweddar ar y llethrau mwy serth a glannau'r afon. Porfa yw'r prif ddefnydd tir modern.

Mae'r aneddiadau presennol wedi'u cyfyngu yn bennaf i nifer o ffermydd gwasgaredig ynghyd nifer fach o dai a bythynnod ar ymyl y ffordd, gan gynnwys nifer o borthdai ac adeiladau eraill a oedd yn gysylltiedig phlastai. Mae'r ty ffrm bren yn Althrey Hall, oddeutu 1.5 cilomedr i'r de-orllewin o Fangor Is-coed, yn cynrychioli aneddiadau canoloesol hwyr neu aneddiadau cynharach posibl. Adeiladwyd y neuadd ar safle neuadd cynharach ffos o bosibl, a tybir iddo gael ei adeiladu i Richard ap Howel ar ddiwedd y 15fed ganrif. Mae statws uchel y ty wedi cael ei gydnabod ers nifer o ganrifoedd; cafodd ei ddisgrifio gan John Leland fel ty teg yn y 1530au a thynnwyd llun ohono gan yr arlunydd topograffig John Ingleby ym 1780. Bellach, mae dau blasty pwysig yn yr ardal nodwedd wedi'u dymchwel - Ty Gwernheylod, sef ty a oedd yn dyddio o'r 17eg ganrif a ddymchwelwyd oddeutu 1860, a Bryn-y-Pys, ty Sioraidd a adeiladwyd yn y 1730au yn l pob tebyg a ddymchwelwyd yn y 1950au - roedd y rhain yn ganolfannau stadau, a'r ddau'n gysylltiedig ag adeiladau a oedd yn adlewyrchu diddordeb ar ddechrau'r 19eg ganrif mewn adeiladau enghreifftiau model o adeiladau stad. Safai Gwernheylod ar ymyl ardal o goed a oedd yn gysylltiedig pharcdir ar lannau afon Dyfrdwy. Ymhlith yr adeiladau sydd wedi goroesi am gyfnod hwy na'r ty mae bloc stablau brics o ddechrau'r 19eg ganrif, golau'n dod trwy ganol y to a cholomendy, ger cloddweithiau hen ffugadeilad o'r 18fed ganrif yn Castle Wood lle byddai canonau bychain yn cael eu tanio o bryd i'w gilydd. Yn gyffelyb, mae'r parcdir ym Mryn-y-Pys wedi goroesi am gyfnod hwy na'r plasty a oedd unwaith wedi'i leoli oddeutu 1.5 cilomedr i'r gogledd-ddwyrain o Owrtyn [Overton]. Mae'r hen stablau brics a adeiladwyd yn y 18fed ganrif cherbyty a cholomendy, yn cynnwys oddeutu 80 o flychau colomennod, ynghyd phorthdai, pyst giatiau a giatiau nodweddiadol hefyd wedi goroesi. Pan oedd yn gartref i Richard Parry Price, ymwelodd Thomas Pennant 'r ty yn yr 1780au pan roedd yn meddu ar gasgliad gwych o adar gan gynnwys pr o fwlturiaid Angolaidd.

Roedd lleoliad prydferth y grwp hwn o blastai, ger glannau Afon Dyfrdwy, yn bwysig yn hanes eu datblygiad yn ystod y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Yn achos Gwernheylod (Gwernhailed) gwnaeth Pennant y sylwadau canlynol:

'the seat of Mr. Fletcher, in this parish, must not pass unnoticed. Few places command so rich a view; and few have been more judicously improved. It stands on the lofty brow that skirts the country. Beneath runs the Dee'.

Mae Pennant yn dweud yn ei ddisgrifiad bod llif afon Dyfrdwy ger Overton Bridge 'picturesquely between lofty banks, admirably described by the inimitable pencil of Mr. Sandy', ac mae'n ailadrodd hyn yn ei Twelve Views of North Wales a gyhoeddwyd ym 1776. Ymhlith adeiladau presennol sy'n dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif sydd wedi manteisio ar leoliad prydferth Overton Bridge mae'r ty mawr o garreg ym Min-yr-afon. Mae'n bosibl bod hwn wedi'i ailfodelu o adeilad cynharach. Mae Parc Asney yn nodweddiadol o'r ffermdai symlach, mwy o ran maint, yn yr ardal nodwedd. Ffermdy brics dau lawr sy'n dyddio o ddiwedd y 18fed ydyw, tho llechi, wedi'i leoli yn nolen afon Dyfrdwy oddeutu 2 cilomedr i'r gogledd-orllewin o Owrtyn [Overton].

Cofnodwyd rhywfaint o ardaloedd tirwedd cefnen a rhych gwahanredol ger Althrey Hall, Asney Park Farm a Maes-Gwaelod, ac mae'n debyg bod hyn yn cynrychioli cae agored canoloesol bach, fel y mae'r elfen enw lle maes hefyd yn ei awgrymu. Mae cyfeiriadau dogfennol at gaeau llain yn ardal Althrey yn y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif hefyd yn awgrymu gwreiddiau canoloesol y dirwedd cefnen a rhych. Hefyd, ceir cyfeiriadau at y ddl gomin yn Althrey yng nghanol yr 16eg ganrif. Yn l pob tebyg, dolydd ar lan yr afon oedd y rhain yn ardal Cae Rasio Bangor heddiw. Yn gyffelyb, roedd dolydd comin wedi'u cymysgu lleiniau o goedwig a thir r gweddol fach a gwasgaredig lle mae dolydd ar lan yr afon i'r gorllewin o Owrtyn [Overton] heddiw, ac mewn mannau eraill ar hyd lan yr afon. Patrwm o gaeau mawr gweddol afreolaidd yw'r patrwm caeau a welir fwyaf y dyddiau hyn. Datblygodd y patrwm defnydd tir amrywiol hwn o ganlyniad i gau tir, o ganol yr 16eg ganrif ymlaen, yn l pob tebyg. Ymhlith adeiladau fferm arwyddocaol mae'r ysgubor ffrm bren o'r 17eg ganrif yn Althrey Woodhouse. Mae pyllau marl wedi'u gwasgaru'n denau ledled yr ardal yn y caeau uwchben y gorlifdir, ac mae'n debyg bod y rhan fwyaf o'r rhain yn dyddio o ddiwedd y canol oesoedd neu ddechrau'r cyfnod l-ganoloesol.

Mae'r briffordd o Owrtyn [Overton] i Riwabon a Wrecsam yn croesi'r ardal. Hen ffordd dyrpeg yw hon yn croesi Afon Dyfrdwy dros Overton Bridge, pont garreg o ddechrau'r 19eg ganrif a ddisodlodd fferi gynharach. Roedd rhyd a fferi arall yn croesi'r afon yn ne'r ardal, rhwng Erbistog [Erbistock] a Llan-y-cefn.

Ffynonellau


Lewis 1833
Howson 1883
Hubbard 1986
King 1983
Pennant 1784
Pratt 1965
Pratt & Veysey 1977
Smith 1988
Smith 2001
Silvester et al. 1992
Sylvester 1969
Williams 1990
Listed Building lists
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.