CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Canol Dyffryn Wysg
Yn ôl i’r disgrifiad

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Wysg: Aberhonddu
Ffotograffau o'r ardal nodwedd


CPAT PHOTO 05-C-170 Golygfa o Aberhonddu o’r de gyda maestref Llan-faes a Choleg Crist i’r chwith o’r afon Wysg ac Eglwys Priordy Sant Ioan, sef Eglwys Gadeiriol Aberhonddu bellach, tuag at y canol, i’r dde o’r afon. Mae’n ymddangos y sefydlwyd yr anheddiad cynnar ar bwys y castell a’r priordy ar ochr bellaf dyffryn coediog afon Honddu, wedyn yn ymestyn i ardal y dref ganoloesol a gynlluniwyd tuag at yr ochr dde. Mae’r tai yn y cefndir yn cynrychioli ehangu’r dref yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Llun: CPAT 05-C-170.

CPAT PHOTO 05-C-174 Golygfa o Aberhonddu, o’r de-orllewin, yn dangos tiroedd coediog Gwesty’r Castell ac olion y castell canoloesol yn y tu blaen ar y dde a’r Eglwys Gadeiriol tuag at y chwith. Mae’r bont ganoloesol sy’n croesi afon Wysg i’w gweld yn y tu blaen. Llun: CPAT 05-C-174.